Sian Parri – Penrhyn Llŷn

Nod y prosiect ydi cynyddu defnydd y Gymraeg yn Llangwnnadl a’r ardal ehangach, wrth rannu a dathlu’r iaith a’r diwylliant, cynyddu cyfleon Cymraeg a chyd-ddarganfod celf a ffyrdd creadigol i groesawu pawb at y Gymraeg.
Mae Llangwnnadl wedi ei leoli yng ngogledd Llŷn ac mae ysgogi a chynyddu defnydd y Gymraeg fel iaith fyw yn y gadarnle yma’n allweddol i’w pharhad i’r dyfodol.
Partneriaid – Cymdeithas Pen-y-graig, Cyfeillion Llŷn, Cynghorau Cymuned Llŷn a thu hwnt, Menter Iaith Gwynedd a Cymunedoli.cyf.
Mymuna Soleman – Caerdydd a Chaernarfon

Celebrating Cofi Welsh through a Somali lens via creative writing workshops in Caernarfon. These creative sessions will focus on the intersectionality of the Welshness and race, with support by Mudiad Meithrin and the excellent resources they have prepared on anti-racism.
Ciaran Fitzgerald – Castell Nedd, Port Talbot

Bwriad y prosiect hwn yw dod â dau grŵp o bobl ifanc at ei gilydd a fyddai fel arfer â chysylltiad cyfyngedig â’i gilydd er eu bod yn byw yn yr un ardal ddaearyddol. Dwi’n bwriadu gwaithio gyda dwy ysgol, Ysgol Gyfun Bro Dur, ysgol Gymraeg brif ffrwd ym Mhort Talbot, ac Ysgol Maes y Coed, Ysgol Arbennig yng Nghastell-nedd, sydd ag ddisgyblion gyda amrywiaeth o anhawsterau dysgu a chyfathrebu yn ogystal ag anableddau corfforol. Fy mwriad yw gwneud darn o theatr stryd sy’n adlewyrchu’r gymuned y mae’r bobl ifanc hyn yn rhan ohoni, a’i harddangos yn Eisteddfod yr Urdd ym Margam 2025. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc o wahanol gefndiroedd, ond yr un gymuned, weithio gyda’i gilydd, a datblygu cyd-ddealltwriaeth rhyngddynt.
Rhiannon Mair – Pontyates, Sir Gaerfyrddin

Prosiect ym mhentref Pontyates, Sir Gaerfyrddin, a fydd yn defnyddio llwybr chwedlonol y Twrch Trwyth drwy’r pentref, ynghyd a llwybr y traciau tren oedd yn cario glo’r cwm i’r porthladd, fel cynsail ar gyfer gweithgarwch creadigol Cymraeg yno.
Partner – cyngor cymuned Llangyndeyrn a Chapel Nazareth
Elin Mannion – Abertawe/Swansea

Cornel Cymraeg: Cyfle i gymuned weithgar ac ymroddedig GIG Bwrdd Iechyd Bae Abertawe sydd eisoes yn siarad a dysgu’r Gymraeg i gael troedio i mewn i’r celfyddydau a dysgu, defnyddio a byw’r Gymraeg nid trwy eirfa feddygol a chyfarchion “Cymraeg Cwrteisi” yn unig, ond mewn sefyllfaoedd creadigol, ysbrydoledig a chyffrous a thrwy weithdai gydag amryw artist Cymraeg.
Partneriaid – GIG Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Dysgwyr Cymraeg (staff)
Colin Daimond – Ynys Mon/Anglesey

Mae Cwtch yn brosiect celfyddydol rhyng-genedlaeth cerddorol, dawns a charnifal Cymraeg wedi ei arwain gan y gymuned. Bydd Cwtch yn ymbweru unigolion a chreu cydlyniad cymunedol drwy raglen eang hyblyg gyfranogol i siaradwyr Cymraeg o bob lefel. Bydd pob oedran yn cyd-greu perfformiad Carnifal cyfoes gan ddewis themau chwedlau, delweddau, tirluniau a cherddoraeth werin Cymru. Bydd hefyd gyfleon creadigol i weithio gyda chyfryngau digidol a deunyddiau wedi eu hail-gylchu.
Partneriaid – Rhwydwaith Gymunedol EHE, Wispy Willow Creations, Plas Llwynnon
Richard Huw Morgan – Trefforest, Pontypridd

