Cartref digidol diwylliant Cymru.

Menter Bro : Cambrian Terrace

Dyma fidio yn rhannu ychydig ar waith cychwynol yn cynllun Cambrian Terrace, ble mae tair ty yn cael ei ol-fitio ac yn cael eu gosod ar rhwydwaith ynni. Mae hwn yn rhan o gynllun bydd yn edrych i ddatblygu hyn yn Tanygrisiau gan weithio mewn partneriaeth gyda’r gymuned, busnesau a’r llywodraeth i sicrhau ynni teg […]

Archebu Ein Syrcas

Mae Organised Kaos yn syrcas ieuenctid a chymunedol wedi’i leoli yng nghymoedd Castell Nedd a Port Talbot.   I bwcio Organised Kaos, cliciwch yma

Rhwyd: Cyflwyniad Rhian Hopkins am Gapel Rhondda

Rhoddwyd y cyflwyniad hwn yn ystod digwyddiad ‘Rhwyd: Capeli dan berchnogaeth y gymuned’ (26/06/2026). Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd. Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli Cyf. Caiff ei ariannu gan YAC.

Rhwyd: Cyflwyniad Eleanor Mathias a Beck Edwards am ‘Capeli Cymru’

Rhoddwyd y cyflwyniad hwn yn ystod digwyddiad ‘Rhwyd: Capeli dan berchnogaeth y gymuned’ (26/06/2026). Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd. Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli Cyf. Caiff ei ariannu gan YAC.

Y Cychwyn – Flog Organised Kaos

Fel rhan o gronfa Llais y Lle ar gyfer sefydliadau cymunedol, mae pob sefydliad wedi flogio eu taith drwy gydol y broses. Dyma ddechrau taith Organised Kaos.    

Organised Kaos

Mae Organised Kaos yn syrcas ieuenctid a chymunedol wedi’i leoli yng nghymoedd Castell Nedd a Port Talbot. Mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect allgymorth ieuenctid yn 2010 wedi’i gwmpasu gan ei acronym o Keeping Adolescents Off The Streets (KAOS) wedi aeddfedu i fod yn syrcas gyfoes Cymreig angerddol sy’n tynnu’n ddwfn ar ein wreiddiau Celtaidd. […]

Llais y Lle – Ffiniau

ffiniau (n) Llinell sy’n gwahanu dau neu ragor o arwynebeddau neu ardaloedd, hefyd yn ffigurol; goror, terfyn, ymyl (n) Ymyrraeth greadigol sy’n archwilio effaith ffiniau newidiol yng nghymoedd Aman/Tawe, gan defnyddio syrcas a cherddoriaeth i archwilio hunaniaeth, iaith a newid ôl-ddiwydiannol.

Brethyn Cartref – (Pam Cydweithredfa gelf cyffredin)

Prosiect Llais y Lle – Brethyn Cartref: Yn dod â menywod â phrofiad o’r system loches a phobl greadigol sy’n siarad Cymraeg ynghyd i archwilio iaith, hunaniaeth a pherthyn drwy ymchwil a chydweithio artistig.   Am Llais y Lle: Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais […]

Llais y Lle Dyfi (Ennyn)

Prosiect Llais y Lle – Llais y Lle Dyfi: Ymchwil creadigol cymunedol sy’n cysylltu’r Gymraeg â phrofiadau byw trwy gysylltiad â natur, gweithgarwch awyr agored a phreswylfeydd artistiaid ledled Dyffryn Dyfi, mewn cydweithrediad â gofod celf dan arweiniad ieuenctid Sploj.   Am Llais y Lle: Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n […]

Y Gloch, Y Gwrych a’r Gwlychu (Partneriaeth Dyffryn Peris)

Prosiect Llais y Lle – Y Gloch, Y Gwrych a’r Gwlychu:  Galwad agored ac ymateb cyfunol i newid diwyllianol ac amgylcheddol yn Nyffryn Peris. Comisiynu artistiaid i ddatblygu gwaith oddi mewn ac ar draws cymunedau yn y rhyngwyneb o hinsawdd, iaith, diwylliant a hunaniaeth   Am Llais y Lle: Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n […]

Bara’r Nefoedd (Capel y Rhondda)

Prosiect Llais y Lle – Bara’r Nefoedd  Gan adeiladu ar ymgyrch gymunedol lwyddiannus i arbed Capel Rhondda, mae’r prosiect celfyddydol amrywiol hwn yn archwilio rol y Gymraeg yn y gorffennol, presennol a’r dyfodol wrth gynllunio defnydd cymunedol yr adeilad a’r gymuned ehangach yn y dyfodol.   Am Llais y Lle: Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn […]

