Taith Wrecsam 2024 x Dydd Miwsig Cymru

09/02 – 10/02
Dydd Gwener / Friday:
Dafydd Iwan
Saith Seren – 7.30pm – £15
Endaf | Baby Brave | Eadyth | Ffenest
The Parish – 9.30pm – Am Ddim/Free
Dydd Sadwrn / Saturday:
Open Mic / Meic Agored
The Magic Dragon – 12pm-4pm – pre-Rugby – Am Ddim/Free
Y Gêm Fawr! Rygbi England v Wales Rugby
Tŷ Pawb Flexible Space – 4pm-6.30pm – Am Ddim/Free
Worldcup | Hazmat | Gillie | Eye | Siula
Tŷ Pawb Flexible Space – 7pm-11pm – Am Ddim/Free
Tafarn y Plu x Dydd Miwsig Cymru

Gai Toms a’r Atoms
10.02.2024
Neuadd Llanystumdwy
Drysau’n agor am 19:00
£10 – Tocynnau ar gael o’r Plu neu yma
Ty’n Llan x Dydd Miwsig Cymru

08/02 – BINGO – Cerddoriaeth Fyw hefo Edwin Humphreys
09/02 – Sgwrs hefo’r cerddor Barry ‘Archie’ Jones
10/02 – Gethin Fôn a Glesni Fflur
Glan Llyn x Dydd Miwsig Cymru

Morgan Elwy
Glan Llyn, Clawddnewydd
10.02.24 – 20:00 – Am ddim
Yr Heliwr x Dydd Miwsig Cymru

06.02.24 – Paned a Chacen hefo Gwenan Gibbard
06.02.24 – Cwis Dydd Miwsig Cymru gyda Geth Tomos
Llew Gwyn, Cerrigydrudion x Dydd Miwsig Cymru

Noson yng nghwmni Mari Mathias
Llew Gwyn, Cerrigydrudion
09.02.24 – 20:00 – Am Ddim/Free
Y Pengwern x Dydd Miwsig Cymru

09.02 – Phil Gas A’r Band
10.02 – Gwilym Bowen Rhys
Blwyddyn Newydd a chyngor i awduron newydd
Dyma rifyn newydd ar gyfer y flwyddyn newydd. Mae Merched Meirionnydd yn cael cinio cudd ac yr ydym yn ateb cwestiwn gan wrandäwr sydd yn gofyn am gyngor i awduron newydd.
Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Trothwy – Iwan Rhys
Pryfed Undydd – Andrew Teilo
Y Cylch – Gareth Evans Jones
Wild – Cheryl Strayed
Pony – R J Palacio
Pollyanna – Eleanor H. Porter
Helfa – Llwyd Owen
Gwibdaith Elliw – Ian Richards
Salem – Haf Llewelyn
Y Delyn Aur – Malachy Edwards
Born a Crime – Trevor Noah
The Old Chief Mshlanga – Doris Lessing
Dan Y Dŵr – John Alwyn Griffith
A Terrible Kindness – Jo Browning Wroe
Bikepacking Wales – Emma Kingston
The Folklore of Wales: Ghosts – Delyth Badder a Mark Norman
Y Llyfr – Gareth Yr Orangutan
Dal Arni – Iwan ‘Iwcs’ Roberts
The Last Devil To Die – Richard Osman
Artist Call-Out

Cyfle â Thâl: Kumbukumbu – Ein Hatgofion Mae ‘Panel Cynghori Is-Sahara’ (SSAP) yn gwahodd pobl greadigol a chynghreiriaid Du a Brown i greu gwaith newydd sy’n ymateb i Hanes Pobl Ddu yng Nghymru. Bydd Kumbukumbu, sy’n golygu ‘Atgofion‘ yn Kiswahili, yn creu gofod lle gellir casglu, ymchwilio, rhannu a chadw Hanesion Pobl Du ar […]
Reframing Picton: In Conversation with Gesiye & Laku Neg

