PARADE
“Canol Dinas yw lle mae’r holl hen gofadeiladau, ond nid, gan amlaf, lle mae bywydau pobl….y canol yw lle wyt ti.” Guido Guidi.
Lleisiau pobl Cymru yw ysbrydoliaeth fy ngwaith creadigol. Hoeliwyd fy sylw ar natur felodig a gwead ein tafodieithoedd Cymraeg ac Eingl-gymreig brodorol, a’r ffordd y cânt eu hadlewyrchu yn amlinelliad ein tirwedd, yn wledig a dinesig. Gellir gweld yr agwedd hon yn PARADE, sef comisiwn Canfod Maendy/ Finding Maindee ar gyfer Llyfrgell Maendy, sef rhan o fenter Creu Cymunedau Cyfoes, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Wrth greu PARADE, cwrddais â phobl a recordiais eu storïau, wrth ochr y sinematograffydd a ffotograffydd, Huw Talfryn Walters. Cyflwynais y deunydd verite yma yn ffurf gosodwaith sain amgylchynol, ac ymyrraeth sonig. Wrth wneud hyn, cyflwynais y gwirioneddau a thirweddau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hyn, mewn cyfuniad â sain a delweddaeth haniaethol sy’n arwyddo a symboleiddio ystyr a synnwyr lle, a themâu hunaniaeth, perthyn, a Chenedligrwydd. Teimlais yn gryf y dylid cynnig llwyfan i’r bobl yma gael siarad.
CONCRÈTE: Site-Specific Installation and performance work.
Ni chafodd chwyldro’r ugeinfed ganrif mewn sain a cherddoriaeth ei ddangos ar y teledu, ond yn hytrach cafodd ei roi ar dâp, ei samplo, ei drin, a’i ddyfeisio o’r newydd; gan osgoi hen draddodiadau wrth chwilio am sawl Iwtopia sonig gyfoes.
Dyfeisiwyd technolegau recordio/electronig newydd gan rai. Fe wnaeth rhai eraill ymateb i sŵn, gan greu a chwilota ffurfiau cyfoes o fynegiant, a rhannu aflonyddwch yn y chwyldro sŵn-cerddoriaeth parhaus hyn a ddechreuodd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac sy’n parhau i fod yn berthnasol.
Mewn ymateb i hyn, creodd John berfformiad sonig byw; yn wrogaeth ac yn deyrnged i Ddyfodolaeth, Adeileddiaeth Rwsiaidd, Bauhaus; a meddylwyr a chrewyr gwrthryfelgar fel Maurice Martenot, Léon Theremin, John Cage, Karlheinz Stockhausen, Cornelius Cardew, Luciano Berio, Edgard Varèse, Iannis Xenakis, Milton Babbitt, La Monte Young, Kraftwerk, Robert Moog, Don Buchla, Brian Eno, Gweithdy Radioffonig y BBC, John Zorn….
Yn yr hen ffatri arfau rhyfel, yn Dumballs Road, Caerdydd, fe gymerodd y Cyfansoddwr John Rea a’r Dylunydd Sain, Simon Jones ran mewn perfformiad sonig am un tro yn unig. Fe wnaeth y perfformiad drin cipio sain a thechnoleg cynhyrchu sain y gorffennol a’r presennol. Wedi hynny, rhoddwyd gosodwaith trwythol a grëwyd gan John yn y gofod hwnnw am weddill yr Ŵyl.
Atgyfodi (vb revive, vb resurrect). Arthur Morris Roberts and Capel Celyn.
Dyma glip o’r darn Atgyfodi yn cynnwys recordiadau o ardal Tryweryn, a chyfweliad hefo ffermwr lleol Arthur Morris Roberts, a welodd Capel Celyn yn boddi fel bachgen ifanc. Mae Atgyfodi yn cyfuno perfformiad byw, a gosodweithiau sain, wedi eu ysbrydoli gan archifau sain a ffotograffig Amgueddfa Sain Ffagan. Perfformiwyd y darn, ynghyd a’r gosodweithiau yn yr Amgueddfa ym Mis Hydref, 2018, ac yn Wyl Diffusion/Ffotogallery a Green Man ym 2019. Mae’r mix gwreiddiol yn ymdrochol, 5.1.
The Queer Emporium

