Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gwyl Hub Festival

Bob penwythnos banc mis Awst, ry’n ni’n cymryd dros sawl gigfan ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd – 150 band byw // 3 diwrnod // 1 band garddwn. 

Roc, Reggae, Gwerin, Blŵs, ffync, Hip Hop, Pop, Jazz, electronig, indi, Psych, Metal – llwyth o genres yn gweithio yn gweithio gyda hyrwyddwyr, cerddorion a gigfannau’n gwethio gyda’i gilydd i ddangos i bawb bod Caerdydd yn bownsio! 

Yn ogystal â hyn mae Comedi, llefaru a cherddi, perfformiadau celf, graffiti byw, dawnsio stryd, perfformiadau carnifal, disgo distaw, gweithdai, DJs, nosweithiau mic agored, bysgwyr a llawer mwy!

Noson Neithiwr yn Nghlwb Ifor Bach

Yn dilyn Gwyl Neithiwr llwyddiannus ym Mangor, bydd yr wyl yn teithio lawr i’r de gyda lein -yp anhygoel am barti trwy’r dydd yn Clwb.

Dydd Sadwrn 21/03/20

Forté Project

Mae’r FORTÈ PROJECT yn brosiect datblygu cerddoriaeth wedi ei leoli dros bum sir yn Ne Cymru, sydd yn canolbwyntio ar ddeg artist neu grŵp y flwyddyn dros ystrad eang o genres. Mae’r prosiect yn ffocysu ar weithdai hunan ddatblygu, dosbarthiadau diwydiant cerdd, mentora personol a chynnig cyfleoedd gig, yn ogystal â chefnogi artistiaid yn ariannol ac yn greadigol. Mae’r Fortè Project nawr yn ei bumed flynedd yn 2020, a fydd chyn bo hir wedi gweithio gyda hyd at 50 o artistiaid sydd wedi llwyddo mewn sawl maes dros y DU ac yn rhyngwladol.

Y Pod

Mae Y Pod yn wasanaeth podlediadau i hyrwyddo a chefnogi Podlediadau trwy gyfrwng y
Gymraeg. Bwriad Y Pod yw creu gwasanaeth podlediadau ar amryw blatfformau sydd yn gwneud hi’n haws i ddarganfod podlediadau Cymraeg. Mae Y Pod yn cynnig gwasanaethau hyrwyddo podlediadau, recordio a chynhyrchu, a chyrsiau ar sut i greu podlediad

Yeah Yeah Yeahs @ Barfly, Cardiff

WAIT!

They don’t love you, like I love you!

22nd February 2003

Barfly Cardiff

Such an incredibly candid moment caught almost 17 years ago to the day that the Yeah Yeah Yeahs did a surprise Cardiff show.

Beautiful dedication of Maps to our city & to local legendary band The Loves who would go on to tour with YYY hitting up New York with them too!

If you love stuff like this – make sure you also check out Cardiff Music History – they have nostalgia in abundance.

But this is pure magic.

Filmed by: Filthy Little Angels

Mas ar y Maes

Partneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Stonewall Cymru.

Bwriad y prosiect yw cynyddu gwelededd a phresenoldeb materion LHDT ynghyd â chodi ymwybyddiaeth a chynrychiolaeth mewn rhwydweithiau a gofodau lle caiff y Gymraeg ei defnyddio, a chynhelir gweithgareddau o bob math ar hyd a lled Maes yr Eisteddfod.

Mae rhaglen Mas ar y Maes yn cynnwys trafodaethau, perfformiadau, darlleniadau a llawer mwy – o adloniant ysgafn i sgyrsiau dwys a difyr.

Ffrindiau Gigiau / Gig Buddies

Ydych chi’n credu fod gan pawb yr hawl i fynd i’r gigs a digwyddiadau maent yn eu caru, i gael hwyl, ac i aros allan yn hwyr?

I nifer o bobl gyda anableddau dysgu mae hyn yn amhosibl,

Yn Ffrindiau Gigiau rydym yn paru pobl sydd gan anabledd dysgu neu awtistiaeth gyda gwirfoddolwyr sydd yn rhannu’r un diddordebau er mwyn iddynt fynychu gigs a digwyddiadau gyda’i gilydd.

