Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dawns – Theatr Gen (Bl.3-6)

Dewch i ddawnsio gyda’r berfformwraig Jalisa Andrews! Wedi’i gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru, mae’r fideo dawns hwn yn addas i blant o flynyddoedd 3 – 6.

U.Dance Cymru Digital Showcase / Arddangosfa Digidol U.Dance Cymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyffrous iawn i rannu ein cynlluniau ar gyfer U.Dance Cymru 2021 – digwyddiad sy’n anelu i ddod a dawnswyr ifanc at ei gilydd o bob cwr o Gymru i gymryd rhan mewn casgliad o weithdai, yn cynnwys llu o arddulliau dawnsio. Mae’r rhaglen yn un llawn dop o amrywiol […]

Disgo Mistar Urdd

Meddwl y gallwch chi ddal fyny gyda ‘moves’ Mr Urdd? Dewch i gael parti gyda’r dyn ei hun yn ei ddisgo – sesiwn llawn cerddoriaeth, hwyl a dawnsio gyda ffrindiau!

Arddangosfa Digidol U.Dance Cymru

6PM Dydd Gwener 14 Mai / Friday 14 May

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyffrous iawn i rannu ein cynlluniau ar gyfer U.Dance Cymru 2021 – digwyddiad sy’n anelu i ddod a dawnswyr ifanc at ei gilydd o bob cwr o Gymru i gymryd rhan mewn casgliad o weithdai, yn cynnwys llu o arddulliau dawnsio.
Mae’r rhaglen yn un llawn dop o amrywiol arddulliau dawnsio, gan ddechrau gyda arddangosfa ar-lein U.Dance Cymru a gynhelir gyda’r nos ar AM, ffrydio perfformiadau gan grwpiau dawns ieuenctid o bob cwr o Gymru.

Plethu / Weave: Gweddi am Frwsh Gwallt by/gan Nia Morais and/a Angharad Ruth Harrop

Plethu / Weave yn gyfres o ffilmiau byr wedi’u comisiynu gan CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru gan uno barddoniaeth a dawns o ledled Cymru.

Cafodd Gweddi am Frws Gwallt ei hysgrifennu gan Nia Morais a’i perfformio gan Angharad Harrop a’i merch Nansi, gyda cerddoriaeth Helen Wyn Pari . Mae’n portreadu yr agosrwydd tawel o mam yn brwsio gwallt ei phlentyn, gweithgaredd syml llawn gofal a phryder sy’n dod gydag anfon plentyn ifanc i’r ysgol yn ystod y pandemig


Bardd / Poet: Nia Morais
Perfformwyr / Performers: Nansi Fflur Owen & Angharad Ruth Harrop
Ffilm & Golygwr / Film & Edit: Angharad Ruth Harrop
Telyn & Chyfansoddwr / Harp & Composer: Helen Wyn Pari

Jukebox Collective

Mae Jukebox Collective yn gydweithrediad wedi ei arwain gan ieuenctid, a’i wreiddio yn gymunedol i feithrin talentau a lleisiau creadigol at y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn trwy ein dosbarthiadau aml-ddisgyblaethol, academi ac asiantaeth greadigol ble rydym yn arbenigo mewn rheoli artistiaid, castio, curadu ac ymgynghori.  Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y genhedlaeth nesaf […]

Plethu | Weave: Matrics Cerddorol.

gan / by  Elan Elidyr + Ed Holden.

Mae “Matrics Cerddorol” yn archwilio’r cytgord rhwng technoleg a’n byd naturiol trwy sain a symudiad. Yn aml gall technoleg bob dydd orlethu ein hamgylcheddau organig sydd yn ei dro yn cymylu’r llinell gytgord. Mae ‘Matrics Cerddorol’ yn archwilio ‘Matrics’ y berthynas hon.

Galeri Caernarfon

Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sy’n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu. Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf yw bod:”unrhyw beth yn bosibl…drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy“. Datblygiad Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yw’r prosiect mwyaf a mwyaf uchelgeisiol gan yr Ymddiriedolaeth hyd yma. Roedd agor Galeri yn 2005, adeilad […]

Y Ddraig Gymraeg

Dyma byped enfawr mwyaf diweddar Theatr Byd Bychan-draig Cymraeg hardd a tanbaid sy’n 10m o hyd. Cafodd y ddraig ei greu ar gyfer Pared Dewi Dinas a Sir Abertawe ar y 3ydd of Fawrth 2018. Roedd e’n rhan o orymdaith drawiadol trwy ganol y dre, yn gorffen yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. The Healing of […]

Perthyn | Belonging – Heb Ffiniau

Rydym yn falch iawn i rannu trydydd fideo Heb Ffiniau; ‘Beth mae perthyn yn ei olygu i chi?’ Mae Heb Ffiniau yn brosiect ymchwil a datblygu, wedi’i gefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Pontio a Chwmni Theatr Hijinx. Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu a’i arwain gan Sarah Mumford sy’n artist dawns a theatr gorfforol yng Ngogledd Cymru. […]

