Podlediad yng nghwmni’r awdur o Gaerdydd, Llwyd Owen.
Ers mis Ionawr 2018, mae Llwyd wedi cynhyrchu, recordio a chyhoeddi hanner cant o benodau o’r podlediad, gan sgwrsio â rhai o fawrion byd celfyddydol Cymru, gan gynnwys Gruff Rhys, Lleuwen Steffan, Elis James, Ffion Dafis, Mark Roberts, Catrin Dafydd, Yws Gwynedd, Dyl Mei, Manon Steffan Ros, Carwyn Ellis, Jon Gower a llawer mwy.
Yn ogystal â chyfweliadau traddodiadol (ish), mae Llwyd wedi mynd i’r afael â rhai o faterion gwleidyddol y cyfnod cythryblus hwn yng nghwmni rhai o sylwebyddion mwyaf blaengar a di-flewyn ar dafod y Twittersphere, gan gynnwys Esyllt Sears, Garmon Ceiro, Gareth Madeley, Sioned Mills, Sara Huws, Elin Gruffydd a’r brodyr Pitts.
Rhybudd: Iaith Anweddus