Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘The Future of Welsh Film..’ What does this mean to you?

I nodi 130 mlynedd o sinema yng Nghymru, mae Dion Hughes (Pontio Bangor), Dr Kate Woodward (Prifysgol Aberystwyth), a Nia Edwards Behi (Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn trafod beth mae ffilm Gymreig yn ei olygu iddyn nhw. O hunaniaeth a hanes, i ddiwylliant ac iaith, ac o’r masnachol i’r cyfoes – maen […]

Uchafbwyntiau Gŵyl Tawe 2026

Gyda mis wedi hedfan ers yr ŵyl, haous i rannu ychydig o uchafbwyntiau #GŵylTawe2026 diolch i griw pypi slysh.   Diolch yn fawr i’n holl artistiaid a pherfformwyr anhygoel, ein partneriaid, ac i bawb a ddaeth draw! Mae’r gwaith wedi cychwyn ar gyfer 2027!

Am x S4C

Cronfa Ffilmiau Cymunedol Am a S4C

Effi o Blaenau Q&A – Marc Evans a Leisa Gwenllian

Yn y podlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru diweddaraf, mae’r Cyfarwyddwr Marc Evans a’r actor Leisa Gwenllïan yn trafod rhyddhau Effi o Blaenau gyda’r awdur a’r darlledwr Lowri Haf Cooke.   Wedi’i osod ar lechweddau diwydiannol Blaenau Ffestiniog, peidiwch â cholli’r portread cyfoes beiddgar yma o Gymru ar sgrin. Yng ngeiriau Marc Evans, dyma ffilm sy’n “siarad, […]

Made in Wales

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn brosiect Canolfan Ffilm Cymru wedi’i gynllunio i ddathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Rydym yn hyrwyddo’r ffilmiau gorau a diweddaraf sydd â chysylltiad â Chymru – boed hynny drwy dalent Gymreig, straeon Cymreig, lleoliadau ffilmio ac ati. Dilynwch ni am newyddion, adolygiadau a chyfweliadau. Pan mae ffilm Gymreig yn cael […]

Lovely as a Tree

Mae hon yn ffilm am Mary, a oedd yn 104 oed ar adeg gwneud y ffilm. Nes i gyfarfod â’r ddynes ryfeddol hon pan oeddwn yn gweithio ar brosiect cARTrefu Age Cymru. Cefais fy swyno gymaint gan fywiogrwydd Mary a phan ddechreuodd adrodd cerdd gan Tennyson yn ddigymell, roeddwn i eisiau dal ysbryd unigryw Mary […]

Glasbren

Yn plethu’r ffilm newydd Glasbren gyda phytiau o Saunders Lewis vs Andy Warhol gan Emyr Ankst, mae’r archwiliad hwn o greadigrwydd a arweinir gan ieuenctid yng Nghymru yn olrhain y llinach o’r symudiad indi iaith Gymraeg yn y 1990au i don newydd o greadigrwydd llawr gwlad sydd yn dod i’r amlwg heddiw. Wedi’i wreiddio yn […]

EM TV / VIDEO HUD

EM TV / VIDEO HUD yw sianel newydd sy’n dogfennu ac yn dathlu diwylliant ieuenctid Cymraeg drwy ffilm, cerddoriaeth ac archifau tanddaearol. Wedi’i datblygu gan griw ifanc CellB yn Blaenau Ffestiniog, mae’r prosiect yn cysylltu ysbryd DIY Cool Cymru y 90au gyda mudiadau creadigol newydd sy’n tyfu yng Ngogledd Cymru heddiw. O gigs a zines […]

Ein Milltir Sgwâr – Llais y Lle

Sut mae iaith yn siapio ein cysylltiad â’r tirwedd? Ry’n ni falch o rannu ail ffilm yn dathlu prosiect Llais y Lle gan Joseph Conran, Ein Milltir Sgwâr. Wedi’i ysbrydoli gan hen idiomau Cymraeg a cherddi T H Parry-Williams, mae’r prosiect yn defnyddio geiriau, deunyddiau a syniadau i archwilio’r berthynas rhwng y Gymraeg, creadigrwydd a […]

Sgrech Flêr – Llais y Lle

Sut gall creadigrwydd helpu pobl i gysylltu â’r Gymraeg mewn ffyrdd newydd? Ry’n ni’n llawn cyffro i rannu ffilm i ddathlu Sgrech Flêr, prosiect Llais y Lle gan Trishna Singh a TeiFi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm wedi cynnal gweithdai ysgrifennu dwyieithog, digwyddiadau cerddorol a chyfleoedd cydweithio creadigol ar draws Caerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar […]

