Wedi ei sefydlu gan yr MC llwyddiannus a Phencampwr Beatbox Cymru, Mr Phormula / Ed Holden, mae ‘Mr Phormula Records’ yn rhyddhau’r gerddoriaeth hip-hop orau yng Nghymru. Wedi ei leoli yng nghysgod y mynyddoedd mewn ardal fach o’r enw Eryri, mae’r holl gynhyrchu a mastro yn digwydd yn y stiwdio gyda’r enw addas ‘Stiwdio Panad’ – canolbwynt swyddogol ‘Mr Phormula Records’.


