Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y Gymraeg, fi a’r Celfyddydau

Sgwrs gyda dysgwr Cymraeg sydd bellach yn gweithio yn y diwydiant Celfyddydol yng Nghymru. Judith Musker Turner yn holi’r offerynnwr baswn, Alanna Macfarlae (sydd yn wreiddiol o’r Alban ond bellach yn byw yng Nghaerdydd) sydd wedi chwarae gyda’r WNO ac yn cynnal gwersi preifat i blant. Judith Musker Turner yn holi’r artist Elinor Stanifforth. Sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl dychwelyd o’r Brifysgol yn Rhydychen ble astudiodd radd mewn Celf Gain. Judith Musker Turner yn holi’r actor Aaron William-Davies. Magu mewn cartref di-Gymraeg ac er derbyn addysg ysgol uwchradd drwy’r Gymraeg yn darganfod gwerth yr iaith yn dilyn astudio cwrs actio ym Mhrifysgol De Cymru (ATRiUM). Bellach yn gweithio fel actor llawrydd yn bennaf gyda Cwmni Arad Goch. Mewn cydweithrediad a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chynllun Cymraeg bob Dydd yr Urdd

Mae Cefn Llwyfan yn raglen gyffrous o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau celfyddydol ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed, sy’n rhoi cyfle i ti holi cwestiynau a chael cyngor gan arbenigwyr yn eu maes

RHANNWCH