Disgrifiad Clywedol
Mae fy darlun ar bapur gwyn llyfn A3, gan ddefnyddio pensiliau graffit yn bennaf mewn gwahanol arlliwiau o lwyd, ond gyda rhai pensiliau lliw hefyd. Mae’n hunanbortread o fy mhen a’m hysgwyddau o’r ochr, gyda’m mhen wedi gogwyddo’n ôl a’m llygaid ar gau. Rwyf wedi dangos fy ngwallt dadbigmentiedig mewn lliwiau ysgafn iawn o lwyd, arian, ac ifori. Mae fy ngwefusau’n binc, a fy nghroen yn arlliw mwyaf gwelw o binc posibl. Rwy’n gwisgo cardigan llwyd tywyll, gweadog. Tra bod popeth arall yn realistig fel y byddai mewn portread, gallwch weld trwy ochr fy mhen uwch fy nghlust. Rwyf wedi rhoi awrwydr, neu amserydd wy yn lle fy cochlear. Mae hwn wedi’i lliwio’n frown a gallwch weld tywod amser yn llifo o ben yr awrwydr, trwy’r twndis cul, ac i mewn i ran waelod yr awrwydr.