Mission Gallery

Mission Gallery yw un o leoliadau mwyaf ysbrydoledig Cymru ar gyfer celfyddydau cyfoes. Mae’r adeilad unigryw, sydd gan bensaernïaeth hyfryd, yn adnodd gwych i’r gymuned leol ac ehangach, yn cynnig cyfleoedd i arddangos a chreu gwaith i artistiaid o bob lefel a phrofiad, wrth ddatblygu mwynhad, dealltwriaeth a gwybodaeth ein cynulleidfa o gelf.
Ffion Campbell-Davies introduces Sanctuary
Gwyliwch ‘Sanctuary’ yma
Y Gymraeg, fi a’r Celfyddydau
Sgwrs gyda dysgwr Cymraeg sydd bellach yn gweithio yn y diwydiant Celfyddydol yng Nghymru. Judith Musker Turner yn holi’r offerynnwr baswn, Alanna Macfarlae (sydd yn wreiddiol o’r Alban ond bellach yn byw yng Nghaerdydd) sydd wedi chwarae gyda’r WNO ac yn cynnal gwersi preifat i blant. Judith Musker Turner yn holi’r artist Elinor Stanifforth. Sydd […]
Michal Iwanowski – Go Home Polish at Diffusion 2019
Ym mis Ebrill 2018, fe gychwynodd Michal Iwanowski ar siwrne. Taith gerdded 1900km rhwng ei ddau gartref, Cymru a Gwlad Pwyl; gyda phasbort Prydeinig yn un llaw, pasbort Pwylaidd yn y llall. Fe dynnodd linell syth ar y map, ac ar ôl cael gafael mewn pâr o sgidiau cerdded cryf, fe gamodd allan o’i fflat yng Nghaerdydd, troi tua’r dwyrain, ac i ffwrdd â fe: Cymru. Lloegr. Ffrainc. Gwlad Belg. Yr Iseldiroedd. Yr Almaen. Y Weriniaeth Tsiec. Gwlad Pwyl. Ei fwriad oedd holi pobl ar hyd y ffordd am ystyr ‘cartref’. Beth mae hynny’n ei olygu?
Fe gymerodd y siwrne 105 o ddyddiau o’i dechrau i’w diwedd.
Er bod Michal wedi rhagweld gwrthdaro, eithafiaeth ac eithafion, a phob math o broblemau lletchwith, nid dyna fu hanes ei gyfarfyddiadau ar hyd y ffordd. Yn hytrach, fe gafodd atebion personol ac ystyrlon i’w gwestiwn; ymatebion rhwng cyd-ddyn a chyd-ddyn yn hytrach na sgyrsiau rhwng dinesydd â thramorwr. ‘Bron yn ddi-eithriad, fe fyddai pob un a holais yn rhoi ei law ar ei chalon neu ar ei galon wrth ddangos i fi lle’r oedd ‘gartre’. Roedd sawl un yn awyddus i gyd-gerdded gyda fi. Prin iawn fu unrhyw sgwrs am genedlaetholdeb. Dim ond unwaith y ces fy erlid’.
Ar hyd y ffordd, fe grebachodd unrhyw arwyddocâd a fu gan y slogan ‘Pwyliaid, Ewch Adre’ nes ei fod yn amherthnasol. Er hynny, fe benderfynodd Michal ei gadw fel teitl a rhyw fath o echel symbolaidd i’r prosiect: yn her i ddefnydd iaith sy’n anwybyddu’r profiad dynol wrth fynnu labeli’r ‘dieithr’ a’r ‘estron’; ac fel ffordd o osgoi cyffredinoli’r profiad dynol ac edrych ar yr agenda geowleidyddol trwy lygaid a phrofiad pob unigolyn.
Ffilmiwyd a golygwyd gan Philip Jenkins
Sesiynau Diwydiant (Dyddiadur fideo Aur)
Kyffin – yr artist a’r cymwynaswr

***AR GAEL I WYLIO O 1630 – 23:59 6/3/21*** Sgwrs yng nghwmni Lona Mason (Pennaeth Graffeg, Sgrin a Sain y Llyfrgell) ac Ian Jones (Rheolwr Adeilad a Chasgliadau Oriel Môn), fydd yn taro golwg ar ddylanwad, cefnogaeth ac haelioni’r arlunydd Syr Kyffin Williams wrth sefydlu’r Oriel a’i chasgliadau. Darlledwyd y sgwrs yma gyntaf ym Medi 2020. Rhan o Wythnos Cymru Llundain 2021.
David Sinden & Kate Woodward – Altered Ego at Diffusion 2019

