Prosiect Llais y Lle – Crud y Tirfor:
Prosiect celfyddydau rhyngddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â chymunedau drwy weithgarwch creadigol, gwneud a dathlu ar y cyd, meithrin balchder ac undod drwy’r Gymraeg.
Am Llais y Lle:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyhoeddi’r sefydliadau sy’n cael arian yn rownd ddiweddaraf Llais y Lle. Dyma’r tro cyntaf i’r gronfa ariannu sefydliadau cymunedol.
Gan adeiladu ar lwyddiant rowndiau blaenorol i artistiaid, dyma’r tro cyntaf inni wahodd ceisiadau i’r gronfa gan sefydliadau cymunedol i archwilio ffyrdd beiddgar a chreadigol o roi diwylliant Cymraeg a Chymreig wrth wraidd ein cymunedau.