Cerys Hafana – Sesiynau Gŵyl Tawe 2026

Sesiynau Gŵyl Tawe 2026 gyda Cerys Hafana yn fyw o Dylan Thomas Birthplace, Swansea.   Cyfarwyddwyr – Tobias Lagos + Lewis Sharpe Fideograffeg a golygu – Tobias Lagos Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire

Effi o Blaenau: Goroesi, Hunaniaeth a Chost Bod yn Fenyw yn y Gymru Fodern

Mae Gemma June Howell yn awdur, golygydd ac yn adolygydd diwylliannol sy’n byw yn Abertawe. Hi yw awdur The Crazy Truth ac mae’n gweithio ym meysydd cyhoeddi, theatr a ffilm. Mae ei gwaith yn edrych ar ddosbarth a rhywedd yn y Gymru gyfoes. Darganfyddwch fwy ar ei gwefan yma.  Mae Effi o Blaenau yn agor […]

BLE MAE’R (SINEMA) GYMRAEG?

Gan Nia Edwards-Behi Mae gan Nia doethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth a’n gweithio i Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Nia yn gyd-gyfarwyddwr ar Ŵyl Arswyd Abertoir, yn rhaglennu ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Cymru a’r Byd yn Un ac yn cyfrannu’n rheolaidd at ddigwyddiadau a chyhoeddiadau sy’n trafod ffilm. Trwy gydol ei gyrfa mae […]

Crybaby

Mae Crybaby yn ffilm fer animeiddiedig 2D bwerus gan y cyfarwyddwr awtistig o Gymru Eleri Edwards, a gynhyrchwyd trwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales gyda Biggerhouse Film. Mae’r stori’n dilyn Carys, menyw 24 oed, ond wrth iddi wacáu cartref ei phlentyndod mae’n cael ei thynnu i ofod arallfydol sydd wedi’i lethu gan focsys ac atgofion […]

Wedge

Mae Wedge yn gwmni gwneud ffilmiau wedi’i leoli yn Ne Cymru – rydym yn creu sesiynau byw, fideos cerddoriaeth a ffilmiau byrion.

60 Second Stories: Newport

Lluniwyd y casgliad o ffilmiau byrion 60 eiliad gan bobl greadigol o Gasnewydd, a fu’n cyfuno ysgrifennu, ffotograffiaeth, ffilm a cherddoriaeth i rannu eu profiadau eu hunain o’r ddinas gan ddefnyddio eu ffonau clyfar yn unig. Maen nhw’n adrodd straeon personol sy’n cyfleu Casnewydd a’i phobl, gan ddathlu cymuned, diwylliant a threftadaeth; mae All These […]

Eleven Sound Hire

Busnes peirianneg sain a llogi PA bach, cyfeillgar ac ymatebol wedi’i leoli yn Abertawe. Rydym hefyd yn cynnig recordio a chymysgu sain amldrac ddigidol byw. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Cyngor Abertawe, Cyngor Tref Rhydaman, Swansea Fringe, Swansea Arena, Menter Iaith Abertawe, Menter Cwm Gwendraeth Elli, Nawr, The Rock Project, a nifer mwy o ganolfannau, […]

Griff Lynch – Sesiynau Gŵyl Tawe 2026

Mae Menter Iaith Abertawe yn gyffrous i rannu’r cyntaf o’u sesiynau Gŵyl Tawe 2026 gyda Griff Lynch yn fyw o theatr hanesyddol Llewelyn yn yr adeilad YMCA Swansea.   Cyfarwyddwr – Ka Long Tung Camera – Adwitiya Pal Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire

Gwylio’r Glannau – Lauren Heckler

Creais y ffilm hon i ddangos y rôl bwysig y mae Gwasanaeth Achub Gwylwyr y Glannau yn ei chwarae yn ein pentref arfordirol, gwledig , a gwerth seilwaith cymunedol a hyfforddiant proffesiynol, ynghyd â gwybodaeth leol. Mae Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Llansteffan yn cynnwys pentrefwyr ac unigolion sy’n byw yn yr ardal gyfagos, yn […]