Bydd y prosiect yn archwilio gwybodaeth, agwedd a hyder iaith Gymraeg cymuned dymhorol sef teithwyr bws yng nghymunedau glofaol de Cymru drwy gyfres o sgyrsiau un-wrth-un. Bydd yn annog hyder mewn unrhyw allu sydd gennym ac yn cydnabod ein bod oll ar sbectrwm o allu yma bynnag iaith y siaradwn. Bydd y cyfan yn cael ei ddogfennau fel cyfres o recordiadau ar gyfer arddangosda gelfyddydol glywedol yn y dyfodol.
Partner – Citrus Arts
Rufus Mufasa – Blaenau Gwent

Rhaglen gyfrwng gymysg amlddisgyblaethol yn rhoi cyfle i leisiau ar yr ymylon ail-ddychmygu iaith a’r celfyddydau gan amlygu medrusrwydd ac amrywiaeth ein cenedl â’i gwneud yn agored i bawb. Bydd mynegiant y genedl yn hygyrch i bawb ac yn cryfhau pob fframwaith, pob polisi, i bawb, heddiw a chenhedlaethau’r dyfodol.
Partner – Celf ar Y Blaen
Kirsti Davies – Machynlleth, Powys

Mae Gwreiddio yn brosiect wedi ei arwain gan artistiaid sydd yn anelu i fwyhau lleisiau Cymraeg yn Nyffryn Dyfi a dathlu ei berthynas hir a’i eiriolaeth o natur. Bydd y prosiect yn cychwyn ymholiad creadigol gan gyfoedion i feithrin balchder a pherchenogaeth o fewn naratif natur. Bydd y broses yn creu gwaith artistig newydd, gweithdai cydweithio ac yn cyrraedd penllanw mewn digwyddiad dathlu arbennig.
Partner – Ennyn, Eco Dyfi
Below the Waves

Below the Waves fydd 3edd ffilm nodwedd TAPE, ond ein ffilm gyntaf i gael ei hanimeiddio!
Mae TAPE ar hyn o bryd yn y ‘cyfnod cyn-gynhyrchu ac Ymchwil a Datblygu’ ar gyfer Below the Waves. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwneud llawer o arbrofi. Byddwn yn cynnal arddangosfa deithiol Below the Waves yn gynnar yn 2025. Bydd yr arddangosfa yn teithio i wahanol lefydd yng Ngogledd Cymru. Bydd yn dangos yr holl waith creadigol gwahanol sydd wedi mynd i Below the Waves hyd yn hyn.
Cymdeithasu gyda’r Mentrau Gymdeithasol: Antur Stiniog

Croeso i’r gyfres newydd gyffrous sy’n ymchwilio i waith dylanwadol mentrau cymunedol Ffestiniog. Yn y gyfres hon, byddwn yn trafod brosiectau ac ymdrechion gymuned Ffestiniog i sicrhau newid cadarnhaol i’r gymuned. Ymunwch â ni wrth i ni ddarganfod y straeon y tu ôl i’r mentrau hyn a’u heffaith ddofn ar y gymuned leol.
Gig Phil Gas a’r Band a Hari Emlyn

