Yn arwain y ffordd wrth ddarparu cyfleoedd eithriadol yn y cefyddydau i’r bobl ifanc fwyaf talentog o bob cefndir ac o bob cwr o Gymru.
Sefydlwyd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2017 i uno ac arwain y gwaith o ddatblygu’r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol mawreddog a hirsefydlog, sef Band Pres, Cerddorfa, Côr, ensemble Dawns, a Theatr.
Mae’r rhai sy’n cael eu derbyn i fod yn aelodau am flwyddyn ar ôl clyweliad llwyddiannus yn cael hyfforddiant a chyfleoedd perfformio eithriadol gyda cyrsiau preswyl dwys a phleserus sy’n cael eu cynnal yn ystod gwyliau’r ysgol. Dim ond y cerddorion, actorion a dawnswyr ifanc mwyaf talentog sy’n cael eu dewis, ac mae llawer o gystadleuaeth. Fel corff sydd wedi ymrwymo i sicrhau mynediad a chynhwysiant i bawb, beth bynnag fo’u cefndir neu eu lleoliad, mae Bwrsariaeth CCIC yn sicrhau bod unigolion dawnus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gymryd rhan ac i ragori.