Prosiect Llais y Lle – Bara’r Nefoedd
Gan adeiladu ar ymgyrch gymunedol lwyddiannus i arbed Capel Rhondda, mae’r prosiect celfyddydol amrywiol hwn yn archwilio rol y Gymraeg yn y gorffennol, presennol a’r dyfodol wrth gynllunio defnydd cymunedol yr adeilad a’r gymuned ehangach yn y dyfodol.
Am Llais y Lle:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais y Lle. Dyma’r tro cyntaf i’r gronfa ariannu sefydliadau cymunedol.
Gan adeiladu ar lwyddiant rowndiau blaenorol i artistiaid, dyma’r tro cyntaf inni wahodd ceisiadau i’r gronfa gan sefydliadau cymunedol i archwilio ffyrdd beiddgar a chreadigol o roi diwylliant Cymraeg a Chymreig wrth wraidd ein cymunedau.