Cartref digidol diwylliant Cymru.

Galeri Caernarfon

Organisation Logo

Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sy’n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu. Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf yw bod:”unrhyw beth yn bosibl…drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy“.

Datblygiad Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yw’r prosiect mwyaf a mwyaf uchelgeisiol gan yr Ymddiriedolaeth hyd yma. Roedd agor Galeri yn 2005, adeilad £7.5m, yn dynodi datblygiad arwyddocaol i’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol yng Ngogledd Cymru.

 

Mae adeilad Galeri yn cynnwys:

– Theatr a sinema 394 o seddi

– 24 o unedau swyddfa

– Safle Celf

– 2 stiwdio ymarfer fawr

– 3 ystafell ymarfer llai o faint

– Ystafelloedd cyfarfod

– Café Bar

 

Ym mis Medi 2018 agorwyd estyniad newydd ar safle Galeri. Mae’r estyniad yn cynnwys 2 sinema pwrpasol (119 a 65 sedd) yn ogystal a Safle Creu, Swyddfa Docynnau newydd, gofod arddangos celf/crefft ac ystafell gyfarfod i 12 person. Mae’r rhaglen sinema bellach yn cynnig darpariaeth fwy eang a chyson o ffilmiau amrywiol – gan gynnwys ffilmiau newydd sbon.

Cynnwys