Clean Seas Cragen
Cragen yw anghenfil chwedlonol newydd Theatr Byd Bychan sy’n mynd i ymddangos ar hyd arfordir epic Cymru yn ystod Blwyddyn y Môr. Yn ôl y sôn, mae Cragen yn byw oddi ar arfordir Cymru ac mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd hi’n ymddangos ar hyd yr arfordir mewn deg lleoliad gyda’i neges bwysig am foroedd glân. Bydd ymwelwyr a chymunedau yn rhyfeddu at ei dyfeisgarwch ac yn gegrwth wrth weld ei maint, wrth iddi ddychwelyd gwastraff plastig di-angen o’r môr i’r tir.