Prosiect celf aml-ddisgyblaeth yw Altered Ego sy’n archwilio syniadau am bwy ydym ni mewn gwirionedd, a sut yr ydym yn cyflwyno hynny i’r byd. Mae’n archwilio ein alter-ego; ein syniadau am hunan-gyflwyniad, y gwahanol fyrdd sydd gennym o gyflwyno’n hunain mewn gwahanol gyd-destunau, a’r elfennau hynny o ymddygiad dynol a ystyrir yn ‘normal’ sy’n cael eu dwysáu gan anabledd.
Sail y prosiect yw’r syniad ein bod ni i gyd yn creu ymdeimlad o’n hunan a phwy ydym ni, a’n bod ni’n ail-greu ac addasu hynny mewn gwahanol sefyllfaoedd. Trwy gyfres o ymyrraethau artistig mae’r prosiect yn archwilio’r ffyrdd yr ydym yn cyflwyno fersiynau gwahanol ohonom ni’n hunain gyda graddau amrywiol o wirionedd a chywirdeb, ac weithiau, celwydd a thwyll.
Ffilmiwyd a golygwyd gan Philip Jenkins
John Rea – Atgyfodi at Diffusion 2019
Yn ein harchifau yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon – y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r côf, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth.
Mae Atgyfodi yn cyflwyno lleisiau a recordiadau coll o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan trwy gyfrwng gosodweithiau trwythol sy’n cyfuno sain amgylchynol, delweddau a ffeindiwyd a rhai a ffilmiwyd yn benodol. Wrth blethu’r rhain gyda chyfansoddiadau cerddorol cyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gôf y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel ‘collage’ gyda recordiadau maes o safleoedd gwreiddiol adeiladau’r amgueddfa a recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd fel Tyrone O’Sullivan o Bwll Glo Tower a’r ffermwr Arthur Morris Roberts, a welodd foddi Capel Celyn pan roedd yn fachgen ifanc.
Mae Atgyfodi yn bwrw golau ar gyfoeth traddodiad cerddorol Cymru: Caneuon a straeon sy’n cael eu canu a’u hadrodd gan bobl go iawn. Fe ddylanwadodd gweadau a seiniau’r bywydau yma ar arddull gyfansoddiadol y gerddoriaeth a phroses greu’r prosiect. Wrth galon y cyfan roedd yr alawon traddodiadol, y farddoniaeth a rhythmau soniarus yr iaith lafar.
Ffilmiwyd a golygwyd gan Philip Jenkins
Arddangosfa Artistiaid Ifainc Cymru | Young Welsh Artists Exhibition

A tour around the Young Welsh Artists exhibition in MOMA Machynlleth by Culture Colony
Crefft Mwgwd Aderyn | Bird Mask Craft

Dewch i greu mwgwd aderyn gyda Tess Urbanska
Gweithdy golygu lluniau ffôn
Y ffotograffydd Kristina Banholzer sy’n dangos tri ap i’ch helpu wrth dynnu lluniau ar eich ffôn.
Clean Seas Cragen

Clean Seas Cragen Cragen yw anghenfil chwedlonol newydd Theatr Byd Bychan sy’n mynd i ymddangos ar hyd arfordir epic Cymru yn ystod Blwyddyn y Môr. Yn ôl y sôn, mae Cragen yn byw oddi ar arfordir Cymru ac mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd hi’n ymddangos ar hyd yr arfordir mewn deg lleoliad gyda’i neges […]
Parêds / Parades
Mae Theatr Byd Bychan yn arbenigo mewn Parêds Llusernau Enfawr a gorymdeithiau cymunedol. Ry’n ni’n argymell rhain yn gynnes fel math o ddigwyddiad i ddal sylw, ysbrydoli creadigrwydd a denu pob oed a gallu. Mae Theatr Byd Bychan yn gwefreiddio cymunedau ac ymwelwyr i Orllewin Cymru yn flynyddol gyda Parêd Llusernau Enfawr creadigol a dychmygus […]
Gweithdy ffotograffiaeth cynnyrch
“Ma lluniau yn gwerthu cynnyrch, heb i ni sylwi – ma lluniau yn gwerthu a marchnata pethau’ i ni drwy’ r amser.” Gweithdy gyda’r ffotograffydd Kristina Banholzer.
Gweithdy Instagram gyda Shoned Owen
Gweithdy datblygu busnes a chyrraedd cynulleidfa eang ar Instagram gyda pherchennog Tanya Whitebits, Shoned Owen.
Prosiect Medrau – Sut i greu pluen eira papur
Mike Parker’s Season Salon 1: Imbolc/Gwyl Ffraed

