Yn wreiddiol o Cross Hands yn Sir Gar, mae Anthony Evans bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn aelod o grwp o artistiad a wnaeth sefydlu’r cwmni Arlunwyr yr Hen Lyfrgell ac Oriel Canfas yn Nhreganna, Caerdydd.
Wedi iddo fynychu Coleg y Drindod Caerfyrddin, gweithiodd fel athro celf am nifer o flynyddoedd cyn sefydlu ei hun fel artist llawn amser yn 1990.
Mae wedi arddangos ei gelf ar draws Cymru a Lloegr ac hefyd wedi cymryd rhan mewn cyweithiau artistig ac arddangosfeydd yn Ewrop, India a’r Unol Daleithiau. Mae ei waith yn rhan o gasgliadau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, Unol Daleithiau ac Awstralia.