Tirwedd | Landscape – Heb Ffiniau

Be mae’r tirwedd yn golygu i chi? Rydym yn gyffrous iawn i ryddhau ail fideo Heb Ffiniau, gan ddod â blas i chi o’r gwaith sydd wedi’i greu fel rhan o’r prosiect ymchwil a datblygu yma. Yn dod ag artistiaid a pherfformwyr proffesiynol ynghyd, ac unigolion sydd â diddordeb a phrofiad eang mewn gwaith symud, […]

Krystal S. Lowe

Wedi ei geni yn Bermuda, mae gan Krystal S. Lowe – dawnswraig, awdur, a choreographydd wedi ei lleoli yng Nghymru – yrfa hirhoedlog o berfformio a theithio gyda Ballet Cymru ledled y D.U., China a Bermuda, gyda cwmni Citrus Arts Circus a Ransack Dance. Mae Krystal yn ddarlithydd cymrawdorol ym Mhrifysgol De Cymru, a Chyfarwyddwr Artistig o Kokoro Arts. Mae ei choreograffi yn canolbwyntio ar gyfuno ei gwaith ysgrifenedig a’i symudiad i greu gweithiau dawns theatrig ar lwyfan, mannau cyhoeddus, a ffilm.

Krystal Lowe – ‘Whimsy’

Mae Whimsy yn adrodd hanes merch sy’n caru natur ac sy’n dod i garu ei hun. 
Comisiynwyd gan Articulture ar y cyd â Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

My Mission

The purpose of my artistic contribution to the world.

Urdd Gobaith Cymru

Ifanc. Cymraeg. Bywiog.

Prif fudiad pobl ifanc Cymru ers 1922 yn cynnig ystod eang o brofiadau celfyddydol, chwaraeon, awyr agored a gwirfoddol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Articulture

Mae Articulture yn cefnogi datblygu celfyddydau awyr agored o ansawdd uchel yng Nghymru a chynulleidfaoedd amrywiol ac ymgysylltiol.

Rydym yn gweithio gyda chymuned eang o gydweithredwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i dyfu, creu ac arddangos talent Gymreig. Mae hyn yn cynnwys rheoli Consortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru – cyfres o wyliau a lleoliadau blaenllaw – sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r gwaith o greu a mynd â gwaith newydd ar daith yng Nghymru bob blwyddyn.

TAFWYL

Dathliad blynyddol Caerdydd o gelfyddydau a diwylliant Cymreig yw Tafwyl, sy’n cael ei threfnu gan Menter Caerdydd – elusen sy’n hyrwyddo ac yn ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.
Yn dilyn y siom o orfod canslo digwydd tri-diwrnod ym Mharc Biwt, bydd gŵyl ddigidol, arloesol, a hynod gyffrous i’w gweld yn FYW yma ar AM, ddydd Sadwrn 20.06.20.

CERDDORIAETH BYW ▪︎ LLAIS ▪︎ BWRLWM ▪︎ BWYD A DIOD ▪︎ MARCHNAD ▪︎ YSGOLION

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o wyliau mawr y byd, gyda thros 1,000 o weithgareddau amrywiol yn ystod yr wythnos. Yn gymysgedd eclectig o bob math o gelfyddyd a diwylliant, mae’n groesawgar, cynhwysol a chyfeillgar. O lenyddiaeth i ddrama a theatr stryd, ac o wyddoniaeth i weithgareddau i ddysgwyr, mae rhywbeth i bawb yn ystod yr ŵyl. Mae cerddoriaeth fyw yn elfen enfawr o’r wythnos, gyda bandiau a pherfformwyr blaenaf y sin ar Lwyfan y Maes, sesiynau acwstig yng Nghaffi Maes B , perfformiadau gwerin yn y Tŷ Gwerin, neu gerddoriaeth glasurol ac amgen yn Encore. Eleni, cynhelir Eisteddfod AmGen, sesiynau ar draws pob platfform digidol, ac yn y wasg a’r cyfryngau drwy gydol yr haf.

Reflections – a Dance for Parkinson’s film.

Reflections is a touching and uplifting film danced by participants of the NDCWales’ Dance for Parkinson’s programme and is now available to watch, along with a mini-documentary online.

National Dance Company Wales

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu gwaith dawns gwych gyda phob math o bobl, ac ar gyfer pob math o bobl o wahanol lefydd. Rydym yn dawnsio dan do, yn yr awyr agored ac ar-lein.
Fel cwmni sefydledig, rydym yn creu gwaith gan amrywiaeth o goreograffwyr i adlewyrchu safbwyntiau gwahanol a chanfod ffyrdd newydd o ddawnsio. Gydag arloesedd, creadigrwydd, dychymyg a gofal, rydym yn helpu Cymru a’i chymunedau i ffynnu.
Rydym yn credu ym mhŵer dawns ac yn rhannu diddordeb am y ffurf gelf. Rydym yn creu posibiliadau newydd o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ddawns fel bod mwy o bobl yn gallu creu, gwylio, cymryd rhan, a dysgu am ddawns yng Nghymru ac ar draws y byd.