Siop a menter gymdeithasol yng Nghaerdydd sydd yn cynnwys 20 busnesau bach LHDTC+, sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau.
John Meirion Rea

Cyfansoddwr ac artist sain yw John, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirwedd Cymru ac mewn cysylltiadau a chydweithrediadau traws-ddiwyllianol. Ymateb i le, cymuned a chwilota arddull newydd rhyngddisgyblaethol o gyflwyno sy’n mynd â’i fryd. Fe astudiodd dan adain y cyfansoddwr nodedig Alun Hoddinott, a bellach mae’n gweithio […]
Cymuned Creadigol Chapter x Cardiff Print Workshop
Trac gan John Rea.
Dysgwch fwy am Cardiff Print Workshop yma.
Donna Brazier

Ein Hartist y Mis ar gyfer mis Ebrill yw Donna Brazier, artist gweledol sy’n archwilio themâu problemau iechyd meddwl trwy luniadau trawiadol mewn pen a phensil.
Meet the Artist: Elicia Axon

Check out their work here
Meet the Artist: Tony Cordoba

Check out their work here
Meet the Artist: Carmen Diana Almeida

Check out their work here
Meet the Artist: Tijesunmi Olakojo

Check ou their work here
Argraffu Celf / Art Printing

Sesiwn i oedolion, gan ddefnyddio deunyddiau cartref.
Celf a Chrefft Hanner Tymor / Half Term Art & Craft

Sesiynau teulu argraffu celf
Twenty Tales

Mae Twenty Tales yn weledigaeth o symudiad a sain sy’n mynd tu hwnt i ddiwylliant a chenhedlaeth. Daw ugain o ddawnswyr ynghyd mewn profiad cyfunol sy’n ennyn emosiwn dynol drwy berfformiad corfforol sy’n dathlu hyfedredd, rhythmau, dynamig a cherddoriaeth bwerus gan y cyfansoddwr o fri Mercan Dede. Mae’r cyfuniad unigryw o ddawnsio cyfoes, gwerin a thraddodiadol yn gwneud hwn yn waith oesol a chanddo gysylltiad cryf i wreiddiau hynafiad.
Coreograffydd: Mario Bermúdez
Coreograffydd Cynorthwyol: Catherine Coury
Cyfansoddwr: Mercan Dede
Cynllunydd Gwisgoedd: George Hampton Wales
Cynllunydd Goleuo Chris lllingworth
Cynhyrchydd: Jamie Jenkins
Cardiff Umbrella

Mae Cardiff Umbrella yn gydweithfa gelfyddydol wedi ei wreiddio yn y gymuned, a’i arwain gan artistiaid cwiar! Rydym wedi ein llywio gan ein gwerthoedd cymdeithasol, yn meithrin ethos ‘drws agored’ sy’n croesawu pawb i gyfrannu i’n gofodau ffisegol a digidol. Rydym yn cynnig awyrgylch gefnogol i eraill greu, dysgu a chreu cysylltiadau gwerthfawr.
Stephanie-Bailey Scott

Ein Hartist y Mis ar gyfer mis Chwefror yw Stephanie Bailey-Scott, Rheolwr Mynediad, Cyfranogiad a Chynhwysiant yng Nghwmni Theatr Taking Flight. Mae hi’n fyddar ac yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac mae hi hefyd yn adnabyddus am ei ffyn cerdded hyfryd. Mae ei gwaith yn Taking Flight yn cynnwys rhedeg yr unig theatr ieuenctid yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc Byddar a thrwm eu clyw, cynnal hyfforddiant fel ymwybyddiaeth o Fyddardod, ymgynghori, cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg ac actio hefyd. Mae hi hefyd yn frwd dros gelf ac yn peintio’n rheolaidd yn ei hamser rhydd.
Dysgwch fwy am waith Steph nawr.
Cydnabyddiaeth llun: Claire Cousin
Dolenni cymdeithasol:
X/Twitter: @deafsteph95
Facebook: Steph Bailey-Scott
Instagram: @stephh137
Grŵp Celf Soar

