Cartref digidol diwylliant Cymru.

2. Hen Drac Bob Hyn a Hyn: Arwrgerdd Britania

Arwrgerdd Britannia (Hwyliau’n Codi) Tachwedd 1979.
Lleisiau: Iola Gregory/ Valmai Jones.
Robert a Richard a John (Hwyliau’n Codi) Tachwedd 1979.(D.Roberts/ C.Edwards)
Lleisiau: Myrddin Jones/ Gwyn Parry/ Dyfan Roberts.

Palas Print

Ar y Stryd Fawr ac ar Lein
Siop lyfrau annibynnol yng nghanol tref caerog Caernarfon yn gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru a’r byd.
palasprint.com

Caethwasiaeth Fodern: Problem guddedig 2020

Darlith arbennig ar gyfer Gŵyl Ffor Arall 2020, gyda Dr Gareth Evans-Jones (Prifysgol Bangor).
Bwriad y ddarlith yw cyflwyno agwedd negyddol ar ein cymdeithas, sef caethwasiaeth fodern.

#SFDigidol: Y Sesiwn Werin

Diolch o galon i’r holl artisitiad | A huge thank you to all the artists:

Gwerinos – Dic Penderyn | Y Davalaniaid – Tapioca’s reel | Tacla | Y Davalaniaid – Rost Kostren hag Itron Varia ar C’hoad | Huw a Sion Roberts – Y Trydydd Dydd / Melin y Graig ( Huw Roberts) / Pibddawns Nant y Pandy ( Huw Roberts) / Cydyn y Tywysog ( Huw Roberts) | Y Davalaniaid – The Hesk Jig / The Splashant Reel | Band Arall – Delyn Newydd/Môn | Y Davalaniaid – Krazy Breizh | Y Davalaniaid – O Plymouth i Glascoff | Gwerinos – Rownd yr Horn | Y Diafolaniaid – John Assynt’s Mouse | Band Arall – Cader Idris / Llyn Gwernan | Y Davalaniaid – Bwlch Llanrebis / Dyma Angharad / Rhith y Cwrw

Stori Zuzia & Duwies y Tanfyd – BlAGur

Heno am 6 bydd dwy ddrama leisiol gyda darluniau gwreiddiol gan glwb drama Blagur Arad Goch yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar sianel Cwmni Theatr Arad Goch ar AM! Stori Zuzia Chwedl werin o wlad Pwyl yw Stori Zuzia. Fe sgriptiwyd y ddrama, ei darlunio a’i pherfformio gan aelodau clwb drama Blagur […]

Cymeriadau

Cliciwch ar sianel Sioned i weld mwy o’i chelf!

Prosiect15

Mae sianel Prosiect 15 wedi cael ei greu fel canolbwynt digidol ar gyfer holl adnoddau Cymraeg ysbrydoledig. Y pwrpas ydi i ysbrydoli, codi ymwybyddiaeth a darparu adnoddau digidol o pethau sydd yn defnyddio y Iaith Gymraeg; rhoi sylw i Gymru, ei phobl, ei hiath a’i hanes. A cyfle i rhannu y gwybodaeth gyda mudiadau e.e. ysgolion, cyrff cyhoeddus, busnesau, unigolion, chwmniau.

Mynydd Epynt Luned Rhys Parri

Dyma ffilm fer wedi’i saethu gan Gwion Dafydd a’i golygu gan Anthony Morris. Ynddi gwelir Luned Rhys Parri wrth ei gwaith yn y stiwdio ac yn sôn ychydig am ei phrosiect diweddaraf am fynydd Epynt. Bydd y darnau celf mae hi’n weithio arnynt yma yn cael eu harddangos yn arddangosfa “Epona” fel rhan o’r Eisteddfod AmGen arlein ac wedyn byddant ar gael i’w prynu yn Oriel Ffin y Parc , Llanrwst.
Noddwyd hwn gan Cyngor Gwynedd a mewn partneriaeth hefo CARN(Rhwydwaith Artist Ardal Caernarfon www.carn.cymru)

MR PHORMULA RECORDS

Wedi ei sefydlu gan yr MC llwyddiannus a Phencampwr Beatbox Cymru, Mr Phormula / Ed Holden, mae ‘Mr Phormula Records’ yn rhyddhau’r gerddoriaeth hip-hop orau yng Nghymru. Wedi ei leoli yng nghysgod y mynyddoedd mewn ardal fach o’r enw Eryri, mae’r holl gynhyrchu a mastro yn digwydd yn y stiwdio gyda’r enw addas ‘Stiwdio Panad’ – canolbwynt swyddogol ‘Mr Phormula Records’.

Un Yn Ormod and the Unexpexted Rise of Quit-Lit:

Catherine Gray, Ffion Dafis, Angharad Griffiths
I ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd Lolfa ~ Un Yn Ormod, mi fydd Ffion Dafis yn holi’r golygydd, Angharad Griffiths, yng nghwmni gwestai arbennig iawn: Catherine Gray, awdur The Unexpected Joy of Being Sober. Mae’r llyfr gwych yma wedi gwerthu miloedd a helpu llawer o bobl oedd â pherthynas wael gyda alcohol – yn cynnwys Angharad. Mae’r genre “Quit-Lit” wedi bod yn tyfu ar raddfa sydyn dros y blynyddoedd diwethaf – yn y sesiwn yma mi fydd Ffion yn holi pam fod gymaint o bobl yn troi at lenyddiaeth i‘w helpu nhw i gicio’r botel.
Cyhoeddi’r y gyfrol gan Y Lolfa.
(Recordiad bywo sesiwn zoom awr o hyd – 19:00-20:00, 13.07.20)