Bu STEVE EAVES yn perfformio ar lwyfannau fel cerddor ers dros 40 mlynedd, a daeth i amlygrwydd gyntaf fel bardd a gyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986). Y blws yw’r dylanwad pennaf ar ei waith erioed, ac mae’r ddisgyblaeth o sgrifennu barddoniaeth gynnil yn dangos yn glir yn ei ganeuon, ac hefyd y dylanwadau o fyd y jas a sawl math o ganu roc a gwerin. Mae ei fand, Rhai Pobl, yn dod o ardal Bangor / Bethesda yng Ngwynedd a buont yn cydweithio efo fo ers tros 20 mlynedd, gan recordio 9 albwm o ganeuon gwreiddiol Steve ers 1983 – yn eu plith Cyfalaf a Chyfaddawd (1985), Croendenau (1992), Y Canol Llonydd Distaw (1996), Iawn (1999), Moelyci (2007) a ‘y dal yn dynn, y tynnu’n rhydd’ (2019). Fel cyfansoddwr, bardd ac offerynnwr, mae gwaith Steve Eaves yn goroesi pob ffasiwn, a bydd ei ganeuon yn parhau yn eu hapêl i bawb sy’n gwerthfawrogi cerddoriaeth o safon.