Ymunwch â ni am sgwrs gyda’r tîm tu ôl i’r prosiect gyda’r arddangosfa lwyddiannus Reframing Picton!
Dydd Sadwrn, Ionawr 27 2024. 15:00 – 17:00 GMT.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Archebwch eich tocynnau yma!
ImpactArdawiad – Angharad Pearce Jones
ImpactArdawiad gan Angharad Pearce Jones yw un o lyfrau’r mis, mis Ionawr.
Dyma gyfrol sy’n dathlu gwaith yr artist Angharad Pearce Jones, ond hefyd yn gydymaith i’w harddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ImpactArdawiad.
Gyda chyfraniadau gan Ffion Rhys, Dylan Huw, Beca Brown, Ali Anwar yn ogystal ag Angharad Pearce Jones yn ei geiriau ei hun.
Mwy am Angharad Pearce Jones ac ImpactArdawiad, yn y ffilm arbennig hon gan Y Wladfa Newydd, rennir gyda chaniatad arbennig.
Y gyfrol ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Gŵyl Gerdd Bangor | Bangor Music Festival 2024

Mae Gŵyl Gerdd Bangor yn ôl!
Unwaith eto eleni, byddwch yn gallu gwylio rhai o eitemau’r ŵyl gerddorol yn rhithiol drwy AM. Dysgwch fwy am y digwyddiadau a phrynwch eich tocynnau isod.
Sgwrs Llwyd Owen
Llwyd Owen yw’r gwestai diweddaraf ar Colli’r Plot wrth i Manon clywed am y nofel ddiweddaraf, Helfa.
Pam mae Llwyd yn ysgrifennu? Beth yw’r dylanwadau arno? Sut mae creu nofelau tywyll llawn tensiwn?
Sgwrs difyr a hwyliog.
RHYBUDD: IAITH GREF!
Beth sy’n digwydd pan ‘dych chi’n cofrestru gyda Egin?

Ydych chi’n rhan o grwp cymunedol, sefydliad, elusen neu sefydliad dielw sy’n chwilio am gymorth ychwanegol i ddod a’ch syniadau yn fyw?
Mae Egin yn rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan DTA Cymru sy’n cefnogi cymunedau i gymryd eu camau cyntaf i daclo newid hinsawdd a byw yn fwy cynaliadwy.
Ein prif ffocus ydy gweithio i gefnogi’r rhai sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrisiau am hinsawdd a chynaliadwyedd, ond yn debyg o gael eu heffeithio fwyaf ganddo.
Rydym hefyd yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau heb hanes blaenorol o weithio ar yr hinsawdd a chynaliadwyedd, neu sydd ddim yn siŵr ble i ddechrau.
Os ydy eich grŵp neu fudiad cymunedol eisiau ddarganfod mwy am ddod yn rhan o’r rhaglen Egin, cysylltwch yma.
Pennod 32 – Diwedd yr Oesau Canol

The End of the Middle Ages
Here we reach the end of our first series and hear that Richard Wyn Jones’s llên-barrassment has reduced a bit. Also, although we have finished discussing the Middle Ages, Jerry Hunter emphasizes that the history of Welsh literature is unique and has developed in a unique way.
Broga Bach Heglog (Darlleniad)
Red Is Home (Reading)
Prynwch eich copi yma!
Be Sy’n Digwydd // What’s On

Digwyddiadau diweddaraf Graffeg!
Cefn Llwyfan gyda Angharad Lee: Cyfarwyddwr Llawrydd