The first of Mike Parker’s live seasonal shows following the festivals of the ancient Celtic calendar – Imbolc / Gwyl Ffraed. His guests are the authors Jay Griffiths and Katherine May discussing all things wintery with music from Lleuwen. (Saturday 30 Jan, 7.30pm)
There will be 7 of these live broadcasts throughout 2021. To help these programmes get made please consider donating to the TIP JAR
Look out for our future Season Salon broadcasts on:
- March 20th – Spring Equinox
- May 1st – Beltane
- June 19th – Summer Solstice
- July 31st – Lammas
- September 18th – Autumn Equinox
- December 18th – Winter Solstice.
Apêl #Poster2020 Appeal
Ar Ddydd Miwsig Cymru yn Chwefror 2020 lansiodd y Llyfrgell Genedlaethol Apêl #poster2020 er mwyn casglu posteri gigs a ffansîns pop Cymru. Oes gennych chi unrhyw bosteri neu ffansîns i’w hychwanegu i’r casgliad? Cysylltwch â’r Llyfrgell Genedlaethol!
O.G. Greta – Calan
Fideo gerddorieth ar gyfer y gân ‘O.G. Greta’ gan Calan wedi’i greu gan Drawn to Ice Hockey.
Cerfluniau gyda Caradog

Fideo i blant a phawb sydd am chwarae cerfluniau! Dewch i ddysgu am y delyn ac i ddawnsio gyda Caradog. Rhan o Ŵyl Ddigidol PlanTawe (Mai 2020)
Crefft- Neidr/ Crafft- Snake
<a href=”https://menterfflintwrecsam.cymru/en/“>Menter Iaith Fflint a Wrecsam</a>
Origami- Bocs Calon/ Heart Shaped Box

Menter Iaith Fflint a Wrecsam
Posteri Meirion Wyn Jones Apêl #poster2020

Llun: Padarn Roc, 1980
Lansiwyd Apêl #poster2020 ar Ddydd Miwsig Cymru yn Chwefror 2020 er mwyn cofnodi hanes bandiau a gigs yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd. Casglwyd dros 150 o bosteri a fanzines erbyn hyn, rhai ar bapur ond y rhan fwyaf ohonynt yn electronig. Diolch i bob dylunydd, trefnydd gigs, aelod band neu ‘ffan’ sydd wedi cyfrannu at y casgliad cenedlaethol hyd yma. Cysylltwch â ni os oes na fwy o bosteri neu ‘fanzines’ gallwch chi gyfrannu at ein casgliad.
Un o’r uchafbwyntiau oedd 24 poster a 7 o gloriau recordiau a ddyluniwyd gan Meirion Wyn Jones (pennaeth creadigol Strata Matrix, FBA a FOUR CYMRU yn Aberystwyth). Mae’r posteri yn cynnwys gigs gan y bandiau Chwys, Rhiannon Tomos, Trwynau Coch, Ar Log, Caryl a’r Band, Crysbas, Geraint Jarman, Doctor, Edward H Dafis ac Eliffant. Roedd Meirion Wyn Jones yn ddylunydd graffeg i gwmni Dylunio ac Argraffu ‘Copa Cymru’, Urdd Gobaith Cymru rhwng tua 1977 a 1985, ac fe wnaeth ddylunio cloriau LP’s i Sain hefyd e.e. recordiau Dafydd Iwan, Trwynau Coch, Ar Log, Rhiannon Tomos, Jip, a Tecwyn Ifan.
Coflaid Cofid – Iola Ynyr
Coflaid Cofid – Iola Ynyr
Sara Treble-Parry

Artistiaid o arddangosfa Artistiaid Ifainc Cymru yn cyflwyno eu gwaith.
Abby Poulson

Delweddau / Images: 1. The Gathering Ground, 2020 Ffotograff ar ddefnydd / Photograph on fabric 1500mm x 1500mm 2. The Gathering Ground, 2020 Lifft Emwlsiwn ar Graig / Emulsion Lift on Rock
Owain Sparnon

Artistiaid o arddangosfa Artistiaid Ifainc Cymru yn cyflwyno eu gwaith.
Rhiannon Rees
Artistiaid o arddangosfa Artistiaid Ifainc Cymru yn cyflwyno eu gwaith.
Edward H.Dafis – Eisteddfod Rhyn-gol Aberystwyth