Merched y Tir – Gwenno Llwyd Till

Mae ‘Merched y Tir’ yn dilyn grwp o artistiaid yng nghefn gwlad Gogledd Cymru. Mae eu bywydau creadigol yn cael eu llunio gan le, deunydd a thymor. O wehyddu helyg i ysgrifennu a gwneud ffabrig o ddeunyddiau naturiol, mae eu harferion wedi’u rhwymo i rythmau’r tir y maent yn byw ynddo. Wedi’i ffilmio’n arsylwadol, mae’n […]

Pwythwyr Botaneg – Lily Tiger T Wells

Mae’r film fer hon yn seiliedig ar ‘Stitching Botanicals’, grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi’u lleoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 80 o wirfoddolwyr wedi creu pum casgliad arbennig o frodwaith trawiadol ac atgofus. Mae’r rhain yn cynnwys blodau sir Cymru, planhigion prin Gymru, planhigion meddyginiaethol, planhigion […]

Pellter Byr – Hannah Mefin

Mae’r ffilm ddogfen hon yn archwilio calon ddiwylliannol Llais Ogwan, papur bro gymunedol yn Nyffryn Ogwen. Drwy sain naturiol a lluniau arsylliadol, mae’r ffilm yn dal rhythmau arafach ymdrech gymunedol ac iaith a rennir. Wedi’u gwasgaru drwyddi draw mae cipolwg ar rifynnau blaenorol o Llais Ogwan. Mae’r ffilm yn ceisio tynnu sylw at bwysigrwydd papurau […]

TAITH EM

Off y Grid oedd syniad cychwynnol gan Emyr Ankst i uno sinemâu ledled Gogledd Cymru. Mae Taith Em yn daith sinematig pop-yp sy’n dangos rhai o ffilmiau gorau Em ynghyd â gwaith cynhyrchwyr ffilm annibynnol Cymreig ar draws Gogledd Cymru. Y nod yw canolbwyntio ar gynnwys ieuenctid a chreu profiad cynhwysol a fforddiadwy i gynulleidfaoedd ifanc, mewn lleoliadau cymunedol ledled […]

Marged Tudur ac Aled Rhys Jones – Artist Preswyl 2025

Marged Tudur Mae Marged Tudur yn fardd, yn awdur ac yn olygydd o Forfa Nefyn; mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol, a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Roedd hi’n un o olygyddion […]

Mared – Bore Hir (Ffrinj Abertawe 2025)

Mae Menter Iaith Abertawe yn gyffrous i rannu’r sesiynau wedi eu recordio yn Tŷ Tawe yn ystod Gŵyl Ffrinj Abertawe.   Mared – Bore Hir (Ffrinj Abertawe 2025)   Gitarydd – Ed Allen Saethu a Golygu – Sam Stevens (sam.ffoto) a Siôn Teifi Rees(sion.ffoto) Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire  

Tokomololo – Deffro (Ffrinj Abertawe 2025)

Mae Menter Iaith Abertawe yn gyffrous i rannu’r sesiynau wedi eu recordio yn Tŷ Tawe yn ystod Gŵyl Ffrinj Abertawe.   Tokomololo – Deffro (Ffrinj Abertawe 2025)   Saethu a Golygu – Sam Stevens (sam.ffoto) a Siôn Teifi Rees(sion.ffoto) Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire

Małgola, No – Pethau Bach (Ffrinj Abertawe 2025)

Mae Menter Iaith Abertawe yn gyffrous i rannu’r sesiynau wedi eu recordio yn Tŷ Tawe yn ystod Gŵyl Ffrinj Abertawe.   Małgola, No – Pethau Bach   Saethu a Golygu – Sam Stevens (sam.ffoto) a Siôn Teifi Rees(sion.ffoto) Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire

Rhys Dafis – Mynwent y Garn (Ffrinj Abertawe 2025)

Mae Menter Iaith Abertawe yn gyffrous i rannu’r cyntaf o’u sesiynau wedi eu recordio yn Tŷ Tawe yn ystod Gŵyl Ffrinj Abertawe.   Rhys Dafis – Mynwent y Garn   Saethu a Golygu – Sam Stevens (sam.ffoto) a Siôn Teifi Rees(sion.ffoto) Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire

Taith: Y Glo o Dan ein Traed, Y Gwynt uwch ein pennau

TOCYNNAU YMA      Mae’r ffilm ddogfen rymus hon yn daith drwy orffennol glofaol y cymoedd ynghyd a’u dyfodol sy’n frith o bosibiliadau.   Roedd 2025 yn nodi 40 mlynedd ers diwedd streic y glowyr a 30 mlynedd ers ailagor Glofa’r Tŵr, y pwll glo cyntaf yn y DU i fod o dan berchnogaeth y gweithwyr. […]