Os gen ti ddiddordeb mewn theatr ac yn chwilfrydig ynglyn a gyrfa ym myd Cefn Llwyfan y theatr?
Mae Angharad yn Gyfarwyddwr Llawrydd profiadol sydd wedi gweithio ar lu o gynyrchiadau theatr amrywiol. Ty’d i adnabod rôl Angharad fel cyfarwyddwr yn y theatr, sut mae hi wedi cyrraedd ble mae hi, ac ei chyngor hi i bobl ifanc heddiw wrth fentro Gefn Llwyfan!
Caru Darllen: Sgyrsiau 2023
Mewn pennod arbennig o’n podlediad, Mari Siôn sy’n rhannu pigion o rai o sgyrsiau 2023, yn cynnwys sgyrsiau gyda:
- Nia Peris a Dorian Morgan
- Elen Ifan a Dyfan Lewis
- Myfanwy Alexander a Dyfed Edwards
- Gwenllian Ellis a Ffion Enlli
- Guto Dafydd a Malachy Edwards
- Mari George ac Iwan Rhys
Cynhyrchir y podlediad gan Dylan Jenkins.
Oil Painting Masterclass

Blwyddyn newydd, dechrau newydd.
Beth am ddechrau’r flwyddyn drwy fod yn greadigol a dewch draw i’r Dosbarth Meistr Peintio Olew yn Siop Soar!
Dosbarth Meistr Peintio Olew gyda’r arlunydd Gus Payne.
1 – 4pm, Dydd Mawrth, 16 Ionawr, 2024.
neu
6 – 9pm, dydd Mawrth, 13 Chwefror, 2024.
(Sylwch: Mae dewis o ddau ddiwrnod gwahanol. Mae sesiwn yn ystod un diwrnod yn unig)
Sesiwn peintio olew dwyieithog, lle byddwch yn creu paentiad yn arddull yr artist, gan ei ddilyn gam wrth gam yn ystod y sesiwn.
Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o bob lefel yn y sesiwn hon.
Cofrestru’n hanfodol
£5 – Deunyddiau wedi’u cynnwys.
Anfonwch e-bost at siop@merthyrtudful.org
Lleuwen – Emynau Coll y Werin // Lost Welsh Folk Hymns

Lleuwen yn cyhoeddi taith ‘Emynau Coll y Werin’ o Gapeli Cymru.
Artistiaid Y Lle Celf 2023

Mwynhewch ffilm arbennig yn dogfennu rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru gyfoes!
Aeth Culture Colony ar daith dros Gymru i gyfweld artistiaid a gyflwynodd waith yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, yn cynnwys Llŷr Evans, Ruth Jên Evans a John Rowley.
Dyma gyfle i glywed mwy am eu prosesau creadigol ac i ail-ymweld a’u celf.
Feral Monster | BSL trailer / trelar

Sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod.
Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac yn methu hyd yn oed cael gwaith yn y siop tships, mae Jax (hi/nhw/beth bynnag) yn berson ifanc hoffus a beiddgar sy’n byw gyda’i Nain mewn pentref bach a diflas.
Pan mae Jax yn cwrdd â Ffion, merch sy’n siarad yn gall gyda steil trawiadol, mae’r atyniad rhyngthyn nhw’n wefreiddiol. Mae’r angerdd ifanc cwiar yn dod â’r pâr annhebygol hwn at ei gilydd yn ei holl ogoniant blêr, chwith ac anhygoel.
Mae Feral Monster yn dilyn Jax, a’i hymennydd swnllyd sy’n barod ei farn, wrth iddynt ddelio â chariad, hunaniaeth, bywyd a theulu.
Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.
Tocynnau ar gael yma.
gwilym. – ti ar dy ora’ pan ti’n canu

