How Ya Doing? Sut Mae’n Mynd?
Rhaglen Llesiant Artistiaid Sut Mae’n Mynd?
Roedd Sut Mae’n Mynd? yn rhaglen i gefnogi artistiaid ledled Cymru a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn ymateb i’r angen i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl artistiaid llawrydd yn sgil pandemig COVID-19.
Cyflwynwyd Sut Mae’n Mynd? gan Engage Cymru, ac roedd yn rhaglen beilot yn cynnig amrywiaeth o gynigion cymorth gwahanol gan gynnwys grwpiau cefnogi cymheiriaid, cynulliadau grŵp, ymarfer myfyriol a grwpiau coetsio. Fe’i cyflwynwyd dros dri thymor rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Ebrill 2022.
Gwerthuswyd y prosiect gan Jane Willis.
Madaraja Art Exhibition – Bangor
Madaraja Art Exhibition – Aberystwyth
Catrin Gwilym
“Siwrne i ddeall y byd a fy lle inna ynddo ydyw fy ngwaith celf – a thrwy amryw gyfryngau yn ceisio holi cwestiynnau am beth yw perthyn a chysidro hefyd sut mae’r rhai a’r llefydd ar y cyrion yn ffitio i’r jig-so mawr. Hyn i gyd yn sgil cael fy ngwneud yn redyndant a sut ydwyf inna, fel Cymraes canol oed ac anabl, yn ceisio dod i delerau hefo hynny. Sut all rhai drysau gau ond y gall eraill hefyd agor yn y ffyrdd rhyfeddaf ac annisgwyl. Storïwraig yn y bôn sy’n ceisio ffeindio ei llais. A hyn drwy dyrchu i haenau a hanes. Hel casgliadau o bethau, er mwyn ceisio dod i gasgliadau.”
Artist amlgyfrwng yw Catrin Gwilym o ardal Porthmadog, a hyn di dod yn sgil cael ei gwneud yn ddi-waith yn ganol oed. Astudiodd gelf drwy gyrsiau rhan amser Prifysgol Bangor yn y gymuned. Dyma ei harddangosfa unigol cyntaf mewn sefydliad blaenllaw yng Nghymru.
“Cofnod o gyfnodau dros y ddegawd ddiwethaf yw’r jyrnal hwn; cyfnodau o geisio ffeindio ffyrdd newydd i ddelio â phrofedigaethau. Ystyriaeth sydd yma o leoliadau, dadleoliadau ac ar adegau adleoliadau: o gyfleoedd, ail-gyfleoedd a diffyg cyfleoedd a’u potensial i newid bywydau.
Dathliad ydyw o lefydd ar y cyrion – a hynny drwy grwydro, darganfod a myfyrio mewn pum lle arbennig – am yr hynod yn y di-nod, yr anghyffredin yn y cyffredin, a’r anghyfarwydd yn y cyfarwydd. Ond y mae yma hefyd alarnad am ddiwedd cyfnodau, am drysorau a daflwyd ac am bethau’n darfod, boed hynny drwy ddiffyg buddsoddiad neu ddifaterwch.
Y Bocs Gwyn yn Pontio oedd lleoliad olaf yn y jig-so o ran arddangos gwaith y Jyrnal ond oherwydd y pandemig fe gafodd y sioe – a oedd i gynnwys nifer o artistiaid eraill – ei chanslo ym Mai 2020. Drwy ailymweld yn ddiweddar â’r gofod yng nghwmni’r ffilmwraig Juliette Daum, ce’s gyfle i geisio prosesu yr hyn a fu, yr hyn a gollwyd a’r hyn a ddaw i’n rhan drwy gyfleoedd newydd. A hyn i gyd drwy gasgliadau a cheisio dod i gasgliadau.”
Gellir gweld rhagor o fanylion yr arddangosfa ‘Y Mae Stafell’ fan hyn
SUMMIT: Artist Call Out – Cerddoriaeth O Gymru: Pioneering Change
Mae Beacons Cymru yn chwilio am artistiaid i gyfrannu gweithiau i arddangosfa a gynhelir yng Nghaerdydd ar 2 Mawrth fel rhan o Ŵyl Summit 2023. Thema’r arddangosfa yw “Cerddoriaeth O Gymru: Arloesi Newid”. Gofynnwn i ymgeiswyr gyflwyno gweithiau yn seiliedig ar eu dehongliad personol o’r thema hon. Rydym yn derbyn gweithiau o bob disgyblaeth. Gall […]
Noson Gelf / Art Night SBÊSHAL
Dyma’r Sbêshal Noson Gelf / Art Night, deuddeg awr ac ugain o ddarlledu byw wedi’i gyddwyso i awr a hanner i roi blas bach i chi o’r hyn sydd newydd ddigwydd. Os hoffech chi weld y cyfweliadau llawn yn eu holl ogoniant byw, yna maen nhw hefyd i’w cael yma ar ein sianel ar AM.
Madaraja Art Exhibition; Nairobi, Kenya
Rydym mor gyffrous i’ch croesawu i’n rhagflas o Arddangosfa Gelf Madaraja yn Nairobi, Kenya ddydd Gwener 27 Ionawr o 5-8pm. Bydd yr arddangosfa ar agor gyda’r nos tan ddydd Sul 5 Chwefror 2023. Mae madaraja yn gofyn “sut gallwn ddychmygu celfyddydau cyfartal ac wedi eu dadwladychu pan mae naratif diwylliannol goruchafol yn parhau i ffurfio […]
Cylchdro