Llais y Lle: Pentredwr (Cymdeithas Gymunedol Pentredwr a’r Cylch)

Prosiect Llais y Lle – Llais y Lle: Pentredwr: Labordy blwyddyn o hyd sy’n archwilio’r gymuned a hiraeth ac sy’n datblygu’r Gymraeg mewn ffyrdd chwareus a chyfranogol.   Am Llais y Lle: Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais y Lle. Dyma’r tro cyntaf i’r gronfa ariannu […]

Iaith y Pridd (Carreg Greadigol)

Prosiect Llais y Lle – Iaith y Pridd:  Cynllun cydweithredol gyda Utopias Bach wedi’i leoli yn Fferm Henbant, sy’n archwilio sut mae perthynas pobl gyda’r Gymraeg yn esblygu trwy gylchoedd tymhorol o dyfu, dysgu a gwneud gyda’i gilydd. Mwy o wybodaeth: https://www.utopiasbach.org/iaith-y-pridd   Am Llais y Lle: Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r […]

Crud y Tirfor (Yr Heliwr Nefyn)

Prosiect Llais y Lle – Crud y Tirfor: Prosiect celfyddydau rhyngddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â chymunedau drwy weithgarwch creadigol, gwneud a dathlu ar y cyd, meithrin balchder ac undod drwy’r Gymraeg.   Am Llais y Lle: Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais y Lle. Dyma’r tro cyntaf […]

Ffiniau – Y tir a’r iaith rhyngddynt (Organised Kaos)

Prosiect Llais y Lle – Ffiniau – Y tir a’r iaith rhyngddynt   Prosiect sy’n archwilio effaith ffiniau cyfnewidiol yng nghymoedd Aman/Tawe drwy syrcas a cherddoriaeth i archwilio hunaniaeth, iaith a newid ôl-ddiwydiannol.   Am Llais y Lle:   Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais […]

Rhwydwaith Ein Llais

Mae Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais yn bodoli i ymbweru, datblygu a chynnig platfform i artistiaid Mwyafrif Byd-eang drwy weithgareddau llesiant, cyfleoedd datblygiad proffesiynol, digwyddiadau arddangos a bwrsarïau.

Twmpath Lo-Fi Jones

Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth a dawnsio yn Castle Inn, Aberteifi. Dyddiad: 25 Ebrill 2026 Amser: O 5pm Amserlen: 5pm – Codi Canu (Folk Singing) 6pm – Twmpath Lo-Fi Jones (Barn Dance) Croeso i bawb. Dewch draw am noson hamddenol o gerddoriaeth a dawnsio sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Wedi’i gefnogi gan Dafarn […]

Cofrestrwch ar gyfer ein trafodaeth panel am ddim i’ch helpu gweithio ym maes newyddiaduraeth

Ydych chi’n dechrau ym myd newyddiaduraeth, neu eisoes yn dod o hyd i’ch traed yn y diwydiant? Ymunwch â’n panel sydd ar ddod sy’n archwilio sut mae cywion newyddiadurwyr yn adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy, yn llywio gwaith llawrydd, ac yn cael mynediad at gyfleoedd y tu hwnt i lwybrau traddodiadol. Dan arweiniad y newyddiadurwr diwylliannol a threfnydd cymunedol Sheryl […]

Deall Ein Lle a Defnyddio Ein Llais

Yn ddiweddar, roedd Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yn bartneriaid ar Newyddion i Bawb: prosiect ymchwil wedi’i leoli ym Mlaenau Ffestiniog. Dan arweiniad ein sylfaenydd Shirish Kulkarni – a ariannwyd gan Gymunedau Creadigol i wneud y gwaith ynghyd â thîm o hwyluswyr – roedd y prosiect yn dilyn adroddiad Newyddion i Bawb yn Grangetown, gan ofyn i’r gymuned leol beth […]

Partneriaeth gyda QueerAF: Terfysg Trawswisgo Cymreig ac Amrywiaeth Rhywedd

Yn y 1830au a’r 1840au, cafodd rhannau helaeth o gefn gwlad gorllewin Cymru eu hysgwyd gan don o wrthryfeloedd poblogaidd a elwir bellach yn Derfysgoedd Beca. Targedodd protestwyr, yn aml wedi’u cuddio fel menywod, gatiau tollau a osodwyd gan ymddiriedolaethau tollbyrth. Mae’n demtasiwn darllen y digwyddiadau hyn trwy lens hoyw gyfoes. Ond pan wnawn ni […]

