Gweithdy Aildanio: Cyfarfod y briff
25/03 | 10:30, 13:00
Thema’r gweithdy fydd darllen a deall briff gelfyddydol a dulliau o gynhyrchu gwaith sy’n addas o ran thema.
Byddaf hefyd yn trafod sut i gynhyrchu Datganiad Artist addas a pherthnasol, yn ysgrifenedig ac ar ffurf fideo, yn ogystal â chyffwrdd â sut i ychwanegu disgrifiadau sain i’n gwaith a sut mae’r ffôn symudol yn arf creadigol hynod bwerus.
Hyd y sesiwn: 90 munud gydag egwyl gysur o 5 munud yn y canol.
Bydd y sesiwn hon hefyd ar gael yn rhithwir trwy ymuno trwy ddolen Zoom. Cysylltwch â Ffion.evans@galericaernarfon.comos hoffech ymuno â’r sesiwn yn rhithwir. Os gwerthir pob tocyn ar gyfer y gweithdy ar ein gwefan bydd lleoedd rhithwir ar gael o hyd.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.
Sesiwn Creu Llyfryn Bach / Zine gyda artist Rebecca F Hardy
01/04 | 14:00
Byddwn yn defnyddio cyfrwng cymysg (paent, posca pens, gludwaith, print) i greu llyfryn zig zag neu zine. Trwy ddefnyddio arddangosfa DAC Gwobr Celf fel ysbrydoliaeth. Byddwn yn edrych ar batrymau ailadrodd, theori lliw a naratif.
Mae’r sesiwn yn agor i bobol ifanc ac oedolion gyda phen agored a dychymig i dreialu technegau a phrosesau gwahanol.
Hyd y sesiwn: 2 awr gydag egwyl gysur o 15 munud yn y canol.
Bydd y sesiwn hon hefyd ar gael yn rhithwir trwy ymuno trwy ddolen Zoom. Cysylltwch â Ffion.evans@galericaernarfon.com os hoffech ymuno â’r sesiwn yn rhithwir. Os gwerthir pob tocyn ar gyfer y gweithdy ar ein gwefan bydd lleoedd rhithwir ar gael o hyd.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.
Collage Arbrofol
06/04 | 11:00
Archwiliwch dechnegau collage a gwneud marciau amrywiol gyda’r artist a’r gwneuthurwr Menai Rowlands. Mae’r sesiwn yn agor i bobol ifanc ac oedolion gyda phen agored a dychymig i dreialu technegau a phrosesau gwahanol.
Hyd y sesiwn: 1 awr
Lleoliad Sesiwn bore (11-12yp): Safle Creu, Galeri Caernarfon
Lleoliad Sesiwn pnawn (1-2yp): Bydd y sesiwn hon yn rhithwir trwy ymuno trwy ddolen Zoom.
Os gwerthir pob tocyn ar gyfer y gweithdy ar ein gwefan bydd lleoedd rhithwir ar gael o hyd. Cysylltwch â Ffion.evans@galericaernarfon.com os hoffech ymuno â’r sesiwn yn rhithwir.