Merched, Mislif a Phêl-droed
Dafydd Rhys: Cyfweliad/Interview
Mwynhewch gyfweliad estynedig gyda Prif Weithredwr newydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys, o’r chweched darllediad Noson Gelf / Art Night ar alw nawr!
Andrew Ogun: Cyfweliad/Interview
Mudd Club: Cyfweliad/Interview
Aristiaid Ifainc Cymru | Young Welsh Artists 2022

Blas digidol o’r arddangosfa yn MOMA Machynlleth sydd yn arddangos gwaith artistiaid o dan 30 oed sy’n gweithio yng Nghymru
Elena Grace

Mae colled, absenoldeb a chanfyddiad o wacter mewn gofod yn flaenllaw yn fy ymarfer. Rwy’n canolbwyntio’n bennaf ar yr agwedd atgofus a brawychus o gysylltu eiliad mewn amser â thu mewn. Gan beintio golygfeydd mewn olew gyda’r defnydd o ffotograffau fel cyfeiriad, rwy’n archwilio’r syniad o absenoldeb bywyd/amser.
Mae’r ystafelloedd hyn yn adlewyrchu agosatrwydd y cartref a lleoliad – ymlyniadau dynol penodol i’r gorffennol. Rwy’n llywio hiraeth personol i’r ffordd yr wyf yn gwneud argraff o destun fy mhaentiad, gan ei drawsnewid yn gynrychiolaeth weledol o atgof tameidiog.
Ffion Griffiths

Artist BLOCK
Mae’r darnau hyn o gelf yn darlunio’r cyflwr dryslyd yr wyf yn cael fy hun ynddo ar hyn o bryd fel artist. Rwy’n ei chael hi’n anodd teimlo’n gyffrous am unrhyw beth rwy’n ei wneud. Wrth weithio ar rywbeth, rwy’n cyrraedd pwynt lle na allaf barhau a lle nad oes gennyf lawer o olwg arno. Fodd bynnag, y broses o wneud y gelfyddyd sy’n fy nghadw’n frwdrydig. Creu marciau, dod o hyd i’r cysylltiad hwnnw rhyngof i a’r deunyddiau. Treuliais fisoedd yn teimlo’n ddifater, ac yn ddigalon na allwn gynhyrchu unrhyw beth apelgar yn weledol ac nid oedd unrhyw gysyniadau na syniadau wedi fy ysbrydoli ddigon i wneud gwaith. Penderfynais ddathlu’r ffaith a chofleidio’r bloc, dod o hyd i ffordd newydd o weithio a’i ddefnyddio fel cromlin ddysgu. Rwy’n credu na ddylai neb deimlo’n euog am golli’r awen. Weithiau efallai mai dyma’r peth sy’n eich ysbrydoli i greu eto.
Caitlin Dolman

