Cartref digidol diwylliant Cymru.

Stori Zuzia & Duwies y Tanfyd – BlAGur

Heno am 6 bydd dwy ddrama leisiol gyda darluniau gwreiddiol gan glwb drama Blagur Arad Goch yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar sianel Cwmni Theatr Arad Goch ar AM!

Stori Zuzia
Chwedl werin o wlad Pwyl yw Stori Zuzia. Fe sgriptiwyd y ddrama, ei darlunio a’i pherfformio gan aelodau clwb drama Blagur Arad Goch.

Duwies y Tanfyd
Fersiwn Rhys McInnes o chwedl Roegaidd yw sgript Duwies y Tanfyd, wedi’i pherfformio gan aelodau clwb drama Blagur. Crëwyd y darluniau, yn ei arddull unigryw, gan aelod arall o’r clwb, Mabon Huw Philllips.Dwy ddrama leisiol gyda darluniau gwreiddiol gan glwb drama Blagur Arad Goch

RHANNWCH