Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyfres Rhyfeddodau Cymru – 3 Portreadu Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry – Gwyn Jones, Plas Glyn y Weddw

19:00 | 29.07.20
Gwyn Jones yn siarad am lun o 1882 yn portreadu Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry, sef mab y Farwnes Elizabeth Jones-Parry o Stad Madryn, adeiladodd Plas Glyn-y-Weddw yng nghannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd Thomas Duncombe Love Jones-Parry yn gymeriad lliwgar ac yn un o sefydlwyr y Wladfa yn Patagonia. Mae y llun ar fenthyg tymor hir gan yr Archifdy yng Nghaernarfon ac yn cael ei arddangos yn Ystafell Madryn o fewn adain amgueddfaol y Plas yn Llanbedrog.

Mr Phormula Interview w/ Winger Records x EMW TV

Interview with North Wales legend Mr Phormula aka Ed Holden, who is a renowned producer, beatboxer, rapper, and tutor. Discussing his beginnings in music, his musical groups – past and present, welsh culture, Dylan Thomas, Wu-Tang, Tystion, and much more..

Mared Fflur – Prif Lenor Eisteddfod T

Cyfle i ddal i fyny gyda Mared Fflur, Prif Lenor Eisteddfod T, wrth iddi sôn am ei hysbrydoliaeth, y profiad o greu a chystadlu yn ystod y cyfnod clo, a’r profiad unigryw o ennill prif seremoni Eisteddfod T, Eisteddfod ddigidol Urdd Gobaith Cymru.

Brwydr Iawndal Llwch y Chwarelwyr gyda’r Arglwydd Dafydd Wigley

Cyfle i glywed Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn rhoi crynodeb o’r brwydrau yng Nghymru ac yn San Steffan i gael cydnabyddiaeth i’r Chwarelwyr am beryglon anadlu llwch llechi; i ddatgelu ble roedd y cyfrifoldeb yn gorwedd ac i sicrhau cronfa gwladol a fyddai’n talu allan iawndal i’r chwarelwyr, cyn-chwarelwyr a’u gweddwon.
Traddodwyd y ddarlith am y tro cyntaf yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn mis Ionawr eleni yn rhan o enwebiad safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Llechi Cymru.

Sesiwn Celf – Mari Gwent

10:30 | 18.07.20
Dewch i fyd dychymyg trwy greu coeden, neu hyd yn oed coedwig dychmygol allan o ddeunydd cwbl syml, gyda Mari Gwent. Addas i blant / teuluoedd.

Tre Terfyn gan Aled Lewis Evans

19:00 | 25.07.20
Tre Terfyn gan Aled Lewis Evans – llythr caru i’r gogledd ddwyrain
Mewn cyfnod lle mae diffyg amrywiaeth llenyddiaeth Gymraeg wedi hawlio’r drafodaeth, sgwrs rhwng Osian Owen ac Aled Lewis Evans am ei gyfrol ddiweddaraf, am ardal sy’n brin ei chynriochiolaeth, sef Wrecsam.

“These Streets” – Geraint Rhys

Commissioned by The National Library of Wales to create a piece using their digital sound archives, Geraint created ‘These Streets’. Through combining interview recordings of friends of Dylan Thomas describing their childhood growing up with him in Swansea, with archival footage and newly composed music and visuals, Geraint has created a mesmerising film and sound map of the places that were so familiar to Dylan. Also a native of Swansea, Geraint has used his familiarity of the streets to create a modern interpretation of Dylan’s life which offers new insight in the places which moulded Dylan’s imagination.

Cewri Cymru | Welsh Heroes

Mae gwefan y Bywgraffiadur Cymreig yn drysorfa o wybodaeth am gewri Cymru. Dyma adnodd cwbl anhepgor a dibynadwy i unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes ein cenedl a’n harwyr. Ewch i’r wefan i ganfod mwy ac i gael eich ysbrydoli.

Baledi Cymru | Welsh Ballads

Mae’n anodd dychmygu mai drwy gân a cherdd y lledaenwyd y newyddion ar un adeg! Ond yng Nghymru, dyna beth oedd yn digwydd, fel mae’r clip yma’n esbonio … I ddarganfod Baledi Cymru Ar-lein, cliciwch YMA. .

Cerddorion yn Creu | Composers Create

Fel rhan o brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain (DETS), comisiynwyd nifer o gerddorion yng Nghymru i gyfansoddi darnau newydd, gan ddefnyddio archif sain y Llyfrgell fel eu hysbrydoliaeth. Mae cyfres o’r gweithiau cerddorol yn cael eu cyhoeddi ar ein sianel bob dydd Llun.

Clasuron Llenyddiaeth Gymreig | Welsh Literary Classics

Oeddech chi’n gwybod bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido rhai o glasuron mawr llenyddiaeth Gymreig a Chymraeg? Beth bynnag yw’ch diddordeb, mae llawer o themâu a chyfrolau i’w darganfod ar ein gwefan – gwyliwch y clip i ddysgu mwy amdanynt!