Mae Ffrindiau Gigiau yn canolbwyntio’n benodol ar ddigwyddiadau sydd yn cael eu cynnal gyda’r nos, er enghraifft cyngherddau, er mwyn gorchfygu’r rhwystrau sydd yn atal pobl gyda anableddau dysgu rhag mynd allan yn y nos neu aros allan yn hwyr. Mae’r rhwystrau yma yn cynnwys diffyg cefnogaeth neu gefnogaeth anhyblyg sydd yn gorfodi pobl i adael digwyddiadau yn fuan. Mae rhwystrau eraill yn cynnwys trafnidiaeth, hyder, diogelwch (megis gwahaniaethu a throseddau casineb), diffyg ymwybyddiaeth o beth sydd yn digwydd a diffyg hygyrchedd mewn lleoliadau a digwyddiadau.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd gyda rhai oriau sbar bob mis i fynychu gigs a digwyddiadau gyda’u Ffrind Gigiau.

Rydym hefyd yn chwilio am oedolion sydd gyda anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a fyddai’n hoffi Ffrind Gigiau i gynnig cymorth yn mynd allan mwy a gwneud y pethau maent yn caru.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar hyd Dê Cymru ym Mhen y Bont, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf ac ym Mro Morgannwg – ac yn chwilio am yr arian i wasanaethu pobl hyd Gymru oll.

Gig Buddies – Ffrindiau Gig – Highlights from our First 18 Months!

Gig Buddies / Ffrindiau Gigiau matches adults with a learning disability and/or autism with a volunteer who shares the same interests so they can go to gigs and events together.

We started on 1 April 2018. This is a short film with some of the many highlights of our first 18 months!

Gig Buddies / Ffrindiau Gigiau is a Learning Disability Wales project, funded by First Choice Housing Association.

Maes b

Gŵyl gerddoriaeth liw nos yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gŵyl Arall

Rydym yn falch y bydd Gŵyl Arall yn dal i ddigwydd yn 2020—ond mewn ffordd arall. Rydym wedi penderfynu cynnal amryw o sesiynau gwahanol arlein yn ystod mis Gorffennaf.

Byddwn yn rhyddhau amserlen newydd yn wythnosol ar Ddydd Gwener.

Does Dim Gair Cymraeg am Random

Podlediad yng nghwmni’r awdur o Gaerdydd, Llwyd Owen.

Ers mis Ionawr 2018, mae Llwyd wedi cynhyrchu, recordio a chyhoeddi hanner cant o benodau o’r podlediad, gan sgwrsio â rhai o fawrion byd celfyddydol Cymru, gan gynnwys Gruff Rhys, Lleuwen Steffan, Elis James, Ffion Dafis, Mark Roberts, Catrin Dafydd, Yws Gwynedd, Dyl Mei, Manon Steffan Ros, Carwyn Ellis, Jon Gower a llawer mwy.

Yn ogystal â chyfweliadau traddodiadol (ish), mae Llwyd wedi mynd i’r afael â rhai o faterion gwleidyddol y cyfnod cythryblus hwn yng nghwmni rhai o sylwebyddion mwyaf blaengar a di-flewyn ar dafod y Twittersphere, gan gynnwys Esyllt Sears, Garmon Ceiro, Gareth Madeley, Sioned Mills, Sara Huws, Elin Gruffydd a’r brodyr Pitts.
Rhybudd: Iaith Anweddus

Sŵn

Gwyl gerddorol aml-leoliad wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd yw Sŵn sydd wedi bod yn rhedeg ers 2007. Ers sefydlu’r wyl, mae Sŵn wedi bod yn canolbwyntio ar gerddoriaeth ag artistiaid newydd a lleol.
Drwy ddewis ein hoff leoliadau ar draws y ddinas ag artistiaid newydd, adfywiol sy’n cyffroi ni a chi, am 3 diwrnod, mae Caerdydd yn trawsnewid i fod yn ganolbwynt i ffanatigs a crewyr cerddorol, lle mae modd crwydro’r ddinas hynod yma a darganfod cerddoriaeth rhyfeddol.
Nid yw’r wyl yn gyfyngedig i un steil o gerddoriaeth. Mi rydym ni’n bwcio artistiaid sy’n cyffroi ni ag yn gobeithio eu bod nhw’n cyffroi chi hefyd.

BYD RHODRI – GŴYL SŴN 2019

Gofynnon ni i’n ffrind da Rhodri i ddatgelu’r holl gigfannau swyddogol fydd yn croesawi artistiaid yr wyl yn 2019….