Ti ar dy orau pan ti’n canu
Teitl a neges tra phwerus, gysurus albwm diweddaraf y band poblogaidd Gwilym.
Dyma ail albwm hirddisgwyliedig y band ers rhyddhau Sugno Gola nôl yn 2018. Maent yn dychwelyd gyda’u sŵn newydd ddatblygiedig wrth ddal ar eu stamp gwreiddiol a chyfarwydd. Rhyddhawyd yr albwm mewn ffordd unigryw drwy’i rannu’n ddwy ran, gyda’r naill wedyn y llall yn adeiladu’r cynnwrf yn berffaith at ryddhad yr albwm yn ei gyfanrwydd ddechrau’r Haf. Mae’r band wedi parhau i fod yn brysur ers rhyddhau’r albwm wrth fynd ar wythnos o daith dros Gymru, yn ogystal a chyd-weithio efo Lŵp ar fideo, neu ffilm fer yn fwy priodol, i gyd-fynd â’r albwm.
Er mai dwy gân sydd i’w gael mae’r ffilm yn gynrychiolaeth o’r albwm â’i themâu sy’n cael ei amlygu o’u dewis o ganeuon. Y cyntaf oddi ar yr albwm, ‘dwi’n cychwyn tân’, a’r olaf i ddilyn, ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’ yn gweithio’n gelfydd i gwmpasu’r cyfan.
Dilynnwn daith ddwys a phwerus cymeriad ‘Gwilym’ wrth iddo ddianc o gaethiwed llwm ei fyd o fewn pedair wal wen, at ryddid llydan yr awyr agored, a hynny drwy gyfrwng cerddoriaeth. Wrth i’r cymeriad gael ei gyflwyno i gerddoriaeth mae ei fywyd yn newid yn gyfan gwbl, a honno’n un haen yn unig i’r hyn rydym yn ei weld.
Ceir yn ogystal archwiliad o’r hunain a brwydrau mewnol a pŵer cerddoriaeth o fewn hynny, ond hefyd pŵer sydd gan gwmni neu eiriau eraill. Drwy gydol y ffilm fer dydyn ni ddim yn siwr os mai ffrind yn estyn llaw yw’r cymeriad arall yntau’n ddrych neu’n ran, neu lais arall ym meddwl ‘Gwilym’. Drwy gyfrwng y ddau gymeriad a’r berthynas rhyngddynt cawn archwiliad tyfnach o wrywdod a’r hawl i deimlo, a’r hawl i fregusrwydd.
Mae’r cyferbyniad trawiadol rhwng yr ystafell un-lliw a gogoniant amryliw y tirwedd i’w weld hefyd yng nghymeriad ‘Gwilym’ wrth iddo sylweddoli gwerth a phŵer y gerddoriaeth sy’n atgyfnerthu’r neges deimladwy y dylid ei gofio, ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’.
Feral Monster (Taflen Sain/Audio Flyer)
Tafen Sain (Cymraeg) NTWsound · Feral Monster | Taflen sain
Gweithdy: Ymgysylltu â’ch cymuned – Cyfathrebu Hinsawdd a Newid Ymddygiad

Wedi’i ail-drefnu – 15/2/24
Cofrestrwch yma
Sesiynau Rhithiol – Ionawr a Chwefror

Ymunwch â ni mewn gofod digidol diogel i greu MWY. Cofrestrwch yma er mwyn derbyn dolen Zoom.
Ionawr 24 neu Chwefror 21. 7:30 – 8:30.
Meta vs Life teaser trailer
Fuoch chi erioed am gysylltu â’r meirw? Neu a wnaethoch chi erioed feddwl sut beth ydy bywyd ar ôl marwolaeth? Wel dyma’ch cyfle!
Mae Meta vs Life yn brofiad hybrid unigryw y gellir ei chwarae ar-lein neu yn y cnawd. Yn rhannol mae’n berfformiad trochi, yn rhannol ystafell ddianc, dirgelwch llofruddio lle’r ydych chi, y gynulleidfa’n chwarae rhan fel rhai sy’n chwilio am ysbrydion (yn y cnawd), neu’r rhai sydd wedi marw’n ddiweddar (ar-lein). Dim ond trwy ddod o hyd i ffyrdd i weithio gyda’ch gilydd y byddwch yn datrys y dirgelwch a gweld sut y bydd y meirw yn cyrraedd eu diwedd.
Bydd y byw yn cychwyn eu taith ysbrydion mewn lleoliad cyfrinachol yng Nghanol Dinas Caerdydd, cyn archwilio corneli cudd y ddinas. Bydd y ‘meirw’ yn ymuno â ni o’u cartrefi neu orsafoedd gwaith, mewn bywyd ar ôl marwolaeth trwy gêm wedi ei hysbrydoli gan y 90au, yn gaeth mewn limbo picselog 2D…
January Network Meeting