Grŵp celf wythnosol dan arweiniad yr artist Gus Payne.
Dydd Mawrth (yn ystod y tymor), 1yh – 3yh
Argraffu Gwanwyn | Spring Printing

Gweithdy celf/crefft i’r teulu
Artist Call-Out

Cyfle â Thâl: Kumbukumbu – Ein Hatgofion Mae ‘Panel Cynghori Is-Sahara’ (SSAP) yn gwahodd pobl greadigol a chynghreiriaid Du a Brown i greu gwaith newydd sy’n ymateb i Hanes Pobl Ddu yng Nghymru. Bydd Kumbukumbu, sy’n golygu ‘Atgofion‘ yn Kiswahili, yn creu gofod lle gellir casglu, ymchwilio, rhannu a chadw Hanesion Pobl Du ar […]
Reframing Picton: In Conversation with Gesiye & Laku Neg

Ymunwch â ni am sgwrs gyda’r tîm tu ôl i’r prosiect gyda’r arddangosfa lwyddiannus Reframing Picton!
Dydd Sadwrn, Ionawr 27 2024. 15:00 – 17:00 GMT.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Archebwch eich tocynnau yma!
Oil Painting Masterclass

Blwyddyn newydd, dechrau newydd.
Beth am ddechrau’r flwyddyn drwy fod yn greadigol a dewch draw i’r Dosbarth Meistr Peintio Olew yn Siop Soar!
Dosbarth Meistr Peintio Olew gyda’r arlunydd Gus Payne.
1 – 4pm, Dydd Mawrth, 16 Ionawr, 2024.
neu
6 – 9pm, dydd Mawrth, 13 Chwefror, 2024.
(Sylwch: Mae dewis o ddau ddiwrnod gwahanol. Mae sesiwn yn ystod un diwrnod yn unig)
Sesiwn peintio olew dwyieithog, lle byddwch yn creu paentiad yn arddull yr artist, gan ei ddilyn gam wrth gam yn ystod y sesiwn.
Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o bob lefel yn y sesiwn hon.
Cofrestru’n hanfodol
£5 – Deunyddiau wedi’u cynnwys.
Anfonwch e-bost at siop@merthyrtudful.org
Artistiaid Y Lle Celf 2023

Mwynhewch ffilm arbennig yn dogfennu rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru gyfoes!
Aeth Culture Colony ar daith dros Gymru i gyfweld artistiaid a gyflwynodd waith yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, yn cynnwys Llŷr Evans, Ruth Jên Evans a John Rowley.
Dyma gyfle i glywed mwy am eu prosesau creadigol ac i ail-ymweld a’u celf.
Cymru Fenis 10

Comisiynodd Gelfyddydau Anabledd Cymru waith gan 6 artist anabl, byddar neu niwroamrywiol fel rhan o raglen ‘Cymru Fenis 10’ – 2 ar raddfa fach, 2 ar raddfa ganolig a 2 ar raddfa fawr.
Mwynhewch flas o waith yr artistiaid yma!
‘Propinquity – An Evolution’ Landlines Studio
Landlines Studio
Propinquity – An Evolution
2021
brick, charcoal, plaster, slate, soil, soot, stone, rust, copper oxide ink, acrylic, spray paint, botanical matter and stitched elements on canvas and silk.
Acting as a visual timeline, this work commemorated 100 years of the house using the entire pigment collection and 100 stitches. Seven months ago, the painting was buried horizontally alongside the pond, half above the soil, half below. Rebirthed, it has returned to its initial place within 2020 exhibition.
As part of the Bodfa Continuum exhibition at Plas Bodfa
9-24 April, 2022
History, storytelling and contemporary art collide in this fusion exhibition occupying the entirety of Plas Bodfa. This immersive exhibition exists in the space between fiction and non-fiction, real and imagined, yesterday and tomorrow.
Mae hanes adrodd straeon a chelf gyfoes yn gwrthdaro yn yr arddangosfa ymdoddedig hon sy’n meddiannu Plas Bodfa. Bydd yr arddangosfa ymdrwythol yn bodoli mewn gofod ffuglennol a ffeithiol, y gwirionedd a’r dychmygol, ddoe a heddiw.
More about the show : plasbodfa.com/bodfa-continuum
Joskin Ripper by Helmet
Gyda’n gilydd eto | Together again

