Cartref digidol diwylliant Cymru.

Bonws British Podcast Award

Pennod fach fer yn sôn am bob dim British Podcast Awards. Mi wnawn ni gau’n cegau am y digwyddiad ar ôl hwn, GADDO!

Gogledd Iwerddon a’r Undeb – pa ddyfodol?

DARLLEN AM DDIM


Mae sefyllfa Unoliaethwyr y chwe sir yn anobeithiol a thrasig. Dyna ddengys gwybodaeth y bu’r awdur yn gyd-gyfrifol am ei chanfod. Nid yw teyrngarwch y rhai yn y Gogledd sy’n uniaethu â Phrydain yn cyfateb i’r farn yng ngweddill y Deyrnas am bwysigrwydd y dalaith o fewn yr Undeb na lleoliad y ffin.

Y Bysgodes – Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Casia Wiliam

Y Bysgodes gan Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Casia Wiliam yw Llyfr y Mis i Blant, mis Hydref.

Yn ystod haf 2022, daeth teuluoedd o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru at ei gilydd i siarad am straeon a hen chwedlau o Gymru a gwledydd Affrica 

Daeth beirdd, storïwyr a chantorion Affricanaidd a Chymreig i rannu a dysgu. Yn araf bach a fesul tipyn wedyn, daeth y stori i fodolaeth. Tynnodd yr awdur Casia Wiliam y stori at ei gilydd a’i rhoi ar bapur, cyn ei phasio ymlaen at y darlunydd Jac Jones.

Dyma chwedl newydd sbon, sy’n cyfuno straeon traddodiadol Cymreig ac Affricanaidd (Ghanaidd a Nigeraidd).

Dyma flas o’r broses o greu’r gyfrol.

POP PETH DAU 1993

Cynnyrch Fidio wedi’i hachub allan o’r sdafell sdoc ar benblwydd Ankst yn 35mlwydd oedd!
Braint yw cael cyhoeddi ymddangosiad y releases/casgliadau fidio hanesyddol isod ( i gyd yn wreiddiol allan ar VHS) gan Label Ankst ar Sianel Kino Ankst. 

POPETH 1992
POP PETH DAU 1993

Pennod 24 – Meddwi’n Niwrbwrch: Dafydd ap Gwilym (rhan 1)

Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym.
Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mewn sawl ffordd, ac mae’n bosib awgrymu mai fo oedd ‘y dyn iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn’, yn fardd talentog a beiddgar ar adeg pan oedd cymdeithas yn newid a phosibliadau barddol yn ymagor o’r herwydd.
Mae’n cael ei gofio’n bennaf heddiw am ei ganu search a natur (pwnc ein pennod nesaf!). Mae canrifoedd o Gymry wedi dotio at ei ffresni, ei newydd-deb, ei hiwmor a’i feiddgarwch ond nodwn ei fod hefyd yn fardd traddodiadol ar un wedd, yn canu mawl ac yn cyfansoddi cerddi crefyddol dwys yn ogystal â’r gwaith hwyliog a ffraeth a gysylltir â’i enw heddiw. Craffwn ar un o’i gywyddau, sef cân o fawl i dref Niwbwrch. Awgryma’r gerdd hon fod Dafydd yn claddu medd yn y dref – yn wir, ‘mynwent medd Môn’ oedd Niwrbwrch yn ei eiriau’i hun! – ac mae’r cywydd hwyliog hwn hefyd yn sôn am yfed gwin, cwrw a methyglyn (medd wedi’i drwytho â pherleisiau).

POPETH 1992

Cynnyrch Fidio wedi’i hachub allan o’r sdafell sdoc ar benblwydd Ankst yn 35mlwydd oedd!
Braint yw cael cyhoeddi ymddangosiad y releases/casgliadau fidio hanesyddol isod ( i gyd yn wreiddiol allan ar VHS) gan Label Ankst ar Sianel Kino Ankst. 

POPETH 1992

POP PETH DAU 1993

Stones Stories, Norman Payne

These stories are inspired by Norman Payne’s site specific installation at Plas Bodfa. They are written and performed by Norman Payne as a mocumentary to accompany his installation.