25/01
Cofrestrwch yma!
Bydd cyfarfod rhwydwaith mis Ionawr hefyd yn gyfle i glywed gan gydweithwyr sy’n ymgymryd â gwaith yn y celfyddydau, iechyd a llesiant yn rhyngwladol.
Bydd tri gwestai’n ymuno â ni i rannu’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf:
Jenny Cashmore, artist, a ymwelodd â’r Biennale yn Fenis fel rhan o Grant Mynd i Weld WAHWN ym mis Tachwedd 2023.
Siri Wigdel a Cai Tomos, artistiaid dawns sydd wedi bod yn gweithio ar brosiect Dawns ac Iechyd yn Norwy.
Mae Celf ar y Blaen wedi bod yn gweithio gyda Motte yn yr Almaen fel rhan o’r prosiect Pont Ddiwylliannol.
Pennod 31 – Yr Eisteddfodau Cynharaf ac Addysg y Beirdd

Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?!
A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd tua chanol y 15fed ganrif, rydym ni’n archwilio’r cysylltiad rhwng yr eisteddfodau cynnar hyn a’r modd yr oedd dysg y beirdd yn cael ei thraddodi, ei diogelu a’i rheoli. Beth yw arwyddocâd y ‘gramadegau barddol’ sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau, a beth yw hanes y term rhyfedd hwnnw, ‘dwned’, sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio testun o’r fath weithiau?
Gyda golwg ar gyfres nesaf y podlediad – a fydd yn craffu ar lenyddiaeth Gymraeg yr 16fed ganrif – trafodwn yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghaerwys yn yn ystod y ganrif honno a’r ddogfen ddiddorol honno a gysylltir ag Eisteddfod gyntaf Caerwys, ‘Statud Gruffudd ap Cynan.’ Nodwn ei bod yn bosib weld yr holl reoleiddio hwn mewn dwy ffordd hollol wahanol – fel arwydd o gryfder, yn cadarnhau statws a phwysigrwydd yr hen gyfundrefn farddol Gymraeg, neu fel arwydd o wendid, gan fod ffynonellau nawdd yn crebachu yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Ac beth fyddai beirdd Cymraeg yr 21fed ganrif yn meddwl am y modd y mae’r ‘Statud’ yn gwahardd beirdd rhag mynychu tafarndai?!
Chris Tally Evans

Blwyddyn newydd dda i bawb o dîm DAC! I ddechrau’r flwyddyn rydym wrth ein bodd i ailddechrau Artist y Mis, lle rydym yn rhoi sylw i waith bendigedig un o’n haelodau.
Artist y mis ar gyfer mis Ionawr bydd yr actor a’r cerddor Chris Tally Evans.
‘Mae fy albwm, Cooking Blind, bellach yn ffrydio ar Spotify, Apple Music, YouTube a thua 147 o lwyfannau eraill nad ydw i erioed wedi clywed amdanyn nhw. Mae’r albwm yn ymdrin â materion anabledd, iechyd meddwl, colled a chariad. Prosiect recordio gyda Clovis Phillips, aml-offerynnwr hynod dalentog gyda stiwdio ychydig i fyny’r ffordd oddi wrthyf yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru. Mae pob cân ar yr albwm, Cooking Blind, wedi eu sgwennu gen i, dros ryw ddeugain mlynedd o greu.’
Os da chi’n aelod o DAC ac eisiau cymryd rhan yn Artist y Mis cysylltwch gyda’ch Swyddog Celf. Gallwch ffeindio gwybodaeth am sut i ymaelodi yma.
Pennod 30: ‘Gwledd hyd y gogledd o gig’: Y Cywyddau Brud

Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith.
Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn gyfle i egluro bod gan yr hen Gymry ddull arbennig o weld cysylltiadau rhwng hanes, presennol a dyfodol y genedl Gymreig. Rhyfel rhwng teulu Lancaster a theulu York am goron Loegr ydoedd, a ddaeth i ben yn 1485 gyda buddugoliaeth y Cymro Harri Tudur a aeth yn Harri VII. Ond, er eu bod yn cefnogi ymgeiswyr go iawn am y goron, roedd y beirdd proffwydol hyn yn aml yn darlunio’r rhyfel mewn dull hynafol a dwfn fel ymrafael rhwng y Cymry a’u hen elynion y Saeson.
Craffwn yn benodol o waith Dafydd Llwyd o Fathafarn, gan ystyried nifer o gywyddau sy’n dangos y modd y defnyddiodd draddodiadau hynafol i drafod gwleidyddiaeth gyfoes gan oedi dipyn ynghylch cerdd isaol o waedlyd, ei ymddiddan â’r Gigfran. Dyma gyfle i archwilio cysyniadau mawr, gan gynnwys ‘proto-genedlaetholdeb cyn-fodern’ a pharhâd traddodiad
PERTHYN

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg
Llyfr – anrheg i’w hagor dro ar ôl tro: Llyfrau i Oedolion

Dyma ambell awgrym o lyfrau Cymraeg fyddai’n gwneud anrhegion gwych i oedolion.
Llyfrau’r Flwyddyn
Trafod y llyfrau wnaethon ni mwynhau yn ystod y flwyddyn a cheisio creu ein rhestr Llyfr Y Flwyddyn.Sut mae cyfieithu i BT yn ennill ‘kudos’ a fel y disgwyl mae’r podlediad llawn hwyl yr wyl .
Llyfrau 2023:
Siân
Llyfr Y Flwyddyn – Mari Emlyn
Prophet Song – Paul Lynch
Aled
Y Bwthyn – Caryl Lewis
And Away – Bob Mortimer
Bethan
Sut i Ddofi Coryn – Mari George
Lessons in Chemistry – Bonnie Garmus
Dafydd
Sut i Ddofi Coryn – Mari George
A Terrible Kindness – Jo Browning Wroe
Manon
Llyfr Y Flwyddyn – Mari Emlyn
The Folklore of Wales: Ghosts – Delyth Badder, Mark Norman
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Sut i Ddofi Coryn – Mari George
The Rich – Rachel Lynch
Dathlu – Rhian Cadwaladr
I Let You Go – Clare Mackintosh
Cregyn ar y Traeth – Margaret Pritchard
Dros fy mhen a nghlustiau – Marlyn Samuel
A Little life – Hania Yanagihara
Rhwng Bethlehem a’r Groes – Barry Archie Jones
Pryfed Undydd – Andrew Teilo
Y Cylch – Gareth Evans Jones
The Christmas Guest – Peter Swanson
Sian Phillips – Hywel Gwynfryn
Gwreiddio – straeon byrion – amrywiol awduron
A Christmas Carol – Charles Dickens
Plant Annwfn – DG Merfyn Jones
Alone – Kenneth Milligan
Llyfr – anrheg i’w hagor dro ar ôl tro: Llyfrau i bobl sy’n dysgu Cymraeg

Francesca Sciarrillo sy’n rhannu ambell awgrym o lyfrau fyddai’n gwneud anrhegion gwych i bobl sy’n dysgu Cymraeg.
Enaid y Ddinas gan Awduron Amrywiol, lluniau Richard Outram

Enaid y Ddinas yw Llyfr y Mis, mis Rhagfyr.
Cerddi, ysgrifau a darnau creadigol am Gaeryddd gan awduron y mae’r Brifddinas wedi chwarae rhan bwysig yn eu bywydau, a ffotograffau yn ymateb i’r testun gan Richard Outram.
Y cyfranwyr yw: Ffion Dafis, Huw Llywelyn Davies, Beti George, Hanan Issa, Carwyn Jones, Dafydd Llewelyn, Gareth Potter, Rebecca Thomas ac Ali Yassine.
Uchafbwyntiau Gŵyl NAWR 2023 Highlights
Fideo gan/Video by: Trac 42
Uchafbwyntiau Gŵyl NAWR 2023
Francis Rees – PELL

Rhan o gronfa fideos cerddorol PYST x Lŵp S4C
Cyfarwyddwyd gan Hedydd Ioan (Trac 42)
Hynt y Ceidwadwyr Cymreig ers datganoli – a beth nesaf?