Gyda’n gilydd eto | Together again
Arddangosfa Nadolig
11 Tachwedd – 13 Ionawr 2024
Kialy Tihngang – Fetissoes

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Philippa Brown – horror-scapes: a sticky and haunting fever dream

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Gweni Llwyd

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Owain Train McGilvary & Taluah Thomas – TriTRItri

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Stones Stories, Norman Payne
These stories are inspired by Norman Payne’s site specific installation at Plas Bodfa. They are written and performed by Norman Payne as a mocumentary to accompany his installation.
North Wales Africa Society

Mae Cymdeithas Affica Gogledd Cymru yn sefydliad gymunedol a chyfeillgarwch yng Ngwynedd. Mae’r gymdeithas yn gasgliad o aelodau o’r gymuned diaspora Affricanaidd, a phobl sydd gan ddiddordeb yn Affrica.
DAC Arts Prize ceremony
Wedi’i ffilmio gan Culture Colony
Ymddiriedolaeth Ynys Enlli Cyf

Mae Ynys Enlli yn llawn o fywyd gwyllt, arfordir dramatig a dros 4,000 o flynyddoedd o hanes diddorol. Mae yma ddigon i’w ddarganfod os ydych yn ymweld am y dydd neu am wythnos o wyliau ar yr ynys unigryw hon. Saif Ynys Enlli tua 2 filltir (3 cilomedr) ar draws y swnt o Benrhyn Llŷn, […]
Spectrum of Sight Art Installation: a work-in-progress sharing

Rhanniad o waith mewn broses newydd gan Bridie Doyle-Roberts
26/09/2023
16:00 – 20:00
Aildanio 2022-23 Arts Prize Exhibition

Dydd Sadwrn 16 Medi 2023 – Dydd Sul 5 Tachwedd 2023
10:00 am – 4:30 pm
Bydd ‘Aildanio’, yr arddangosfa Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) yn teithio’n genedlaethol ar draws chwe oriel yn dechrau yn g39 Caerdydd o 18fed Tachwedd 2022.
Gwenllian Davenport – Afoniaieth

3.7.23 – 14.7.23 Gair ffug yw Afoniaeth; cyfuniad o ddau air Cymraeg: afon + barddoniaeth. O fewn ei chyfnod preswyl ar-lein, bydd Gwenllian yn archwilio iaith ei hafon leol trwy sain, ffilm, ffotograffiaeth, print a cherflunio, wrth gwestiynu sut y gallem gyfieithu afon a darganfod ei afoniaieth. Artist dwyieithog o Ferthyr Tudful yw Gwenllian Davenport. […]
Plas Bodfa Projects

Prosiectau unigryw, cynhwysol, creadigol wedi eu gwreiddio yn Ynys Môn ac yn ymestyn ar draws Cymru a’r byd, yn cyfuno celf gyfoes ac adrodd storiâu gyda’r gwyddorau a chysylltiad gyda holl elfennau ein hamgylchedd.
Julie Upmeyer

Mae Julie Upmeyer yn artist ac yn gychwynnydd. Yn ymdrochi’n ddwfn mewn deunydd neu broses benodol, mae hi’n creu cerfluniau a gwrthrychau, perfformiadau a gosodiadau.
Sara Wheeler

