Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyfres Rhyfeddodau Cymru – 3 Portreadu Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry – Gwyn Jones, Plas Glyn y Weddw

19:00 | 29.07.20
Gwyn Jones yn siarad am lun o 1882 yn portreadu Syr Thomas Duncombe Love Jones-Parry, sef mab y Farwnes Elizabeth Jones-Parry o Stad Madryn, adeiladodd Plas Glyn-y-Weddw yng nghannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd Thomas Duncombe Love Jones-Parry yn gymeriad lliwgar ac yn un o sefydlwyr y Wladfa yn Patagonia. Mae y llun ar fenthyg tymor hir gan yr Archifdy yng Nghaernarfon ac yn cael ei arddangos yn Ystafell Madryn o fewn adain amgueddfaol y Plas yn Llanbedrog.

RHANNWCH