Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o wyliau mawr y byd, gyda thros 1,000 o weithgareddau amrywiol yn ystod yr wythnos. Yn gymysgedd eclectig o bob math o gelfyddyd a diwylliant, mae’n groesawgar, cynhwysol a chyfeillgar. O lenyddiaeth i ddrama a theatr stryd, ac o wyddoniaeth i weithgareddau i ddysgwyr, mae rhywbeth i bawb yn ystod yr ŵyl. Mae cerddoriaeth fyw yn elfen enfawr o’r wythnos, gyda bandiau a pherfformwyr blaenaf y sin ar Lwyfan y Maes, sesiynau acwstig yng Nghaffi Maes B , perfformiadau gwerin yn y Tŷ Gwerin, neu gerddoriaeth glasurol ac amgen yn Encore. Eleni, cynhelir Eisteddfod AmGen, sesiynau ar draws pob platfform digidol, ac yn y wasg a’r cyfryngau drwy gydol yr haf.