O fewn fy ymarfer, rwy’n gosod fy hun o flaen y cyfansoddiad gwag gyda phaent a rhagosodiad. Symudaf ymlaen i adeiladu ar hyn a bwydo fy mhroses greadigol yn reddfol trwy ganiatáu bregusrwydd personol a rhyddhau cathartig. Mae defnyddio semioteg Iliw ac iaith i gysylltu â phwyntiau a wneir o fewn y gelfyddyd yn cadarnhau’r cyd-destun. Archwilio pynciau bywyd cyffredin, meddyliau ymwthiol, trafodaethau gwarthedig fel LGBTQIA+ a materion ffeministaidd, iechyd meddwl, galar a sut yr ydym ni, fel pobl, yn ymateb iddynt. Adeiladu tensiwn nid yn unig rhwng y testun eglur ac ymhlyg, testun tebyg i farddoniaeth yn agor a chau naratif defnyddwyr ond hefyd trwy dra-arglwyddiaethu ac ymostyngiad. Defnyddio celf gyffesol, seiliedig ar destun i amlygu pwysau pa eiriau y gellir eu defnyddio gyda bwriad gosodedig a’r gwerth y gall iaith a adferwyd ei chael o’i gosod mewn cyd-destun newydd. Y cyfan wedi’i greu trwy lens artist sy’n cyflwyno’n fenywaidd yn y gobaith o ysgogi sgwrs na fyddai, o bosib, wedi digwydd fel arall.
Dione Jones

Vessel II
Mae dicter yn mudferwi o dan y cnawd a’r gwallt a’r gwythiennau, reit i’r craidd. Mae cyfyngiant yn fagwrfa i feddyliau ansefydlog. Mae fy llais hysterig fy hun yn fy ysgwyd allan o’m croen fy hun. Ni allaf ymlacio.
Yn teimlo fel bod eich corff eich hun yn arf i’ch dinistrio. Fel pob mandwll agored, teimlad digroeso, swyddogaeth naturiol, ac amharodrwydd yn y pen draw i fod fel yr ydych ei eisiau, yn ymosodiad personol sydd am eich rhwygo i ddim ond y cyfan a welwch ac a ddirmygwch.
Llinynnau yn lapio fel rhwyd gan ffurfio o amgylch yr holl rannau hynny o’ch anatomeg sy’n ymddangos fel pe baent yn ymwthio allan fwyfwy, maen nhw’n tyfu o’ch blaen chi yn y drych os byddwch chi’n syllu’n rhy hir. Dw i wedi blino o ryfela. Caf weld pa mor bell y gallaf wthio’r llestr hwn, rhoi gwybod iddo nad wyf yn dawel, rhoi gwybod iddo nad wyf yn mynd i fod yn ddigywilydd yn ei ddigofaint, ond fy mod yn barod am yr hyn y mae’n ei daflu ac yn barod i sgrechian a thaflu ffit.
Dottie-may Aston

Myfyrio ar ffurfiannau organig molysgiaid a silwetau meddal y ffigwr benywaidd a lywiodd creu’r gyfres o’r enw Golden Objectification. Haenau graddol o glai wedi’u cronni ac yna’u cerfio’n fanylion manwl, proses reddfol wedi’i phweru gan ddychymyg.
Mae dau ffigur mynegiannol yn sefyll wrth ymyl y llall wrth iddynt gyfuno’n folysgiaid. Mae’r nodweddion dynolffurf yn cael eu cuddio wrth i yddfau’r ffigurau droi i mewn i wrthrych. Mae tynnu eu hunaniaeth wynebol a rhoi cragen yn ei le wedi tynnu’n rhydd fregusrwydd y noethlymun. Gan weithio o gragen wedi’i difrodi, heb fod yn fwy nag ewin, rwyf wedi dyrchafu’r gwrthrych bach yn rhywbeth mwy cyffyrddol. Mae’r defnydd o aur yn fy ngwaith yn symbol o drachwant a’r awydd dynol am berffeithrwydd. Yn yr un modd mae cregyn yn cael eu tynnu o’r arfordir ac yn fuan yn mynd yn angof, gall harddwch fod yn ffantasi newydd. Gyda hiwmor sinigaidd rwyf wedi darlunio’r ffurf fenywaidd fel tlws, i’w hedmygu am ei hesthetig apelgar, ond eto mae’n gwasanaethu fel sylwebaeth ar safonau harddwch a delfrydau.
Erin Donnelly