Dyblu cronfa fideos cerddorol Lŵp x PYST

Bydd cronfa ariannol Lŵp S4C a PYST ar gyfer creu fideos cerddorol Cymraeg yn dyblu er mwyn ariannu ugain fideo newydd dros y flwyddyn nesaf.

Er mwyn gwybod mwy am sut i wneud cais, cysylltwch â owain@pyst.net.

Pennod 23 – Seintiau a Phechaduriaid

Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig. 

Nodwn fod y Cymry yn weddol unigryw yn eu hoffter o lunio ‘bonedd’ neu ‘achau’ seintiau (amlygiad canoloesol o’r awydd Cymreig oesol i holi i bwy mae rhywun yn perthyn, efallai!). Trafodwn draddodiad llenyddol storïol poblogaidd hefyd, ‘Bucheddau Seintiau’, cofiannau neu fywgraffiadau. Edrychwn ar Fuchedd Dewi a thrafod rôl llenyddiaeth yn y datblygiad a wnaeth ef yn nawddsant Cymru. Cewch glywed hanes cyffrous am forwyn o’r enwi Gwenfrewi wrth iddi arddel ‘strategaeth risg-uchel’ (chwedl Richard Wyn Jones) er mwyn ceisio dianc rhag y brenin cas, Caradog, a hanes y ffynnon sy’n dwyn enw’r santes honno. Cawn gyfle i ystyried canu mawl i’r seintiau, gan graffu ar un awdl sy’n dyrchafu Dewi uwchlaw holl seintiau eraill y byd.

Cyhoeddi Gyda Ni

Ffenestr Gyflwyno Nesaf: 1-30 Tachwedd 2023

‘Dach chi wedi sgwennu rhywbeth, yn chwilio am gartref amdano fo, ac wedi meddwl am Gyhoeddiadau’r Stamp (dewis da, os cawn ni ddeud), ond be nesa? Sut mae troi llyfrFINALterfynol2b.docxx yn gyfrol brint? Dyma gyflwyno ein system newydd o agor ffenestri cyflwyno ar gyfer gwaith posib i’w gyhoeddi. Cliciwch ar y botymau isod i ddysgu mwy, a pharatowch i hitio’r botwm Send rhwng 1 a 30 Tachwedd, eleni!

Canllawiau Cyflwyno

Cwestiynau Cyffredin

Pennod 4: A alla’ i fforddio mynd i’r brifysgol?

Ydych chi’n poeni am y gost o fynd i’r brifysgol? A yw’n swnio fel breuddwyd anghyraeddadwy? A fydd wirioneddol yn werth chweil yn y tymor hir – yn enwedig gan mai’r unig beth mae pawb i weld yn sôn amdano’r dyddiau hyn yw dyled myfyrwyr?

Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael ag arian yn uniongyrchol. Rydym yn trafod cyllidebu, rheoli eich arian a byw’n annibynnol, yn ogystal â Chyllid Myfyrwyr a ffyrdd ymarferol o gydbwyso swydd wrth astudio.

The Gentle Good – Galarfan

“Mae cymaint i’w ddarllen, ei weld a gwrando arno ar AM mae’n anodd gwybod ble i ddechrau. Fy nghyngor i? Mae unman yn gwbl iawn, a buan iawn y byddwch chi’n cwmpo lawr twll cwningen o ddiwylliant Cymreig rhyfeddol. Fe ddes i o hyd i waith newydd gan artistiaid rydw i’n eu caru eisoes a darganfyddais bobl a phrosiectau arbennig oedd yn newydd i mi mewn chwinc. Gallwch roi eich bys yn gywir ar guriad diwylliannol Cymru dim ond drwy fynd i’r wefan hon. Gwych.”

Ewch i weld DEWIS The Gentle Good isod nawr!

