Dyma ffilm fer wedi’i saethu gan Gwion Dafydd a’i golygu gan Anthony Morris. Ynddi gwelir Luned Rhys Parri wrth ei gwaith yn y stiwdio ac yn sôn ychydig am ei phrosiect diweddaraf am fynydd Epynt. Bydd y darnau celf mae hi’n weithio arnynt yma yn cael eu harddangos yn arddangosfa “Epona” fel rhan o’r Eisteddfod AmGen arlein ac wedyn byddant ar gael i’w prynu yn Oriel Ffin y Parc , Llanrwst.
Noddwyd hwn gan Cyngor Gwynedd a mewn partneriaeth hefo CARN(Rhwydwaith Artist Ardal Caernarfon www.carn.cymru)