Cronfa Ffilmiau Cymunedol Am x S4C: Canllawiau

Os hoffwch gael sgwrs am eich cais, cysylltwch gydag am@pyst.net. Canllawiau Hawdd ei Ddeall ar gael yma.   Beth yw pwrpas y gronfa? Pwrpas y gronfa hon yw comisiynu ffilmiau byrion cymunedol yn yr iaith Gymraeg. Gall y ffilmiau ymdrin ag unrhyw weithgaredd gymdeithasol neu ddiwylliannol yn y gymuned, mewn modd ddogfennol neu greadigol. Cefnogir […]

Marshall Art

O ddydd Gwener, Rhagfyr 19 ymlaen, mae ffilm ddogfen newydd gan Stiwdio Malwan yn cael ei ddarlledu ar-lein am y tro cyntaf mewn partneriaeth ddigidol gydag Am. Mae ‘Marshall Art’ yn adrodd stori bersonol a thrawiadol Ceirion Marshall, o ardal Maesincla, Caernarfon, am y blynyddoedd caled o gael ei fwlio yn ddi-stop. Mae’r ffilm yn […]

Gŵyl NAWR 2025

Wedi ei ffilmio gan Hedydd Ioan a Ffion Mai Wedi ei olygu gan Hedydd Ioan

Malwan

Malwan Stiwdio Ffilm a Dylunio | Film & Design Studio  Gwynedd, Cymru Dan arweiniad Dïon, mae Malwan yn stiwdio adrodd straeon gweledol sy’n ymroddedig i greu naratifau dilys. Gyda dros ddegawd o brofiad, mae ein gwaith yn cyfuno synnwyr sinematig coeth ag ymrwymiad i gysylltiad dynol gwirioneddol—gan roi llais i straeon sydd yn aml yn mynd […]

Canllawiau Galwad Agored Sesiynau – Gŵyl Tawe

Trosolwg 1. Beth yw’r project? Mae Menter Iaith Abertawe a Gŵyl Tawe yn chwilio am bump gwneuthurwr ffilm i gydweithio ar gyfres newydd o ffilmiau sy’n dogfennu sesiynau byw yn arwain at Ŵyl Tawe 2026. Bydd pob gwneuthurwr ffilm yn gyfrifol am gynhyrchu un ffilm fel rhan o’r gyfres, yn tynnu sylw at un artist/band […]

60 Second Stories: Swansea

Mae 12 o ffilmiau byrion sy’n adrodd straeon o Abertawe mewn 60 eiliad ar gael i’w ffrydio am ddim gan Ffilm Cymru Wales. Cafodd y casgliad amrywiol o ffilmiau byrion 60 eiliad eu creu gan bobl greadigol Abertawe a ddefnyddiodd eu ffôn clyfar i rannu eu profiadau nhw o’r ddinas gan gyfuno eu sgiliau ysgrifennu, […]

CEREDIGION

Mas-o-ma! Dyna beth ma’r rhan fwyaf o bobol ifainc wedi’u magu yng nghefn gwlad yn dyheu am wneud. Wel, dyna stori boblogaidd y cyfryngau, beth bynnag. Mae’r ffilm fer CEREDIGION yn cwestiynu’r naratif ddiog honno. Yn siarad â rhai sydd ar fin ’madael yn ogystal â rhai sydd wedi dychwelyd daw’r ffilm ar ddiwedd prosiect […]

Baich

Y ffilm fer ddiweddaraf i gael ei ffrydio ar ein proffil Am yw Baich gan Mared Swain, gyda Hanna Jarman a Steffan Rhodri yn serennu ynddi. Mae gan Kath ddau o blant ac mae bywyd yn anioddefol. Mae’n rhaid iddi ddianc. Un diwrnod, mewn gweithred fyrbwyll, mae’n gadael y tŷ â’r plant yn sgrechian, gan […]

Out There

Drama sy’n amlygu un o agweddau positif byw drwy bandemig byd-eang, gan y perfformiwr, coreograffydd a’r cyfarwyddwr o Orllewin Cymru, Rhys Miles Thomas. Cyn COVID-19 ‘roedd anabledd John yn golygu ei fod yn byw drwy gyfnod clo parhaol ac unig. Ond pan mae’r byd cyfan yn cael ei orfodi i aros adref, mae’n darganfod rhywfaint […]