HMS Morris – Balls

Rhybudd: mae’r fideo yma’n cynnwys goleuadau’n fflachio sydd efallai ddim yn ddiogel ar gyfer pobl sydd gan epilepsi oleusensitif

Yn syml reit, neges y drydedd sengl oddi ar albwm newydd HMS ‘Dollar Lizard Money Zombie’ yw: ‘wrth gwrs fod bywyd hunan-gyflogedig ar brydiau’n teimlo’n frawychus o ansefydlog a’n ych-a-fi o hunan-hyrwyddol, ond yn y pendraw cofia fod gen ti ffrindiau sy’n dy gefnogi di, llu o freintiau sy’n hanu o amseriad a lleoliad dy enedigaeth, a does dim ystyr gwirioneddol i’r bydysawd beth bynnag, felly waeth i ti jyst ymroi i’r gwaith o dy flaen a mynd amdani fel cath i gythraul.’

Cynhyrchwyd gan HMS Morris ac Orchard Media
Ffilmio a golygu – Trigger Happy Creative
Cynorthyydd Cynhyrchu – Maisy Williams
Lleoliad – Bedwas Gymnastics Centre
Gwisgoedd a cholur- Heledd Watkins

Starring:
HMS Morris – Heledd, Sam, Billy a Iestyn.
Katie Hall
Lewys Siencyn
Elin Parisa Fouladi
Owain Jones
Jac Evans
Iwan Williams
Gruffydd Parry
+ gwestai arbennig iawn CARYL PARRY JONES
Diolch arbennig i llaw chwith Katie.

Lansiad Blodeugerdd 2020

Sgwrs rhwng Ifor ap Glyn a golygyddion y gyfrol ‘Dweud y drefn pan nad oes trefn: blodeugerdd 2020’, Grug Muse ac Iestyn Tyne.

Prynwch y flodeugerdd yma!

Seiniau Stampus 1: Ffosfforws 1 gyda Ciarán Eynon

Podlediad arbennig i ddathlu lansio rhifyn cyntaf erioed Ffosfforws, cyfnodolyn newydd Cyhoeddiadau’r Stamp sy’n llwyfan i farddoniaeth o bob math. Mae Grug a Iestyn sgwrsio efo Ciarán am gynnwys y rhifyn, taith Ciarán fel sgwennwr, a sawl peth difyr arall. Mi gawn ni hefyd glywed cerddi newydd sbon sydd wedi eu cyhoeddi yn Ffosfforws gan Sion Tomos Owen, Manon Wynn Davies ac Alaw Tomos.

Rhybudd cynnwys: Ceir cyfeiriadau yn y rhifyn hwn at gerddi sy’n trafod trais a thrais rhywiol yn erbyn merched yn benodol.

Seiniau Stampus [o’r archif]: 24:24 gyda Leusa Llewelyn

Sgwrs o Hydref 2020 wrth i Leusa Llywelyn o Llenyddiaeth Cymru ac Iestyn Tyne & Esyllt Lewis o’r Stamp ddod ynghyd i drafod #Her24Awr ar ddiwedd y prosiect.

Cyfrannwyr #Her24Awr oedd: Beth Celyn, Dafydd Reeves, Dylan Huw, Eadyth Crawford, Elan Elidyr, Elen Gwenllian Hughes, Esyllt Lewis, Ffion Morgan, Ffion Pritchard, Gareth Evans-Jones, Gwenllian Spink, Gwenno Llwyd Till, Iestyn Tyne, John G. Rowlands, Lauren Connelly, Osian Meilir, Melissa Rodrigues, Rufus Mufasa, Ruth Lloyd Owen, Rhiannon M. Williams, Rhys Aneurin, Sara Louise Wheeler, Sioned Medi Evans, Steffan Dafydd a Tess Wood.

Bob blwyddyn ers 2012 ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth bu Llenyddiaeth Cymru yn herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Yn 2020, cafwyd newid cyfeiriad wrth i Llenyddiaeth Cymru gydweithio â’r Stamp i gynnal rhywbeth ychydig yn wahanol. Dan arweiniad golygyddion Y Stamp, roedd Her 24 x 24 yn dwyn ynghyd 24 artist am 24 awr.

