Klep Dim Trep

Yn 2006, mentrodd dau fachgen ysgol entrepreneuraidd o Wynedd i fyd rheoli a chyhoeddi cerddoriaeth. Dylanwadwyd eu penderfyniad ar ôl cyfarfod cerddor gwerin Cymraeg a oedd yn gweithio o dan yr enw ‘Alun Tan Lan’ a gynigodd y byddai rhyddhau eu cerddoriaeth gwreiddiol ar eu label ei hunain yn “gwneud killing” iddyn nhw.
Dros ddeg mlynedd yn ddiweddarach, ni wnaed killing yn anffodus, ond mae’r label yn dal i fodoli ac yn gwasanaethu fel allbwn i fyfyrdodau cerddorol Gruff ab Arwel a Dafydd Owain.
Welsh Music Podcast | Podlediad Miwsig Cymreig

Mae Podlediad Miwsig Cymreig yn bodlediad wythnosol sy’n dathlu cerddoriaeth a chelfyddyd Gymreig, o’r hen i’r newydd, ac i’r bobl helpodd i’w lunio. Wedi’i gynnal gan Neil Collins a James Cuff, dau ffrind a chyn-weithwyr, sy’n rhannu’r un angerdd am gerddoriaeth a phêl-droed, yn enwedig o Gymru! O’r Anrhefn i Zabrinski, ry’n ni’n trio trafod popeth, o’r amgen i’r newydd i’r artistiaid sydd wedi’i gwreiddio yn y sîn gerddorol ers tro, ar draws cerddoriaeth Cymraeg a Saesneg. Mae pob pennod yn cynnwys gwestai sy’n ymddiddori’n fawr mewn cerddoriaeth ac sydd wedi, mewn un ffordd neu’r llall, rhoi cerddoriaeth o Gymru ar y map diwylliannol. Byddan nhw’n trafod eu gyrfaoedd ac yn rhoi dadansoddiad trylwyr o’u hoff albym Gymreig, sydd yna’n cael eu rhoi yn ein ‘Hall of Fame’ Cerddoriaeth Gymreig. Rydyn ni hefyd yn awyddus i gynnwys penodau dogfen arbennig sy’n darganfod cyfnodau pwysig yn niwylliant Cymru. Cysylltwch os oes gyda chi unrhyw awgrymiadau gwesteion neu bynciau. Os ydych chi’n artist neu fand newydd, anfonwch biograffi a mp3 o’ch tracs gan ein bod ni’n mwynhau arddangos artistiaid newydd ar ddiwedd bob pennod.
Green Man Festival

Troediwch drwy gaeau gwyllt o chwerthin, llenyddiaeth, celf, gwyddoniaeth, drygioni a cherddoriaeth yng nghysgod godidog y Bannau Brycheiniog. Dewch i bartïo gyda ni yn ystod y dydd a than oriau man y bore, i flasu cwrw a seidr Cymreig a darganfod ardaloedd i’r plant neu cymrwch ran mewn gweithdai ffilm, celf a llenyddiaeth tra’n gwrando ar gerddoriaeth gwych!
Affricerdd

Recorded in Tŷ Cerdd Studio by James Clarke and Affricerdd participants, 6/11/19