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones fel ymateb i apêl #poster2020
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – Wythnos yr Achos Cynllwynio gyda’r hwyr

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones fel ymateb i apêl #poster2020
Edward H.Dafis – Pontyberem

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones fel ymateb i apêl #poster2020
Geraint Jarman a’r cynganeddwyr – Talybont

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones fel ymateb i apêl #poster2020
Dawns Rhyng-golegol – Aberystwyth,

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones fel ymateb i apêl #poster2020
Caryl ar’r Band – Abertawe 1984

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones fel ymateb i apêl #poster2020
Llanbadarn Roc, 1981

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones mewn ymateb i apêl #poster2020
Twrw Tanllyd- Eisteddfod Dyffryn Lliw, 1980

Lansiwyd Apêl #poster2020 ar Ddydd Miwsig Cymru yn Chwefror 2020 er mwyn cofnodi hanes bandiau a gigs yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd. Casglwyd dros 150 o bosteri a fanzines erbyn hyn, rhai ar bapur ond y rhan fwyaf ohonynt yn electronig. Diolch i bob dylunydd, trefnydd gigs, aelod band neu ‘ffan’ sydd wedi cyfrannu […]
Doctor – Aberystwyth, 1980

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones mewn ymateb i apêl #poster2020
Wythnos y Glas – Aberystwyth, 1979

Rhan o gasliad Meirion Wyn Jones mewn ymateb i apêl #poster2020
Geraint Jarman – Aberystwyth, 1979

Rhan o gasliad Merion Wyn Jones mewn ymateb i apêl #poster2020
Eliffant – Aberystwyth, 1979

Rhan o gasgliad Meirion Wyn Jones ar gyfer apêl #poster2020.
Dawns gyda Seindorf a Disgo – Blaendyffryn, 1978

Rhano o gasgliad Meirion Wyn Jones ar gyfer apêl #poster2020
CYNFAS: #2
Cynfas yw cylchgrawn celf digidol sy’n ran o’r project Celf ar y Cyd.
Rhifyn 2, Tachwedd 2020 | Celfyddyd mewn Iechyd
Casgliadau’n sbarduno creadigrwydd | Collections spark creativity
Fel rhan o ddathliadau Wythnos Archwiliwch Eich Archif 2020 datgelwyd cyfres o gomisiynau artistig a chreadigol newydd gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae’r darnau, sy’n amrywio o ran eu harddull a’u cyfrwng, wedi eu hysbrydoli gan gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol sydd i’w canfod ar-lein.
An Introduction to Young Welsh Artists
Trawsnewid – Sgwrs Artistiaid | Artist Talk #4
19:00 | Nos Iau / Thursday, 19.11.20
Digwyddiad AM DDIM ond mae’n rhaid archebu lle o flaen llaw.
g39

Galeri a chymuned greadigol ar gyfer celf weledol yng Nghymru ac sy’n cael ei redeg gan artistiaid yw g39, yn bont rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd. Canolbwynt gweithgareddau g39 yw ei berthynas â’r artistiaid. O arddangosfeydd i leoliadau gwaith i gynulliadau anffurfiol, cyflwyno cyfoedion neu wireddu’r arddangosfeydd mwyaf uchelgeisiol- ein nod, dros sbectrwm o berthnasau, yw annog bob person sydd ag uchelgais i ddilyn ymarferiad celf weledol.
Anthony Evans

Yn wreiddiol o Cross Hands yn Sir Gar, mae Anthony Evans bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn aelod o grwp o artistiad a wnaeth sefydlu’r cwmni Arlunwyr yr Hen Lyfrgell ac Oriel Canfas yn Nhreganna, Caerdydd.
Wedi iddo fynychu Coleg y Drindod Caerfyrddin, gweithiodd fel athro celf am nifer o flynyddoedd cyn sefydlu ei hun fel artist llawn amser yn 1990.
Mae wedi arddangos ei gelf ar draws Cymru a Lloegr ac hefyd wedi cymryd rhan mewn cyweithiau artistig ac arddangosfeydd yn Ewrop, India a’r Unol Daleithiau. Mae ei waith yn rhan o gasgliadau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, Unol Daleithiau ac Awstralia.
Celf o’r Cyfnod Clo | Lockdown Art
Celf o’r Cyfnod Clo | Lockdown Art Oriel Canfas 9-30 Tachwedd / November I ymweld trwy apwynitad yn unig To visit by appointment only Cysylltwch â / Contact – celfant@hotmail.com