Roedd yr artistiaid yn ffurfio cadwyn greadigol, gan ddechrau am hanner dydd ar 1 Hydref a gorffen am hanner dydd ar yr 2 Hydref. Roedd gan bob artist awr yr un i ymateb i waith yr artist blaenorol mewn unrhyw fodd creadigol, gyda’r gwaith gorffenedig yn cael ei rannu ar y we. Mae’r holl gynnyrch yn dal i fod ar gael draw ar sianel AM Y Stamp: https://amam.cymru/ystampus

Seiniau Stampus 2: merch y llyn a Stafelloedd Amhenodol o Ŵyl Geiriau Wrecsam

Darlleniadau estynedig o merch y llyn gan Grug Muse, a Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne, dwy o’r cyfrolau sydd ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Recordiwyd gyda chynulleidfa fyw yn Nhŷ Pawb fel rhan o Ŵyl Geiriau Wrecsam ar 23 Ebrill 2022.

Gyda diolch i Dylan Hughes a Gŵyl Geiriau Wrecsam am y gwahoddiad.

Rhybudd cynnwys: Ceir darlleniadau yn y rhifyn hwn o gerddi sy’n trafod galar a thrais, a thrais rhywiol yn erbyn merched yn benodol.

Seiniau Stampus 3: Ffosfforws 2 gyda Mari Elen, Buddug Roberts ac Osian Wynn Davies

Podlediad a recordiwyd yn fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, wrth i ni lansio ail rifyn Ffosfforws, cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp. Sgwrs yn gyntaf rhwng Iestyn a Mari Elen, golygydd gwadd y rhifyn, am y profiad o guradu’r casgliad a rhai uchafbwyntiau personol o blith y cerddi; cyn i Buddug Roberts ac Osian Wynn Davies ymuno gyda’r panel i ddarllen a thrafod eu gwaith.

Gyda diolch arbennig i Aled Jones o gwmni Y Pod am sicrhau fod y recordiad hwn ar gael i’w ddefnyddio.

Rhybudd cynnwys: Ceir darlleniadau a thrafodaethau yn y rhifyn hwn sy’n cyfeirio at golli plentyn.

Cwrdd Cymraeg – Mis Medi

Cwrdd, gyda Sara Louise Wheeler

Medi 4

16:00 

Cofrestrwch yma

Mae ein sesiwn Cwrdd nesaf yn benodol ar gyfer aelodau DAC sy’n medru’r Gymraeg neu’n awyddus i’w dysgu / ymwneud â hi mewn rhyw ffordd drwy eu gwaith celf! Byddwn ni’n siarad gyda Sara Louise Wheeler.

Byddwn ni’n ystyried lle y Gymraeg o fewn ymarfer creadigol ac i ba raddau mae iaith yn dylanwadu ar ein hymarfer.

Bydd y Cwrdd Cymraeg yn digwydd ar Ddydd Llun, y Medi 4 am 4pm ar Zoom, gyda BSL a chapsiynau caeedig ar gael fel yr arfer. Os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad eraill rhowch wybod i ni! There will also be translation if people who are not as fluent want to make use of that!

Dyma gyfle i ni gwrdd i drafod ein ymarfer, proses, syniadau a’n breuddwydion drwy gyfrwng y Gymraeg mewn modd hwyliog ac anffurfiol. Gadewch i ni groes-beillio!

Pennod 22 – Calon Oer dan Fron o Fraw

Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw hynny’n fodd i ni gyd-destunoli llawer o ddelweddaeth y farwnad? A yw’n mynd yn rhy bell i ddweud bod Gruffydd yn cymharu Llywelyn â nab llai na Iesu Grist ei hun? Ac a yw gwedd ar hanes y bardd hwn – ffaith hanesyddol sy’n syfrdanol o wahanol i’r modd y mae llawer o Gymry yn canfod y berthynas rhwng Gruffydd a Llywelyn – hefyd yn fodd i egluro angerdd anghyffredin y gerdd bwerus hon?

