Mae Theatr Byd Bychan yn arbenigo mewn Parêds Llusernau Enfawr a gorymdeithiau cymunedol. Ry’n ni’n argymell rhain yn gynnes fel math o ddigwyddiad i ddal sylw, ysbrydoli creadigrwydd a denu pob oed a gallu. Mae Theatr Byd Bychan yn gwefreiddio cymunedau ac ymwelwyr i Orllewin Cymru yn flynyddol gyda Parêd Llusernau Enfawr creadigol a dychmygus ar thema benodol yn nechrau mis Rhagfyr. Yn y gorffennol, derbyniwyd nawdd gan Croeso Cymru a’r Loteri Fawr. Mae gweithdai Gwneud Llusernau yn dechrau’r dathliadau ac yn denu cannoedd o deuluoedd i leoliad Theatr Byd Bychan ei hunan. Bellach mae’r Parêd yn ŵyl flynyddol sy’n denu dros 10,000 o wylwyr i weld y sioe o oleuni.