Mae Dr Sara Louise Wheeler yn fardd, llenor ac yn artist llawrydd. Mae hi’n ysgrifennu’r golofn ‘O’r Gororau’ i gylchgrawn Barddas, gan archwilio pynciau sy’n ymwneud â phrofiadau ffiniol, gan gynnwys anableddau; mae hi hefyd yn ysgrifennu colofn ddeufisol i Golwg360. Mae Sara yn gwneud gwaith ymgynghorol ar hygyrchedd ac mae’n aelod o nifer o bwyllgorau a rhwydweithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth; mae hi hefyd yn Is-Gadeirydd y pwyllgor Llên canolog ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn aelod o bwyllgor gwaith PEN Cymru, a hefyd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd. Mae Sara yn gweithio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r cyffiniau, gan ddarparu gweithdai sy’n ymwneud â chreadigedd a llesiant. Enillodd Sara gystadleuaeth ‘Geiriau Creadigol’ (cyfrwng Cymraeg) DAC 2022 gyda’i cherdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’; mae hi eisoes wedi ei chyfieithu a’i cyhoeddi yn ei phamffled dwyieithog o farddoniaeth ‘Trawiad/ Seizure’. Mae ei gwaith celf ‘Tywod amser y clyw’ i’w weld yn arddangosfa Gwobr Celfyddydau DAC ‘Aildanio’ ac ar hyn o bryd yn cael ei arddangos yn Tŷ Pawb, Wrecsam. Mae Sara ar hyn o bryd yn paratoi llyfr i blant o’r enw ‘Y Dywysoges Arian’, yn seiliedig ar stori a gwaith celf a gyhoeddodd yn ddiweddar yn ‘Cylchgrawn CIP’; bydd hi’n gyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg, gyda gwaith celf gwreiddiol.
Socials: @serensiwenna (Twitter ag Instagram) Saralouisewheelerneeedwards ar Facebook.
Ewch i weld mwy o gelf gan Sara yma
Clwb LGBTQ+ Gisda

Clwb LHDT+ i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru
Dina Kelberman – It’s Probably Whatever You Think It Is

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Tom Crawford & Samuel Hasler

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Traethlinau: Poppit Sands
Rydyn ni wrth ein bodd i rannu’r ffilm derfynol o brosiect Traethlinau ar draeth Poppit!
“Roedd y cynnig olaf ar y tywod ar draeth Poppit. Yn lle creu cynllun crwn, y tro hwn dyluniodd yr artist tywod Rachel Shiamh rywbeth oedd yn gadael i ni weithio’n agos gyda’r tirlun naturiol, felly symudon ni o gwmpas y creigiau’n creu darn o gelf tywod sy’n edrych yn gwbl gartrefol ymysg y creigiau.
Roedd yn fore oer a heulog, felly roedd yn wych bod Angela, Cyfarwyddwr WAHWN wedi sefydlu gwersyll bach gyda diodydd poeth a chacen fanana gartref. Maethlon ar bob lefel!
Roedd y digwyddiad yn rhan o #Traethlinau, cynnig llesiant creadigol i staff Hywel Dda a gomisiynwyd gan dîm Celfyddydau mewn Iechyd Hywel Dda ac a gynhyrchwyd gan WAHWN
Gwobr Gelf/Arts Prize: Aildanio – Galeri

Mae’r arddangosfa gelf Aildanio, sydd yn dangos gwaith o Wobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru, yn symud i Galeri Caernarfon!
04/03 – 15/04
Mwy o wybodaeth am weithdai Aildanio isod
North Wales Wildlife Trust – Wild Words

Mae The Wildlife Trusts yn fudiad llawr gwlad o bobl yn cyd-weithio ar gyfer bywyd gwyllt. Mae The Wildlife Trust yn gweithio dros y Ddeyrnas Unedig i wella lleoliadau i fywyd gwyllt a dylwanwadu ar lywodraethau i sicrhau dyfodol bywyd gwyllt. Mae Wild Words yn nodwedd o Wild North Wales, sydd yn gofyn i ddarllenwyr […]
WAHWN Cymru

Rhwydwaith o gydweithwyr sy’n ehangu’n gyflym yw Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, sy’n cyflawni gwaith ym maes y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae’r rhwydwaith yn cynrychioli aelodau o sectorau’r celfyddydau, iechyd ac addysg uwch ac mae’n cynnwys ymarferwyr sy’n gweithio ar draws yr ystod gyfan o ymarfer celf mewn iechyd, y celfyddydau a […]
Gad fynd, Cadwa fynd | Landing: An artist’s relationship between creativity, wellbeing and place
Ffilm fer, atgofus, sy’n ddarlun o’r ffordd y mae’r artist o Gymru Alice Briggs yn creu cyswllt â’i thirlun lleol fel rhan o’i harfer creadigol a llesiant: chwilota, coginio, gwneud, nofio, lluniadu…
Gwnaed y ffilm fel rhan o raglen llesiant artistiaid Sut Mae’n Mynd? ac fe’i cyllidwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.’
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am How Ya Doing?