7.30pm
26/07/2024
Mynediad am ddim / Free entry
Stori’r Tir: Prosiectau

Mae Stori’r tir yn brosiect creadigol sy’n casglu a rhannu storiau ynghylch ein perthynas gyda’r tir yn Nyffryn Peris.
Dan ni’n dod a’r gymuned at ei gilydd i gipio doethineb y cenedlaethau blaenorol, hybu hunaniaeth a chyswllt
gyda’r tir a’r iaith Gymraeg.
Mae 14 o brosiectau Stori’r Tir wedi dechrau:
Deall Cymuned (Understanding Community) • Chwedlau’r Tir (Legends of the Land) • Dehongli’r Dyffryn: Llwybrau’r Merched (Interpreting the Valley: Women’s pathways) • Enwau Caeau Nantperis Field Names • Priodedbau Pridd (Story of Soil) • Gwasanaeth Bws S2 Bus Service • Autochtonnau – Ensemble Stori’r Tir • Traed Bach Tÿ Gwyn (The Tales of Tÿ Gwyn) • Tirweddau Coll – Lost Landscapes • Bws i Lanbabo • Cerrig a Dŵr (Stones and Water – living beside a holy well) • Trwy eu Llygaid – Through their Eyes
Cynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Peris
Cynllun Gweithredu Hinsawdd: Dyffryn Nantlle
Bro Ffestiniog: Cynllun Gweithredu Hinsawdd | Climate Action Plan
Pen Llŷn: Cynllun Gweithredu
Amdanom Ni

Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen
Eisiau gwirfoddoli? Mwy o wybodaeth yma.
Cyd Ynni (Amdanom Ni)

Beth rydym yn gwneud Mae Cyd Ynni yn gonsortiwm o 5 grŵp cymunedol yng Ngwynedd sydd wedi dangos llwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf wrth ddarparu prosiectau ynni a chymunedol: Egni Mynydd, Ynni Padarn Peris, Ynni Anafon, Ynni Ogwen a Moelyci. Mae pob un o’r grwpiau wedi gwneud cynnydd sylweddol – weithiau mewn amgylchiadau anodd – […]
Pen Llŷn: O Gynulliadau i Weithredu
Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd ym Mhen Llŷn, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, ac edrych ymlaen i’r dyfodol. Mwy o wybodaeth isod!
Dyffryn Nantlle: O Gynulliadau i Weithredu
Edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Nantlle, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, a golwg o beth sydd ar y gweill!
Dyffryn Peris: O gynulliadau i weithredu
Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Peris, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, a golwg o beth sydd ar y gweill!
Bro Ffestiniog: O Gynulliadau i Weithredu
Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd ym Mro Ffestiniog, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, a golwg o beth sydd ar y gweill! Mwy o wybodaeth isod.
Dyffryn Ogwen: O Gynulliadau i Weithredu
Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Ogwen, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, a golwg o beth sydd ar y gweill!
Rhaglen Addysg GwyrddNi
Mae cynnig addysg GwyrddNi wedi ail ddechrau! Bwriad cynnig addysg GwyrddNi yw sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu at ddatrys her yr hinsawdd yn eu cymunedau.
Mae’r fideo yma yn edrych ar beth a gyflawnwyd yn ystod cyfnod Cynulliadau Cymunedol GwyrddNi, ac yn edrych ymlaen i’r cam nesaf – y Cyfnod Gweithredu Cymunedol.
Gŵyl Gwenllian 2024

Dathlu Merched y Carneddau
07-09/06/2024
Gall Twristiaeth Gweithio i’n Cymunedau?
Ydych chi’n barod i ddarganfod dyfodol twristiaeth? Yn ein fideo diweddaraf rydym yn archwilio ymdrechion ysbrydoledig ymchwilwyr cymunedol o dri ardal llechi, i gyd wedi’u huno gan nod cyffredin: Gall Twristiaeth Gwethio i’n Cymunedau .
Yn y fideo hwn, byddwch yn clywed gan ymchwilwyr ymroddedig sydd yn gweithio i gadw eu diwylliannau unigryw yn fyw ond hefyd yn meithrin twf cynaliadwy sydd o fudd i bawb. Roedd y rhaglen ymchwil arloesol hon yn uno ymchwilwyr lleol, mentrau datblygu cymunedol ac arbenigwyr academaidd i geisio mynd i’r afael â deall y mater hwn.
P’un a ydych chi’n frwd dros deithio, yn angerddol am cynaliadwyedd, neu’n rhywun sy’n chwilfrydig am ffyrdd newydd o gefnogi economïau lleol, mae’r fideo hwn ar eich cyfer chi. Gadewch i ni adeiladu dyfodol lle mae twristiaeth nid yn unig yn ymwneud ag ymweld â lleoedd ond â gwneud cysylltiadau ystyrlon a gadael effaith gadarnhaol. Peidiwch â cholli allan ar y sgwrs ysbrydoledig hon – gwyliwch ac ymunwch â’r symudiad twristiaeth genhedlol heddiw!
Partneriaeth gyda QueerAF: Saltburn, “Queers Without Money” a grym sinema ar gyfer hunan-wireddu cwiar