Newyddiadurwyr a’r achos dros gysylltu

Ym mis Rhagfyr, roeddem wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Sofia Lewis wedi derbyn ein Cymrodoriaeth Cynefin gyntaf. Fel rhan o’r gymrodoriaeth, mae Sofia yn treulio tymor yn Sefydliad Reuters yn Rhydychen, yn archwilio dyfodol newyddiaduraeth ochr yn ochr â chwe Chymrawd arall o bob cwr o’r byd. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o bostiadau blog y bydd […]

Partneriaeth gyda QueerAF: Gwaharddiadau Cyfryngau Cymdeithasol a Ieuenctid Cwiar

Pan fydd sgyrsiau am waharddiadau cyfryngau cymdeithasol yn cyrraedd neuaddau San Steffan, cânt eu llunio fel mater diogelu syml. Un y gellir ei ddatrys gydag iaith eang ac atebion cynhwysfawr ar gyfer ieuenctid 2026. Mae’n ymddangos bod gwleidyddion yn cael eu calonogi gan waharddiadau mewn mannau eraill, gan gynnwys yn Awstralia, taleithiau India a nawr Sbaen. Mae hynny er […]

Anabledd a Dysgu Cymraeg | Disability and Welsh Learning

Mae Anabledd a Dysgu Cymraeg yn rhan o Brosiectau Cyngor Celfyddydau Cymru, Llais y Lle Mae Anabledd a Dysgu Cymraeg yn rhan o Llais y Lle (The Voice of Place), sef prosiect un flwyddyn a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru; ei nod yw datblygu addysgeg dysgu’r Gymraeg gan ddefnyddio ysgrifennu creadigol i gefnogi pobl lle […]

Siaradwyr Newydd: Newid y Sîn

Dyddiad: Nos Iau 9 Ebrill 8yp Venue: The Riverfront Tocynnau – £10.00 Siaradwyr Newydd: Newidy Sîn BSL Interpreted: Cathryn McShane Mae’r noson grafu newydd sbon hon yn lle i ddysgwyr Cymraeg a Dysgwyr Newydd ysgrifennu dramâu byrion yn Gymraeg am y tro cyntaf. Disgwyliwch sgriptiau amrywiol o safbwyntiau ffres, wedi’u perfformio gan gast talentog. Dewch i fod […]

Rhwyd: Cyflwyniad Euros Lewis am ymgyrch Ysgol Cribyn

Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd. Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli Cyf. Caiff ei ariannu gan YAC.

Pellter Byr – Hannah Mefin

Mae’r ffilm ddogfen hon yn archwilio calon ddiwylliannol Llais Ogwan, papur bro gymunedol yn Nyffryn Ogwen. Drwy sain naturiol a lluniau arsylliadol, mae’r ffilm yn dal rhythmau arafach ymdrech gymunedol ac iaith a rennir. Wedi’u gwasgaru drwyddi draw mae cipolwg ar rifynnau blaenorol o Llais Ogwan. Mae’r ffilm yn ceisio tynnu sylw at bwysigrwydd papurau […]

Cymru fel Cenedl Heddwch

Mae Byw Mewn Heddwch (Llais y Lle, Cyngor Celfyddydau Cymru) wedi dod i ffrwyth trwy bartneriaeth yr Academi Heddwch a grŵp Heddwch Nain/Mam-gu. Mae’n gyfle i ferched Meirionnydd a phobl ifanc GISDA archwilio beth ydi heddwch i ni yng Nghymru heddiw o fewn ein cymunedau a thu hwnt. Roedd y gyntaf o’n sesiynau ‘Meirionnydd Heddychlon?’ […]

Cyflwyno SOSEJ

Mae SOSEJ yn brosiect newydd i bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru trwy grant Llais y Lle. Dyma flog gan Nico Dafydd, artist cymunedol ar y prosiect, yn esbonio’r syniad tu ôl i’r cynllun “Dwi wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am bwysigrwydd cerddoriaeth; i wrando arno, i’w chwarae, i’w gyfansoddi, a’i fwynhau gyda ffrindiau. I […]

Rhwyd: Cyflwyniad Lowri Jones am Dafarn Y Vale

Rhoddwyd y cyflwyniad hwn yn ystod digwyddiad ‘Tafarn, Ysgol a Ffermwyr – Mentro a Chydweithio yn Nyffryn Aeron’ (29/07/2025).   Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd.   Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli […]