Taith The Gentle Good Tour

Cyhoeddi’r ail daith o gylchdaith newydd PYST a’r Mentrau Iaith

4.10 – Canolfan Dylan Thomas – Abertawe / Swansea (Angharad Jenkins)
5.10 – Yr Hen Farchnad – Llandeilo (Bwca)
6.10 – Y Cwtsh – Pontyberem (Lowri Evans)
13.10 – Clwb y Bont – Pontypridd (Y Dail)
14.10 – Memo – Y Bari / Barry (Parisa Fouladi)
15.10 – Tyn y Tar Tavern – Baglan (Melda Lois)
19.10 – Gwesty Pen y Bryn Hotel – Llanfairfechan (Eve Goodman)
20.10 – Ysgol Gymraeg y Trallwng – Y Trallwng / Welshpool (Iwan Huws)
21.10 – Clwb Criced – Yr Wyddgrug / Mold (Gwilym Bowen Rhys)
22.10 – Tafarn Y Fic – Llithfaen (Gwyneth Glyn a Twm Morys)

Trawsgyweirio | Modulate

Wedi galwad agored poblogaidd, mae Celfyddydau Anabledd Cymru wedi dewis yr 8 Cerddor a’r Gweithwyr Diwydiant Cerddoriaeth Anabl rhwng 18-30 fydd yn rhannu eu hangerdd, sgiliau, anghenion a dyheadau er mwyn helpu creu’r cynllun Datblygu Cerddoriaeth cyntaf ar gyfer Pobl Ifanc Anabl : Trawsgyweirio

Mae’r rhaglen yn rhedeg mewn dwy ran – cyfnod ymgynghori lle fydd y grŵp yn cynllunio rhaglen i siwtio eu diddordebau, ac yna cyfres o weithdai ar y themâu rydym wedi bod yn eu trafod, gan gydweithio â cherddorion ac arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth er mwyn dysgu rhagor. Os hoffech wybod mwy am Trawsgyweirio, neu fod yn rhan o’r cynllun yn y dyfodol, cysylltwch: Rosey@dacymru.com

Dewch i gyfarfod y panel yma!

Eisteddfod Genedlaethol 2023

Rydym wedi cael wythnos gwerth chweil yn yr Eisteddfod. Mae hi wedi bod yn wythnos lawn cymdeithasu, hwyl a chwerthin. Diolch i bob person sydd wedi ein cefnogi drwy roddion.

Mae wedi galluogi i ni fynd i’r eisteddfod eleni. Rydym yn diolch i chi o waelod ein calonnau am y profiad bythgofiadwy hwn.

Caru Darllen: Awduron Pen Llŷn

Cyfle i wrando eto ar ambell sgwrs gyda rhai o awduron Pen Llŷn, yn cynnwys Llyr Titus, Gwenllian Ellis, Ffion Enlli, Casia Wiliam, Aled Hughes, Mared Llywelyn a Llio Maddocks.

Pennod 21 – Dyrchafu, Caru ac Ymladd: Barddoniaeth yn gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu

Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw Brydydd Mawr yn ‘dyrchafu’ neu’n ‘arwyrain’ Owain Gwynedd ac edrychwn hefyd ar farddoniaeth sy’n canolbwyntio ar rôl a hunaniaeth y bardd ei hun. Dychmygwn fod un ohonynt, Gwalchmai ap Meilyr Brydydd, yn strytio’n frolgar fel rapiwr ar lwyfan, a thrafod barddoniaeth gan fab Owain Gwynedd, Hywel, a’i ddiwedd alaethus ef.

Gig Daf Owain

Cerddoriaeth fyw am ddim gyda’r canwr Cymraeg Dafydd Owain. Perfformiad yn y prynhawn – amser i’w gadarnhau!

26/08

15:00

Sachasom – Braf Oedd Byw

Penblwydd hapus!

Diolch yn fawr iawn i Sam Stevens a Sion Teifi Rees AKA Pypi Slysh Productions ac i Lwp am y gronfa fideo cerddorol.