Partneriaeth gyda QueerAF: Saltburn, “Queers Without Money” a grym sinema ar gyfer hunan-wireddu cwiar
gan Diffwys Criafol
Yn Fy Amser Fy Hun: Goresgyn Ofn Mewn Gwlad Newydd

Ers cryn amser bellach mae’r ymadrodd “yn eich amser eich hun” wedi bod yn destun myfyrio. Pan glywais ef gyntaf, daeth â gofid a phryder mawr i mi. Bryd hynny, roedden i’n weinyddwr mewn sefydliad bach yn Llundain, lle’r oedd un o’m tasgau’n cynnwys gweithredu llungopïwr. Er fy mod yn hapus i helpu pobl gyda’u […]
Partneriaeth gyda QueerAF: Mae gemau indie yn arwain y ffordd ar straeon cwiar, ble mae’r stiwdios mawr?

Partneriaeth gyda QueerAF: Mae gemau indie yn arwain y ffordd ar straeon cwiar, ble mae’r stiwdios mawr?
gan Sam Lewis
Gig Candelas a Pys Melyn

Nos Sul/Sunday – 05/05/2024
7pm ymlaen
Tafarn y Plu – Llanystumdwy
18+
Noson Blŵs Osian Morris

Nos Sadwrn/Saturday – 11/05/2024
7.30pm ymlaen
AM DDIM / FREE
Tafarn y Plu – Llanystumdwy
Tacla

Nos Sul/Sunday – 26/05/2024
7pm ymlaen
AM DDIM / FREE
Tafarn y Plu – Llanystumdwy
Gig HMS Morris a Morgan Elwy

Nos Sadwrn/Saturday – 15/06/2024
7pm ymlaen
Tafarn y Plu – Llanystumdwy
18+
LLANffest – Gwyl gwrw a cherdd

25/05/2024
Tocyn £25
Ticedi ar Werth o Nos Wener 29.03.24 or Bar. Gynta i’r Felin.
Swyddi yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog

Hysbyseb Swyddi, Blaenau Ffestiniog.
Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth bersonau profiadol i gyfrannu at lwyddiant a gweledigaeth chyffroes Antur Stiniog Cyf.
Dyddiad Cau – 24/04/2024
Am sgwrs dewch draw i Tŷ Coffi Antur Stiniog neu ffoniwch Helen ar 01766832214
Hon – T H Parry Williams
Yn ystod ynysu rydym yn gofyn i Brocastwyr frwd y fro gyrru eu hoff cerddi cymraeg a rhannu gyda’r gymuned.
Dyma Hon gan T H Parry Williams wedi cael ei rannu gan Rachel Davies.
The Queer Emporium

Siop a menter gymdeithasol yng Nghaerdydd sydd yn cynnwys 20 busnesau bach LHDTC+, sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau.
Llais y Lle 2023

Lansiwyd Llais y Lle yn 2023 i gefnogi unigolion creadigol i ddatblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg drwy weithio gyda chymunedau. Roedd rhai o brosiectau’r llynedd yn amrywio o ŵyl i ddathlu merlod gwyllt y Carneddau, i astudiaeth o rôl yr iaith yn Nhrebiwt; a gweithdai creadigol i bobl ifanc yn Sir Drefaldwyn.
Caernarfon – Iola Ynyr
Dychmygu, creu a byw yn fwy
Prosiect creadigol i ferched dros 18 oed i hyrwyddo llesiant yn y Gymraeg yn Porthi Dre, Caernarfon hefo Sioned Medi Evans a Iola Ynyr.
Ein bwriad yw:
Meithrin cyfleon i ddefnyddio ein creadigrwydd i ddychmygu gwell dyfodol i’n hunain, eraill a’r amgylchfyd heb ofn a hynny yn y Gymraeg
Casglu syniadau, trafod, ysgrifennu a chreu delweddau
Cynnig croeso i ddysgwyr Cymraeg
Darganfod y fersiwn fwyaf disglair ohonom ein hunain
Rhaglen drwy’r flwyddyn gyda’r cynnig i alw fel sy’n gyfleus
Mwy o wybodaeth – Nia Skyrme, Cynhyrchydd.
Ysbyty Ifan – Rhodri Owen

