Prosiect Llais y Lle – Iaith y Pridd:
Cynllun cydweithredol gyda Utopias Bach wedi’i leoli yn Fferm Henbant, sy’n archwilio sut mae perthynas pobl gyda’r Gymraeg yn esblygu trwy gylchoedd tymhorol o dyfu, dysgu a gwneud gyda’i gilydd.
Mwy o wybodaeth: https://www.utopiasbach.org/iaith-y-pridd
Am Llais y Lle:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais y Lle. Dyma’r tro cyntaf i’r gronfa ariannu sefydliadau cymunedol.
Gan adeiladu ar lwyddiant rowndiau blaenorol i artistiaid, dyma’r tro cyntaf inni wahodd ceisiadau i’r gronfa gan sefydliadau cymunedol i archwilio ffyrdd beiddgar a chreadigol o roi diwylliant Cymraeg a Chymreig wrth wraidd ein cymunedau.