Rhan o gronfa fideos cerddorol Pyst x Lŵp S4C

Podlediad Cylchdro

Croeso i bodlediad Cylchdro, y podlediad sydd am fod yn trafod y mislif yn ei holl ogoniant. O ddyddiau ysgol i’r menopôs. O’r panicio am toxic shock syndrome, i’r nerth ti’n deimlo wrth ymgyfarwyddo gyda dy gylchdro.

Cynrychioli Cymru | Representing Wales 2024-25

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00pm, 28 Medi 2023

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein rhaglen datblygiad proffesiynol 12 mis o hyd, Cynrychioli Cymru, unwaith eto ar agor i geisiadau. Yn ei phedwaredd blwyddyn, bydd y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd â diddordeb mewn ysgrifennu a chreu gwaith ar gyfer oedolion.

Mwy o wybodaeth am sut i ymgeisio yma

Cyrsiau Tŷ Newydd

Ewch i weld cyrsiau Tŷ Newydd yma

Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.

Ein arbenigedd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl. Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos- yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch hyfryd ac ysbrydoledig Tŷ Newydd. Mae cyfranogwyr yn rhoi help llaw yn y gegin, lle mae prydau cartref blasus yn cael eu paratoi gyda chynhwysion lleol.

Mae ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau preswyl ac encilion – yn y Saesneg a’r Gymraeg – mewn amryw o genres, ffurfiau a themâu, yn cynnwys barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol-greadigol, scriptio, ysgrifennu am fyd natur, dylunio, adrodd straeon, ioga a mwy.

Rydym yn dewis ein tiwtoriaid a’n siaradwyr gwadd yn ofalus, gan groesawu rhai o ymarferwyr gorau eu meysydd i Dŷ Newydd pob blwyddyn. Mae rhai o’n cyn-diwtoraid yn cynnwys Carol Ann Duffy, Gillian Clarke, Pascale Petit, Paula Meehan, Mark Cocker, Menna Elfyn, Patrick McGuinness, Kaite O’Reilly, Imtiaz Dharker, Niall Griffiths, Daljit Nagra a Malachy Doyle.

Ein tŷ hanesyddol oedd cartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George ac mae cyffyrddiadau cyfarwydd pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis yn parhau i fod yn amlwg drwy’r safle. Mewn lleoliad tawel rhwng y mynyddoedd a’r môr, dyma’r man perffaith i encilio iddo a bod yn greadigol.

Cynigiwn gyrsiau pwrpasol ac unigryw i grwpiau addysgiadol, gan weithio gyda thiwtoriaid ac athrawon i lunio’r cwrs perffaith ar gyfer eu grŵp. Mae hefyd yn bosib llogi Tŷ Newydd yn breifat ar gyfer cwrs corfforaethol, gwyliau, neu achlysur arbennig.

I bori trwy ein rhaglen gyrsiau cliciwch yma, neu cysylltwch am wybodaeth bellach.

Pennod 20 – Canu Gwleidyddol: Beirdd y Tywysogion

Dechreuwn drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon gan agor cil y drws ar gorff sylweddol o farddoniaeth Gymraeg hynod gain sydd hefyd yn hynod bwysig o safbwynt astudio hanes Cymru. Cawn gyfle i ystyried arwyddocâd Llawysgrif Hendregadredd (y llawysgrif sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf o’r cerddi hyn), gwaith rhyfeddol o ddiddorol gan ei fod yn ffrwyth ymdrech i gofnodi barddoniaeth oes y Tywysogion yn fuan iawn ar ôl i’r cyfnod hwnnw yn hanes Cymru ddod i ben. Edrychwn ar waith y cyntaf o Feirdd y Tywysogion, Meilyr Brydydd, a’r arweinydd yr oedd yn canu mawl iddo, Gruffudd ap Cynan. Dyma gyfle i egluro termau ychydig hefyd (a oes gwahaniaeth rhwng ‘y Gogynfeirdd’ a ‘Beirdd y Tywysogion’, er enghraifft?).

