Pwy ydym ni?
Menter gymdeithasol wedi ei leoli yng Ne Cymru, yn gweithio i greu cyfleoedd i amrwywiaeth eang o bobl i brofi ac ymateb i ddigwyddiadau chwaraeon, celfyddydol, diwylliannol a byw.
Mae Get The Chance yn defnyddio eu gwefan fel platfform i arddangos eu gweithgaredd. Mae’r wefan yn cynnwys gweithgaredd ac allbynnau gweithdai, adolygiadau, eitemau golygyddol a llawer mwy. Mae ein gwefan yn lwyfan i aelodau rannu, trafod a gwerthuso eu hymateb personol gyda’u rhwydweithiau a’r byd mawr tu hwnt.
Mae Get The Chance yn fudiad llwyfannol i Young Critics Wales, Community Critics Wales a 3rd Act Critics arddangos eu gweithgaredd a’u hymateb.
Yr enw –
Daw yr enw o sgwrs rhwng y comediwr Billy Connolly a’r cyn-undebwr llafur Albanaidd Jimmy Reid. Yn angladd Reid yn 2010, dywedodd Connolly “Dwi’n ei gofio yn dweud os edrychwch chi ar y stadau tai a’r blociau fflat uchel – edrychwch ar y ffenestri. Tu ôl i bob ffenest mae rhywun a allai fod yn bencampwr reidio ceffylau, yn yrrwr car Fformiwla 1, yn hwyliwr penigamp ond fyddwch chi byth yn gwybod gan na wnaiff o fyth gamu ar gwch neu gar – fyddai o byth yn ‘get the chance’
Dywedodd Connolly fod y geiriau yn dal yn fyw yn ei gof bob dydd.
Ymunwch –
Am wybodaeth bellach neu i gymeryd rhan cysylltwch â chydlynydd y prosiect Guy O’Donnell – getthechance1@gmail.com