GWYL NAWR Festival 2016

Volcano Theatre, Swansea – Nov 20, 2016
Dathliad o gerddoriaeth a ffilm arbrofol i gefnogi achosion ffoaduriaid lleol. / An all day experimental music and film celebration in support of local refugee causes. Featuring: Clive Bell / Douglas Benford / Kevin Ka Wei Chan / Euros Childs / Matt Collier / Angharad Davies / Rhodri Davies / Medi Evans / Daryl Feehely / David Garner / GINKO / ANi GLASS / Ian Holloway / Adam Howell / Simon Kilshaw / Jenn Kirby / Dan Linn-Pearl / Rose Linn-Pearl / Matthew Lovett / Patricia Morgan / Hiromi Okumura / Helen Papaioannou / David Pearl / Mike Pearson / Helen Petts / Michał Poręba / Damian Rees / Heike Roms / John Rowley / Fern Thomas / Aura Satz / Gwenno Saunders / Swansea Laptop Orchestra / Richard Thomas / Ian Watson / Valerie Williams

The Popty Ping Recording Company

Y Cwmni Recordio Popty Ping!
Rydyn ni’n rhyddhau senglau unigryw, gan fand gwahanol pob tro, pob tro ar 7” yn unig, a phob tro mewn nifer cyfyngedig ac wedi eu rhifo â llaw. Bydd y casgliad yn parhau tan i ni gyrraedd naw. Yna, byddwn yn rhyddhau casgliad ohonynt gan roi’r holl arian i elusen.
Yn amlwg, nid ydym yn gwerthu microdonau, ond rydym yn hoff o’r term Popty Ping!

Recordiau Jigcal Records

Sefydlwyd Recordiau JigCal yn 2011 i rhyddhau LP olaf Sibrydion – Uwch Ben Y Drefn. Ers hynny, ma Recordiau JigCal wedi mynd ati i gydweithio gyda llu o artistiad amlwg yn y sin Gymraeg fel Mellt, Cadno, Hyll, Wigwam, Mei Gwynedd ac Aled Rheon.
Yn ôl rheolwr y label, Mei Gwynedd – dau brif nod y label yw cydweithio gyda bandiau ifanc i gyrraedd potensial uchaf y cerddorion, a gweithio gyda ambell artist fwy profiadol i sicirhau eu bod yn cael sylw ar holl blatfformau modern y byd digidol Cymru a thu hwnt. Mae’r label yn cael ei redeg o Gaerdydd, law yn llaw gyda Sdiwdio JigCal. Anfonwch eich demos neu ymholiadau gigs i recordiaujigcal@hotmail.com

Trac

trac yw sefydliad Datblygu Traddodiadau Gwerin Cymru. Mae ein gwaith yn ffocysu ar ddathlu traddodiadau cerdd a dawns Cymru, datblygu perfformwyr – o ddechreuwyr hyd at y llwyfan rhyngwladol – annog diddordeb a gwneud yn siwr bod ein celfyddydau traddodiadol yn aros yn rhan berthnasol a chreiddiol o’n bywyd diwylliannol a’n hunaniaeth egnïol.

FOCUS Wales

Mae FOCUS Wales yn ŵyl rhyngwladol aml lleoliad a gynhelir yn Wrecsam pob blwyddyn, sy’n anelu goleuni’r diwydiant cerddoriaeth heb os ar y doniau newydd sy gan Gymru’n dod i’r amlwg i gynnig i’r byd. Mae FOCUS Wales 2021 yn nodi 10fed blwyddyn yr ŵyl – a bydd y 10fed tro yn croesawu dros 15,000 o bobl i’r dref, gan adeiladu ar record y nifer o fynychwyr yn 2019 ar draws llond penwythnos o ddigwyddiadau. Does unlle’n debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Wales, wrth inni arddangos 250 a mwy o fandiau, llenwi amrywiaeth o lefydd a lleoliadau i gerddoriaeth, gan wneud defnydd o 20 llwyfan, yn ogystal a chynnig sesiynau rhyngweithiol diwydiant cerddoriaeth, ffilm a ddigwyddiadau celfyddydol trwy gydol yr ŵyl.

Miwsig

Miwsig. Mae’n perthyn i ni gyd, o’r diwn sydd yn neud i ti ddawnsio i’r gân ti’n canu yn y gawod. Mae yna lond trol o fiwsig da yn cael ei greu yn Gymraeg ac ni yma i ddathlu’r dalent, y miwsig a’r iaith.

Larynx Entertainment

Platfform cyfryngol yw Larynx Entertainment sy’n hyrwyddo cerddoriaeth urban Gymreig.

Winger Records

Label Hip Hop annibynnol. Yn cynnal digwyddiadau byw ers 2015. Wedi’i sefydlu yng Nghaerfyrddin, Gorllewin Cymru, DU.

Radio Platfform

Gorsaf radio wedi’i arwain gan bobl ifanc yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Dy lais di, dy sŵn di, dy blatfform di. Ffeindiwch ni ar iTunes, Tunein a Mixcloud.