Mae gen i ddiddordeb mewn syniadau sy’n ymwneud â’r cartref a’r cof, a’u rôl wrth ffurfio hunaniaeth. Roeddwn i eisiau archwilio sut i herio’r rheidrwydd i ddilyn strwythur Ilinol mewn naratif personol, gan fod y cof ynddo’i hun yn aml yn aflinol a thameidiog. Rydym yn aml yn camgofio elfennau o’n gorffennol, ac mae’r ffordd yr ydym yn asesu ein profiadau ein hunain yn cael ei llywio nid yn unig gan y cof yn unig, ond trwy atgofion a thueddiadau eraill.
Mae’r cyfuniad o weithiau a ddewiswyd yn adlewyrchu’r ddeuoliaeth sy’n gysylltiedig â’r cof, y cartref a myfyrio. Mae yma dynerwch, cynefindra a chysur, ond oerni hefyd. Mae hyn yn cyflwyno gwrthdaro a dryswch o fewn y gwaith, gan adlewyrchu’r emosiynau croestynnol a ddaeth yn sgil y broses o fewnsyllu, sy’n newid dros amser.
Teimlais fy mod yn cael fy nenu at archwilio’r ystyron personol sy’n gysylltiedig â’ch profiadau a’ch atgofion unigol eich hun, ond hefyd cyffredinolrwydd posibl yr ystyron hynny. Rwyf am bortreadu atgofion a theimladau personol mewn ffordd nad yw’n amlwg ddidactig, gan adael lle i gamddealltwriaeth trwy elfennau sy’n cael eu tynnu o’u cyd-destun neu eu cuddio mewn rhyw ffordd.
Mia Offelia