Gwehyddu a Gwnïo Heddwch

Ar draws y byd, mae merched yn creu eu heddwch mewnol trwy wnïo a gwehyddu ond hefyd yn defnyddio hynny mewn modd chwyldroadol i fynegi eu hunain. Dydan ni ddim yn wahanol yn hynny o beth.   Gan ddefnddio cnu o’i fferm yn Llanfrothen, daeth Olwen Ford atom i wehyddu ac i ni gael sgyrsiau am beth ydi ystyr heddwch i ni heddiw o ran heddwch mewnol, addysg, bwyd, bywyd merched. Cafwyd sgyrsiau hynod o ddifyr a chreodd bawb fat o wlân i fynd adref.   Mae cangen arbennig o Byw Mewn Heddwch hefyd yn weithredol yn ardal Y Bala dan arweiniad Margiad Jones a Gudrun Jones sy’n creu Ffenest Heddwch trwy wnïo a brodwaith. Gofynnwyd i bawb yn ein sesiynau ‘Taset ti’n edrych trwy ffenest heddwch, be’ faset ti’n ei weld?’ Mae Margiad a Gudrun yn dod â’r syniadau hyn ynghyd â bydd criw o ferched sy’n mynychu grwpiau gwnio yn ymgymryd a’r gwaith o wnïo’r ffenest fetr sgwar.   

Geiriau’n gweiddi Heddwch

Mewn sesiynau hamddenol yn Y Pengwern, Llan Ffestiniog dros yr Hydref a’r Gaeaf, bu sawl un yn ymateb i syniadau gwahanol am heddwch efo’r awdur Sian Northey. Yn un o’r gweithdai, cafodd mynychwyr y cyfle i ymateb i waith celf Paul Peter Piech gan fod Sian, Llinos a Seran o brosiect Byw Mewn Heddwch wedi cael y cyfle unigryw i guradu ei arddangosfa yn Storiel, Bangor. Mae ei waith yn bendant yn gweiddi heddwch.  Mae’r holl weithdai yn gyfle i fwrw bol ac i daflu syniadau ar lafar neu ar bapur a doedd ein sesiynau Gweledigaethau a Ryseitiau Heddwch ddim gwahanol wrth i ni fynd ati i feddwl am y bobl sydd ddim yn rhydd yn ein cymdeithas ac ar draws y byd ac i feddwl beth ydi’n gweledigaethau ni am heddwch a beth ydi’r cynhwysion angenrheidiol.   I ddechrau’r flwyddyn newydd, daeth criw ohonom at ein gilydd i greu baneri heddwch o ddyfyniadau enwog yn ogystal â myfyrdodau ein hunain. Cynhaliwyd sesiwn gan Sian Northey a’r saer maen Gabriel Hummerstone yn defnyddio cerrig fel sbardun i feddwl am heddwch cyn i ni cyd-benderfynu ar air i’w gerfio mewn llechen. Mae’r diwydiant llechi wedi bod yn drawsnewidiol i gymunedau ym Meirionnydd ond mai gwaith dynion fu’r cerfio erioed. Roedd yn rymusgar iawn i ni fynd ati i naddu bob llythyren gyda’r daith araf i heddwch yn ein meddyliau.   

Llyfr Lloffion Byw Mewn Heddwch

Ar ddechrau’r prosiect dosbarthwyd llyfrau lloffion i bawb oedd yn mynychu’r sesiynau – er mwyn iddynt gael cadw trefn ar eu creadigaethau. Un sy’n frwd iawn am greu brasluniau yn ymateb i bob sesiwn ydi Gudrun Jones. Dyma rai o’r gweithiau yma…   

Gweithdai GISDA

Mae’r artist Fiorella Wyn a Llinos Griffin yn gweithio efo pobl ifanc GISDA ym Mlaenau Ffestiniog bob mis i greu gwaith yn ymateb i’r syniad o heddwch. Maent wedi cael y cyfle i ddylunio tatŵs heddwch, i greu cerfluniau clai ac i greu addurniadau Nadolig heddychlon.   Yn ddiweddar, cynhaliwyd sesiwn addurno dillad efo negeseuon heddwch ac bellach, mae cotiau bendigedig ar eu ffordd, wedi eu haddurno mewn cerddi a geiriau!    

