Ydych chi’n credu fod gan pawb yr hawl i fynd i’r gigs a digwyddiadau maent yn eu caru, i gael hwyl, ac i aros allan yn hwyr?
I nifer o bobl gyda anableddau dysgu mae hyn yn amhosibl,
Yn Ffrindiau Gigiau rydym yn paru pobl sydd gan anabledd dysgu neu awtistiaeth gyda gwirfoddolwyr sydd yn rhannu’r un diddordebau er mwyn iddynt fynychu gigs a digwyddiadau gyda’i gilydd.
Mae Ffrindiau Gigiau yn canolbwyntio’n benodol ar ddigwyddiadau sydd yn cael eu cynnal gyda’r nos, er enghraifft cyngherddau, er mwyn gorchfygu’r rhwystrau sydd yn atal pobl gyda anableddau dysgu rhag mynd allan yn y nos neu aros allan yn hwyr. Mae’r rhwystrau yma yn cynnwys diffyg cefnogaeth neu gefnogaeth anhyblyg sydd yn gorfodi pobl i adael digwyddiadau yn fuan. Mae rhwystrau eraill yn cynnwys trafnidiaeth, hyder, diogelwch (megis gwahaniaethu a throseddau casineb), diffyg ymwybyddiaeth o beth sydd yn digwydd a diffyg hygyrchedd mewn lleoliadau a digwyddiadau.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd gyda rhai oriau sbar bob mis i fynychu gigs a digwyddiadau gyda’u Ffrind Gigiau.
Rydym hefyd yn chwilio am oedolion sydd gyda anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a fyddai’n hoffi Ffrind Gigiau i gynnig cymorth yn mynd allan mwy a gwneud y pethau maent yn caru.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar hyd Dê Cymru ym Mhen y Bont, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf ac ym Mro Morgannwg – ac yn chwilio am yr arian i wasanaethu pobl hyd Gymru oll.