Nid cwlt yw hwn.
Mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar bob agwedd o’n bodolaeth, nid oes unrhyw rhan o fywyd bob dydd yn ymddangos heb ei gyffwrdd ganddo. Mae gan gyfryngau cymdeithasol y pŵer i ddylanwadu arnom mewn cymaint o ffyrdd, o’n meddyliau a’n hymddygiad i’n perthynas ag eraill, ein hunain, a’n hamgylchfyd. Rydyn ni’n gwybod am wenwyndra ein caethiwed i’n dyfeisiau ond gyda mwy o’r byd go iawn yn bodoli’n ddigidol, mae bron yn amhosib dianc. Rydym wedi’n gorlethu gan ffasiynau, ac yn cael ein rheoli gan algorithmau, yn boddi mewn gwybodaeth a barnau croes yn ddyddiol. Os yr ydym yn dewis cymryd rhan yn bwrpasol ai peidio mae’r athrawiaethau’n dal i effeithio arnom.
Mae fy ngwaith yn fynegiant o’m anesmwythder yn y byd rhithiol. Rwy’n defnyddio sain fel ffordd o drochi. Yma defnyddiais gyfuniad o’r gair llafar, allweddell a recordiad a gymerais o wenyn mêl mewn cwch gwenyn. Gan ddefnyddio pensiliau pastel mewn tonau pinc monocrom dwi’n haenu darluniau, gan greu ymdeimlad aneglur o ddechreuadau a diweddion, lle mae’r naill ffigwr yn dechrau a’r llall yn gorffen, i geisio cyfleu fy nryswch a’m rhwystredigaeth o’r gwirioneddau gwyrdroëdig y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu creu.
Jacqueline J Jones: ‘The Woman Who Lights Her Own Fire Is Free’
Julia Wilson: ‘The Wild Winds of Wales’
Teitl fy narn celf yw “The Wild Winds of Wales” sy’n darlunio, gyda hiwmor, cerdd wedi ei chreu gan ffrind, Paul McCue. Mae popeth wedi ei orwneud i gyfleu cryfder gwyntoedd Cymru, fel dail yn cael eu chwythu gan y gwyntoedd ffyrnig , adar yn cael eu taflu ar hyd yr awyr, dwy fuwch a char yn ben i weired, un wedi ei gorchuddio a blodau, mae drws bwthyn wedi ei chwythu i ffwrdd ac mae dyn dryslyd yn y fynedfa agored yn gwylio’r olygfa’n ymledu ac mae defaid i fyny mewn coeden.Proffil menyw (wedi ei ddoctora’n ddigidol) yn y blaendir, dde gwaelod, yn gegrwth gyda’i cheg lled agored, wrth weld y difrod. Mae ei ffocws ar y lein ddillad , ble mae dillad yn cael eu rhwygo i ffwrdd, uwchben y potiau ceramig wedi torri, (wedi ei gynyddu’n ddigidol gyda graddiannau) o ble daw blodau wedi eu taflu, gyda rhai ohonynt nawr ar fuwch sydd ben i weired. Gerllaw mae dau fwced wedi eu chwythu drosodd ac ymbarél tu chwith allan. Mae’r geiriau yn llifo ar draws y darlun mewn llinell grom ysgubol mewn meintiau amrywiol i gyfleu cryfder symudiad, gan awgrymu eu bod hefyd yn cael eu chwythu o gwmpas.Mae gan y darlun forder graddiant glasaidd gyda’r teitl yn Gymraeg ar y gwaelod.
Sara Louise Wheeler: The Sands of Hearing Time
Mae fy darlun ar bapur gwyn llyfn A3, gan ddefnyddio pensiliau graffit yn bennaf mewn gwahanol arlliwiau o lwyd, ond gyda rhai pensiliau lliw hefyd. Mae’n hunanbortread o fy mhen a’m hysgwyddau o’r ochr, gyda’m mhen wedi gogwyddo’n ôl a’m llygaid ar gau. Rwyf wedi dangos fy ngwallt dadbigmentiedig mewn lliwiau ysgafn iawn o lwyd, arian, ac ifori. Mae fy ngwefusau’n binc, a fy nghroen yn arlliw mwyaf gwelw o binc posibl. Rwy’n gwisgo cardigan llwyd tywyll, gweadog. Tra bod popeth arall yn realistig fel y byddai mewn portread, gallwch weld trwy ochr fy mhen uwch fy nghlust. Rwyf wedi rhoi awrwydr, neu amserydd wy yn lle fy cochlear. Mae hwn wedi’i lliwio’n frown a gallwch weld tywod amser yn llifo o ben yr awrwydr, trwy’r twndis cul, ac i mewn i ran waelod yr awrwydr.
Farah Allibhai: ‘What would you say to the love that you are?’
Alana Tyson: ‘Waste of Time’
Jordan Sallis: ‘Freedom’
Leila Bebb: ‘Spindle’
Phililpa Walter: ‘The Saltmarsh Otter’
Roz Moreton: ‘Silent Voices: Pandemic Numbers 1&2’
Tina Rogers: ‘You’ll Be The Death of Me’
Lia Bean: ‘Dreamer’
Linda and Bethany Sutton: ‘Radiance’
Menai Rowlands: ‘Metamorphosis’
Paddy Faulkner: ‘Helen & Sadie & Thier Winking Dog’
Ruben Lorca: ‘Portraits Before Death’
Rebecca F Hardy: ‘Aildanio’
Ceridwen Powell: ‘Oranges Are Not The Only Fruit’
Booker T Skelding: ‘Odyssey’
Candice Black: ‘Burning Inside’
Cerys Knighton: ‘Great Crested Grebe, Daffodils’
Clarrie Flavell: ‘Lighting the Roman Fires’
Deborah Dalton: ‘Green Lane, Abermule’
Emily-Jane Hillman: ‘Health Warning: Only Revisit the Past Through Art’
Jo Munton: ‘Always Leave Them Wanting More’
Enillydd/Winner – Arty Jen Jo: ‘Emerging From The Raging Seas’
Dyddiau Du

Llyfrgell gymunedol a gofod celfyddydol/llenyddol niwroamrywiol wedi’i arwain gan bobl cwiar
Ystyron a Negesuon | Meanings and Messages

Oriel Mission harddangosfa newydd, Ystyron a Negeseuon, yn agor dydd Sadwrn 19eg Tachwedd
Mae Ystyron a Negeseuon wedi’u curadu’n chwe thema wahanol; yn sbarduno deialogau rhwng y broetshiau yn ogystal ag annog sgyrsiau a myfyrdodau gan wylwyr.
DIGWYDDIAD AGORIADOL
✨Arddangosfeydd
Ystyron a Negeseuon
(19 Tachwedd – 21 Rhagfyr 2022)
🗓️ Dyddiad
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd, 2yp. Fe fydd sgwrs arddangosfa gydag Anna Lewis yn cymryd lle o 2.30yp.
📍 Lleoliad
Oriel Mission, Chwarter Morwrol, Abertawe
🎟️ Dim angen archebu
Mwy o wybodaeth
Photo credit/credyd ffoto: Simon Barmitt