Cofio ein Cyn-Neiniau

Parhad i ddathliad Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 ydi Byw Mewn Heddwch felly mae wedi bod yn hollbwysig i ni nodi hynny o’r cychwyn cyntaf.   Ym mis Medi 2025, aethon ni am dro (Mynd am Dro at Mary) efo Mair Tomos Ifans i goffau gwaith Mary Ellis yr heddychwraig o Ddolgellau fu’n un o’r bedair i gydlynu’r Ddeiseb a hwylio efo hi draw i America i’w chyflwyno i ferched y wlad er mwyn rhoi pwysau ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Er na ddigwyddodd hynny, mae ymdrech y merched i gasglu bron i 400,000 o enwau merched Cymru yn anhygoel. Cerddon ni o Ddolgellau i Lanelltyd mewn glaw trwm (fel wnaeth rhai o’r merched oedd yn mynd o ddrws i ddrws i hel llofnodion) a chael hanes Mary Ellis gan Jessica John sydd wedi bod yn gweithio ar gael plac i’w choffau ynghanol Dolgellau.   Mae Mair wedi bod yn rhedeg gweithdai creu Hetiau Heddwch yn Nolgellau a Dinas Mawddwy gan ein hatgoffa ni i gyd o’r merched o dan yr hetiau yn y 1920au. Yn deillio o hyn, mae penillion wedi eu creu gan y criw fel teyrnged i’n neiniau.  Yn yr Ysgwrn dan arweiniad Meleri Davies a Sian Melangell Dafydd ddechrau Chwefror, cafwyd diwrnod hynod ddiddorol yn ymateb i’r merched anweledig sy’n cynnal ein cymunedau er mwyn gwella ein bywydau cymdeithasol a theuluol ni i gyd ond hefyd i ddysgu mwy am y merched a’u gelwid yn wrachod na gafodd y fraint o fyw eu bywydau mewn heddwch. Trwy eiriau a gan drin clai, mi gaethon ni fynegi ein hymateb i’r holl hanesion a thrafodaethau’r dydd.    

Cynhyrchiadau UCAN

Mae Cynhyrchiadau UCAN yn elusen perfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n ddall neu sydd ȃ nam golwg, a’u ffrindiau. Rydym yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein rheolaidd i’n haelodau gael cyfle i fod yn greadigol, cael hwyl a gwneud ffrindiau.

AD-DREFNU – Lleucu Elisa Jenkins

Ffilm yn olrhain hanes ymgyrch ad-drefnu Fflach Cymunedol a ffrwyth llafur eu gwaith caled o feithryn y sîn gerddorol lleol yn ardal Aberteifi blwyddyn wedi’r ymgyrch.   Comisiynwyd yn rhan o rifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.

Sŵn Mach – Lowri Page

Ffilm ddogfen am don newydd o arbrofi cerddorol Cymreig yng Nghanolbarth Cymru, yn cynnwys Tai Haf Heb Drigolyn, Osgled a Cerys Hafana.   Comisiynwyd yn rhan o rifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.

Croeso Y Diwylliant: Vol.1 – fruitb0y

Cipolwg agos ar y sîn MOBO yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar bedwar artist o gefn gwlad Cymru — fruitb0y, Bombero, Mr Phormula a Skylrk. Trwy eu straeon, mae’r ffilm yn archwilio eu teithiau, eu brwydrau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.   Comisiynwyd yn rhan o rifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam, i ddathlu […]

Garlleg – Kieron Shand

Hanes y casgliad celfyddydol o Aberystwyth, Garlleg.   Comisiynwyd yn rhan o rownd arbennig o’r gŵyl ffilmiau digidol AmCam, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.

Rhwyd: Cyflwyniad Owen Llywelyn am Weithgor Dyffryn Aeron

Rhoddwyd y cyflwyniad hwn yn ystod digwyddiad ‘Tafarn, Ysgol a Ffermwyr – Mentro a Chydweithio yn Nyffryn Aeron’ (29/07/2025).   Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd.   Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli […]

Rhwyd: Cyflwyniad Dr Osian Elias am Gadernid Iaith

Rhoddwyd y cyflwyniad hwn yn ystod digwyddiad ‘Rhwyd: Cyfarfod Cynllunio’ (16/01/2026). Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd. Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli Cyf. Caiff ei ariannu gan YAC.

SOSEJ

Os ydych yn 16-25 oed ac yn byw yn ardal Eisteddfod y Garreg Las 2026, mae SOSEJ yn gyfle i weld tu mewn i’r ffatri gerddoriaeth. Mae SOSEJ yn gyfres o weithdai gan unigolion, mudiadau a grŵpiau mwyaf gweithgar y sîn gerddorol yng Nghymru, o ddylunwyr posteri i beirianwyr sain, a phopeth yn y canol, […]