Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dathlu gwaith artistiaid ym Mrasil.

Wrth i mudiad byd-eang UNESCO, ResiliArt, gyrraedd Cymru, bydd y sesiwn gyntaf yn cael ei hwyluso gan Catherine Paskell o Dirty Protest ar 22 Gorffennaf 2020.
Ar hyn o bryd mae Dirty Protest yn gydweithredwyr ar Building the Barricades, prosiect ymchwil gweithredol dan arweiniad Prosiect People’s Palace yn Rio De Janeiro. Nod yr ymchwil yw dod â dealltwriaeth newydd o iechyd meddwl a llesiant pobl sy’n byw mewn cymuned sy’n profi nifer o ffactorau straen fel allgau cymdeithasol-economaidd, lefelau uchel o drais, a mynediad cyfyngedig at rwydweithiau a sefydliadau diwylliannol, lle mae bywydau bob dydd yn cael eu difetha gan reoleiddio arfog amlochrog a brwydro, sy’n deillio o’r ‘rhyfel ar gyffuriau’ honedig.
Mae’r prosiect wedi tyfu i gynnwys 6 artist ifanc a rhwydwaith o bobl sy’n defnyddio crac yn y mannau agored yn y favelas. Maent yn defnyddio ysgrifennu, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio i feithrin eu gwytnwch yn erbyn nifer o ffactorau o straen megis anghydraddoldeb o ganlyniad i hiliaeth a ffactorau cymdeithasol, trais taleithiol, esgeulustod, a COVID-19.
Mae’n bleser gennym rannu eu gwaith.

RHANNWCH