Brwydr y Bandiau: Alis – Llonydd

Mae Alis Glyn yn artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn rhan o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, ac mae “wrth ei bodd bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at berfformio ar Lwyfan y Maes ar bnawn dydd Mercher yn y ‘Steddfod a gwrando ar y tri artist arall”. Mae’n hoff iawn o gerddoriaeth artistiaid fel – Mared, Lizzie McAlpine, Gwilym a The Beatles. 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Brwydr y Bandiau: Tew Tew Tennau – Rho fo’n ôl

Mae Tew Tew Tennau yn fand ifanc o Ddinbych a dywed Eban Elwy Williams, prif leisydd y band mae “Brwydr y bandiau oedd y nod ers i ni ddechrau, ‘da ni’n teimlo’n lwcus iawn i gael y platfform yma i rannu ein cerddoriaeth â chynulleidfa yn y brifwyl.” Maent yn gwrando ar lwyth o wahanol gerddoriaeth fel band, ond mae eu prif ddylanwadau yn dod o gerddoriaeth roc, rap a reggae. 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Gwilym – 05:00

05:00 oddi ar ein hail albwm, ‘ti ar dy ora’ pan ti’n canu’, allan yn swyddogol ar 04/08/23

Diolch i tîm Trigger Happy Creative am eu gwaith yn dod a’r fideo at ei gilydd.

Brwydr y Bandiau: Francis Rees – Pell

Dyma’r ail flwyddyn i Francis Rees o Dywyn, gyrraedd y pedwar olaf, yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, ac yn un arall o griw gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig ac mae’n disgrifio’r gymuned mae’r prosiect yma wedi’i greu fel “un sy’n tyfu, ac yn gymuned sydd yn helpu ei gilydd.” Mae’n disgrifio ei cherddoriaeth fel “dream pop, ond dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth Ewropeaidd ar ôl Eurovision eleni!” 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Brwydr y Bandiau: Moss Carpet – Jugworm

Mae Moss Carpet yn brosiect o Gaernarfon, sydd yn arbrofi gyda gwahanol genres ac mae’n hoff o “arbrofi gyda gwahanol dechnegau a gweld sut mae’n mynd! Y canlyniad yw cymysgedd o weadau sonig…” Mae wedi bod yn creu cerddoriaeth am bum mlynedd, “ar ben fy hun yn fy ystafell wely, doeddwn i byth yn meddwl bysa pobl yn gwrando a mwynhau [fy ngherddoriaeth].” 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Maes B and BBC Radio Cymru are happy to announce the four shortlisted artists in this year’s Battle of the Bands competition. This is the nineteenth year that the competition has been held, and this year fourteen artists or bands applied.

The four finalists are Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet and Tew Tew Tennau.

BRWYDR Y BANDIAU MAES B

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau. 

Yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni oedd Glyn Rhys-James (Mellt), Marged Siôn (Artist ac aelod o Self Esteem), Marged Gwenllian (Y Cledrau + Ciwb), a Siôn Land (Alffa).

Roedd y gystadleuaeth yn un anhygoel eleni, a’r beirniaid wedi cael tasg anodd iawn yn dewis y pedwar uchaf. Dywedodd Marged Gwenllian sy’n fasydd yn Y Cledrau a Ciwb, “Roedd safon eleni’n wych, a nifer fawr wedi ymgeisio, oedd yn gwneud pethau’n anodd i ni, ond roedd hi’n benbleth hyfryd i’w chael.”

Dywedodd Siôn Land drymiwr y band Alffa ddaeth yn gyntaf ym Mrwydr y Bandiau nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017, “Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn un o’r cystadlaethau pwysicaf yn yr Eisteddfod, yn enwedig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Mae’r gystadleuaeth yn galluogi i’r artistiaid i fynd i’r cam nesaf a chael mwy o ymwybyddiaeth ar draws Gymru a thu hwnt! Roedd y gystadleuaeth yn rhan hanfodol o daith Alffa a heb y gystadleuaeth fysa ni’m yn lle ‘da ni rