Mae Jukebox Collective yn gydweithrediad wedi ei arwain gan ieuenctid, a’i wreiddio yn gymunedol i feithrin talentau a lleisiau creadigol at y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn trwy ein dosbarthiadau aml-ddisgyblaethol, academi ac asiantaeth greadigol ble rydym yn arbenigo mewn rheoli artistiaid, castio, curadu ac ymgynghori.
Rydym yn benderfynol o sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr artistig yn adlewyrchu y Gymru gyfoes.