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle? Roeddwn eisiau cyflwyno ac ail-ddehongli hanes a llên gwerin ardal Ysbyty Ifan mewn ffordd drawiadol gyda’r gymuned, gan roi’r Gymraeg yn ganolbwynt i hynny wrth wneud. 2. Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn? Roedd gweithgareddau’r prosiect yn amrywio’n ond rhai o’r uchafbwyntiau oedd – adeiladu […]
Bethesda a Caerdydd – Rhiannon White a Ffion Wyn Morris (‘Llais y Lle’ i’w glywed ar hyd a lled Cymru)

‘Llais y Lle’ voices heard across Wales
Sir Drefaldwy – Myfanwy Alexander

Un o’r prosiectau dderbyniodd gefnogaeth Llais y Lle 2023 yw cynllun sy’n cael ei arwain gan Myfanwy Alexander yn ardal Sir Drefaldwyn. Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda grwpiau gwahanol o bobl ifanc i’w hannog i feddwl am eu perthynas â’r Gymraeg drwy gyfrwng drama, ffilm a cherddoriaeth. Wrth sôn am ei gwaith dywedodd Myfanwy: […]
Pontypridd – Catrin Doyle, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle? Roeddwn eisiau dod ac unigolion creadigol a’r gymuned ehangach at ei gilydd ym Mhontypridd, er mwyn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Felly mi es i, Bridie Doyle-Roberts a Becky Davies i greu gweithgareddau i annog defnydd o’r iaith mewn ffurf ymarferol a normal, er mwyn cyflwyno’r iaith i’r […]
Llanfairfechan a Penmaenmawr – Manon Prysor – Gŵyl y Merlod Gwyllt

1. Beth oedd dy brosiect Llais y Lle? Roeddwn i eisiau creu gweithgareddau fyddai’n cysylltu dwy gymuned Penmaenmawr a Llanfairfechan, drwy ddod a phawb at ei gilydd i rannu hanes yr ardal, hyrwyddo treftadaeth leol a dathlu ein Cymreictod. Wedi cyfnod o ymgysylltu’n greadigol fel ddaeth ysbrydoliaeth i’n prosiect i’r amlwg. Un o brif nodweddion […]
Talgarreg – Lleucu Meinir, Meinir Mathias ac Eddie Ladd – Cware

1. Beth yw dy brosiect Llais y Lle? Mae Cware am ymchwilio arwyddocâd y ddwy chwarel sydd ym Mhentref Talgarreg, ac arwyddocâd y chwareli i’r pentrefwyr a phobl Ceredigion. Mae Talgarreg yn le pwysig i’r dair ohonom sy’n rhan o’r prosiect hwn. Fel sawl man yng Nghymru, mae’r ardal wedi gweld mewnlifiad o bobl o […]
Grangetown – Rhiannon Mair

1. Beth yw dy brosiect llais y lle? Yn byw yn Grangetown, roedd gen i ddiddordeb yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg yno ac yn Trebiwt. Roeddwn eisiau ymgysylltu gyda’r gymuned i ddeall os oedd rhwystra i ddysgu Cymraeg a gwybod faint o bobl oedd yn gallu siarad yr iaith – i ba bynnag lefel […]
Dyffryn Nantlle – Gwenllian Spink

1. Beth yw’r prosiect Llais y Lle? Fy mhrif amcan efo’r prosiect oedd edrych ar berthynas pobl Dyffryn Nantlle gyda’u cenedligrwydd, drwy edrych ar hanes a thirwedd ein hardal ac ysgogi’r iaith Gymraeg. Fe gefais lawer o ysbrydoliaeth gan chwedlau Cymru ond yn benodol Blodeuwedd, oherwydd y cysylltiad gyda’r ardal a’r thema natur gref. 2. […]