Cyfansoddwr ac artist sain yw John, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirwedd Cymru ac mewn cysylltiadau a chydweithrediadau traws-ddiwyllianol. Ymateb i le, cymuned a chwilota arddull
newydd rhyngddisgyblaethol o gyflwyno sy’n mynd â’i fryd.
Fe astudiodd dan adain y cyfansoddwr nodedig Alun Hoddinott, a bellach mae’n gweithio llawn amser fel cyfansoddwr ac arbofwr gyda gosodweithiau sain ac amlgyfrwng. Mae rhychwant ei waith cyfansoddi yn eang ac amrywiol. Mae wedi cyfansoddi ar gyfer ffilmiau, dramau teledu dogfenol a’r theatr yn ogystal a derbyn comisiynau ar gyfer perfformiadau llwyfan cyngerdd a gosodweithiau safle-benodol. Cydweithiodd ar brosiect nodedig gyda John Cale o The Velvet Underground gan arwain y perfformiad cerddorfaol cyntaf o Paris 1919 yng Nghymru. Yn fwy diweddar bu’n gweithio ar PARADE, gosodwaith aml-gyfrwng cymunedol yn Llyfrgell Maindee yng Nghasnewydd fel rhan o brosiect ‘Creu Cymunedau Cyfoes’ Cyngor Celfyddydau Cymru.
Yn 2013, dyfarnwyd Gwobr Cymru Greadigol i John gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Fe arweiniodd hynny at greu’r gosodwaith cerddorol, Atgyfodi – profiad ymdrochol arbennig sy’n plethu lleisiau coll o archif Amgueddfa Werin Sain Ffagan, recordio-maes, cyfweliadau, a sgôr wreiddiol ar gyfer cerddorfa siambr ac offerynnau traddodiadol.
Yn fwy diweddar mae John wedi cyd-weithio hefo’r cerddor adnabyddus Evelyn Glennie ar darn sain a wedi ei seilio ar recordiad amgylchynol o’r clôch yn Eglwys Nantgwyllt yng Nghwm Elan, hefo ymateb offerynnol ar offerynnau taro; hefyd comisiynwyd gwaith o gelfyddyd-radio Amleddau i ddathlu Canmlwyddiant y darllediad cyntaf yn yr iaith Gymraeg ym 1923 gan BBC Radio Cymru.