Sesiwn Fawr Dolgellau

Mae Sesiwn Fawr yn ŵyl blynyddol sy’n denu miloedd o bobl i Ddolgellau i fwynhau y gorau o gerddoriaeth gwerin a cherddoriaeth Cymraeg, yn ogystal â dawns, llenyddiaeth, gweithgareddau i blant, comedi, bwyd a diod. Mae’r ŵyl yn llenwi pob twll a chongl Dolgellau yn ystod y penwythnos, gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn amryw leoliadau, ac yn llwyddo i ddenu artistiaid gwerin a Chymraeg o’r radd flaenaf i’r dref.

Pontio Bangor

Pontio yw Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor, agorwyd yn 2015. Mae’r adeilad, wedi ei gynllunio gan y penseiri Grimshaw, yn gartref i Theatr hyblyg, Stiwdio, a Sinema Ddigidol. Mae bwyd a diod ar gael ym Mar Ffynnon a chaffi Cegin. Mae Celfyddydau Pontio yn cynnig pob math o adloniant saith diwrnod yr wythnos, o’r ffilmiau diweddaraf i gerddoriaeth a drama, gigs, syrcas gyfoes a theatr awyrol, sioeau cabaret a llawer mwy. Hefyd yn rhan o’r adeilad mae canolfan arloesi o’r radd flaenaf ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr, gan gynnwys cartref i Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu.

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Yn arwain y ffordd wrth ddarparu cyfleoedd eithriadol yn y cefyddydau i’r bobl ifanc fwyaf talentog o bob cefndir ac o bob cwr o Gymru.
Sefydlwyd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2017 i uno ac arwain y gwaith o ddatblygu’r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol mawreddog a hirsefydlog, sef Band Pres, Cerddorfa, Côr, ensemble Dawns, a Theatr.
Mae’r rhai sy’n cael eu derbyn i fod yn aelodau am flwyddyn ar ôl clyweliad llwyddiannus yn cael hyfforddiant a chyfleoedd perfformio eithriadol gyda cyrsiau preswyl dwys a phleserus sy’n cael eu cynnal yn ystod gwyliau’r ysgol. Dim ond y cerddorion, actorion a dawnswyr ifanc mwyaf talentog sy’n cael eu dewis, ac mae llawer o gystadleuaeth. Fel corff sydd wedi ymrwymo i sicrhau mynediad a chynhwysiant i bawb, beth bynnag fo’u cefndir neu eu lleoliad, mae Bwrsariaeth CCIC yn sicrhau bod unigolion dawnus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gymryd rhan ac i ragori.  

Get the Chance

Pwy ydym ni?
Menter gymdeithasol wedi ei leoli yng Ne Cymru, yn gweithio i greu cyfleoedd i amrwywiaeth eang o bobl i brofi ac ymateb i ddigwyddiadau chwaraeon, celfyddydol, diwylliannol a byw.
Mae Get The Chance yn defnyddio eu gwefan fel platfform i arddangos eu gweithgaredd. Mae’r wefan yn cynnwys gweithgaredd ac allbynnau gweithdai, adolygiadau, eitemau golygyddol a llawer mwy. Mae ein gwefan yn lwyfan i aelodau rannu, trafod a gwerthuso eu hymateb personol gyda’u rhwydweithiau a’r byd mawr tu hwnt.
Mae Get The Chance yn fudiad llwyfannol i Young Critics Wales, Community Critics Wales a 3rd Act Critics arddangos eu gweithgaredd a’u hymateb.

Yr enw –
Daw yr enw o sgwrs rhwng y comediwr Billy Connolly a’r cyn-undebwr llafur Albanaidd Jimmy Reid. Yn angladd Reid yn 2010, dywedodd Connolly “Dwi’n ei gofio yn dweud os edrychwch chi ar y stadau tai a’r blociau fflat uchel – edrychwch ar y ffenestri. Tu ôl i bob ffenest mae rhywun a allai fod yn bencampwr reidio ceffylau, yn yrrwr car Fformiwla 1, yn hwyliwr penigamp ond fyddwch chi byth yn gwybod gan na wnaiff o fyth gamu ar gwch neu gar – fyddai o byth yn ‘get the chance’
Dywedodd Connolly fod y geiriau yn dal yn fyw yn ei gof bob dydd.

Ymunwch –

Am wybodaeth bellach neu i gymeryd rhan cysylltwch â chydlynydd y prosiect Guy O’Donnell – getthechance1@gmail.com