Cartref digidol diwylliant Cymru.

Julia Wilson: ‘The Wild Winds of Wales’

Disgrifiad Clywedol

Teitl fy narn celf yw “The Wild Winds of Wales” sy’n darlunio, gyda hiwmor, cerdd wedi ei chreu gan ffrind, Paul McCue. Mae popeth wedi ei orwneud i gyfleu cryfder gwyntoedd Cymru, fel dail yn cael eu chwythu gan y gwyntoedd ffyrnig , adar yn cael eu taflu ar hyd yr awyr, dwy fuwch a char yn ben i weired, un wedi ei gorchuddio a blodau, mae drws bwthyn wedi ei chwythu i ffwrdd ac mae dyn dryslyd yn y fynedfa agored yn gwylio’r olygfa’n ymledu ac mae defaid i fyny mewn coeden.Proffil menyw (wedi ei ddoctora’n ddigidol) yn y blaendir, dde gwaelod, yn gegrwth gyda’i cheg lled agored, wrth weld y difrod. Mae ei ffocws ar y lein ddillad , ble mae dillad yn cael eu rhwygo i ffwrdd, uwchben y potiau ceramig wedi torri, (wedi ei gynyddu’n ddigidol gyda graddiannau) o ble daw blodau wedi eu taflu, gyda rhai ohonynt nawr ar fuwch sydd ben i weired. Gerllaw mae dau fwced wedi eu chwythu drosodd ac ymbarél tu chwith allan. Mae’r geiriau yn llifo ar draws y darlun mewn llinell grom ysgubol mewn meintiau amrywiol i gyfleu cryfder symudiad, gan awgrymu eu bod hefyd yn cael eu chwythu o gwmpas.Mae gan y darlun forder graddiant glasaidd gyda’r teitl yn Gymraeg ar y gwaelod.

Gwynt Gwyllt Cymru


Roedd pethau yn siglo a gwichian oedd rhai
Pan chwythodd corwyntoedd am ‘thefnos dim llai.

O Sul trwy dydd Llun ‘roedd pawb mor siwr
Fod popeth tu allan yn troi yn y stwr.

‘Roedd dodrefn yr ardd a phlanhigion yn troi
Bin spwriel a cadair yn gorwedd fel lloi.

Tegannau a brolis, bwcedi a mops
‘N hedfan drwy’r awyra’r corwynt Cymraeg.

Pob dim heb ei glymu yn hedfan drwy’r ne’
Gwrthdaro a twrw’mhob cornel o’r lle.

Chwibannodd y gwynt a ninnau’n ddi-gwsg
Ond diogel y’r oeddem er cryndod y drws.

Mi welais i fuwch ar adain ‘rwyn siwr
Yn gorwedd a’i chefn o dan droedfedd o ddwr.

Ei thraed yn yr awyr pedair nid tair
a potiau blodau fel llysiau mewn pair.

‘Roedd pethau yn rhuglio, a gwichian oedd rhai
Pan chwythodd y corwynt am ‘thefnos nid llai.

Aeth leiniad o ddillad a’r pegiau i ffwrdd
Hyd heddiw mai rhai heb ddychwelyd i’r bwrdd.

Crynnai y coed, yr afonnydd yn fflyd
A plentyn yn gorwedd yn syn yn ei gryd.

Y pinwydd yn curo tu allan i’r drws
A twrch a llygoden yn hedfan ar goes brws.

Defaid y caeau hyd cangau y coed
A’u gwlan fel plu gwynt wedi hedfan heb oed.

Yr adar yn sgrechian mwy swniog na ‘rioed
A’r aer yn eu chwythu fel dail-hydref o’r coed.

‘Rwy’n cofio syn edrych ar wyneb ‘y nhad,
Maes parcio’r car newydd ar y ffordd i gefn gwlad.

A’r car anffodus yn edrych fel cwch
‘Nofio’r ei do mewn dwy droedfedd o drwch.

A mam fach yn damio, peidiwch a son.
Wrth weld ei gardd flodau yn hwylio lawr lon.

Cychwynnodd ci nadu, a cheisio dal ‘i gwt
Nes baglu dros fabi’n llyncu malwen lled bwt.

Ond mewn winc daeth tawelwch o’r Ne,
Aeth y gwynt tua’r Alban syrthiodd popeth i’w le.

Cododd y fuwch, syrthiodd defaid o’r coed
Heb eu gwlan cynes yn tishian heb oed.

Peidiodd ci gyfarth a’r adar yn stond
A mam gaeth ei phegs a’r hoff lian yn sownd.

Tynnwyd y car heb fod llawer gwaeth ar ei draed
A’r blodau ail blannyd heb golli dim gwaed.

Gosodais y dodrefn a’r brolis’n eu sied;
Bu farw un twrch fu’n hedfan dros Ned.

Mi claddwyd y gweddillion mewn mwsog ‘yn yr ardd
A gweddi fach deurngar i’r teulu gan fardd.

A phawb yn ol at eu bywyd fel cynt
Heb neb yn anghofio helynt y gwynt.

‘Roedd pethau yn rhuglio, ond chwincian oedd rhai,
Pan chwythodd corwyntoedd am ‘thefnos dim llai.

by Paul J McCue
Translated into Welsh by
Martin Riley, John Jones and Tecwyn Jones
Illustration by Julia Wilson

RHANNWCH