Ar ôl cyfnodau o bendilio rhwng cefnogi’r gyfundrefn ddatganoledig a chofleidio’r Undeb yn dynn, mae’r Torïaid erbyn hyn ar eu mwyaf Prydeinig ac yn awchu am danseilio ymdrechion llywodraethau Caerdydd a Chaeredin i wneud pethau’n wahanol i San Steffan. Undod y Deyrnas Gyfunol sydd bwysicaf o ddigon yn eu golwg.
CWIS i’n darllenwyr – GWOBR: Gwaith celf ysbrydoledig o Orielodl

Artist o Bontarddulais yw Rhys Padarn Jones a bydd enillydd y Cwis yn derbyn taleb werth £50 i’w gwario ar nwyddau o’u dewis. Ewch i’w wefan orielodl.com i weld y dewis gwych o bethau sydd ar gael, yn brintiau, posteri, cardiau, jig-sôs a llawer mwy.
Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o BARN dim ond i chi ddarllen yn fanwl. Nid yw’r erthyglau o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.
Anfonwch eich atebion at:
Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin SA31 3EQ gyda’ch enw, cyfeiriad post ac e-bost neu at swyddfa@barn.cymru erbyn 5 Chwefror 2024.
Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn rhifyn Mawrth.
Cymru Fenis 10

Comisiynodd Gelfyddydau Anabledd Cymru waith gan 6 artist anabl, byddar neu niwroamrywiol fel rhan o raglen ‘Cymru Fenis 10’ – 2 ar raddfa fach, 2 ar raddfa ganolig a 2 ar raddfa fawr.
Mwynhewch flas o waith yr artistiaid yma!
Adlais 2 Live

Bu Adlais yn canu o’r mynyddoedd gyda noson o gerddoriaeth wedi’I flaenori gan menywod yn The Foundry, Brycheiniog am 19.00 Sadwrn yr 2ail o Fawrth 2024.
Pennod 29 – Gwin, Arch a Diwedd Oes: Guto’r Glyn

Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes.
Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dros gant o’i gerddi wedi goroesi, ac mae’r corff mawr hwn o farddoniaeth yn ffynhonnell bwysig iawn er mwyn deall y traddodiad barddol ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Er na chanodd am serch a natur fel llawer o’r cywyddwyr eraill, roedd ei ganu mawl yn amrywio’n fawr ac yn gallu bod yn ddyfeisgar iawn. Disgrifia un o’i gerddi frwydr rhwng y beirdd a gwin yn llys eu noddwr, wrth iddyn nhw fynd ati am y gorau i wagio seleri’r uchelwr. Trafodwn ei farwnad ddwy i fardd arall, Llywelyn ab y Moel, a chywydd a ganodd Guto ddiwedd ei oes, cerdd ryfeddol sy’n dangos y bardd fel hen ŵr yn aflonyddu ar y mynaich a oedd yn gofalu amdano.
Rydym yn codi ar gyfer ein dyfodol | We rise up for our future

Ymunwch â digwyddiad dan arweiniad pobl ifanc.
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 9fed
Bangor
1:00 Gweithdy negesuon yn Pontio PL2 lefel 2
2:30 Dechrau ymdeithio tu allan i Pontio
3:30 Siaradwyr Ifanc – yn Pontio
Ble Wyt ti Bwci Bo? gan Joanna Davies a Steven Goldstone

Ble Wyt ti Bwci Bo? / Where are you Bwci Bo? gan Joanna Davies a Steven Goldstone yw Llyfr y Mis i Blant, mis Rhagfyr.