Cartref digidol diwylliant Cymru.

Madaraja Art Exhibition; Nairobi, Kenya

Rydym mor gyffrous i’ch croesawu i’n rhagflas o Arddangosfa Gelf Madaraja yn Nairobi, Kenya ddydd Gwener 27 Ionawr o 5-8pm. Bydd yr arddangosfa ar agor gyda’r nos tan ddydd Sul 5 Chwefror 2023.

Mae madaraja yn gofyn “sut gallwn ddychmygu celfyddydau cyfartal ac wedi eu dadwladychu pan mae naratif diwylliannol goruchafol yn parhau i ffurfio ein profiadau a’n cyd-ddychymyg?”. Mae Panel Cynghori Is-Sahara wedi gweithio gyda chymunedau a grwpiau creadigol lleiafrifol o ran hil, i sefydlu cyfryngau wedi eu dadwladychu ar gyfer diwylliant, gan gyfuno offer digidol a thraddodiadol a defnyddio diwylliannau Affricanaidd ac alltud. Nod Madaraja yw gweithredu’n lleol ond meddwl yn fyd-eang, tra’n creu pontydd sydd yn cysylltu Cymru a chyfandir Affrica. Mae Panel Cynghori Is-Sahara wedi cysylltu’n uniongyrchol â grwpiau creadigol, diwylliannau ac ieithoedd; archwilio hierarchaethau a photensial offer gweledol, barddonol a chreadigol, arwyddion i gyfleu naratif, emosiynau ac atgofion.

Mae Madaraja, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi comisiynu 14 o artistiaid ar draws Cymru (yn cynnwys Caerdydd, Abertawe, Bangor a Wrecsam) a chyfandir Affrica (yn cynnwys Kenya, Camerŵn a Tanzania). Daw artistiaid Madaraja o amrywiaeth eang o gefndiroedd, profiadau a disgyblaethau (fel arlunio, barddoniaeth, ffilm, sain a chyfryngau cymysg).

Cysylltwch ag artistiaid lleol a byd-eang o gyfandir Affrica. Bydd perfformiadau, bwyd a lluniaeth hefyd. Felly dywedwch wrth ffrind am ddweud wrth ffrind a gadewch i ni ddathlu gyda’n gilydd!

RHANNWCH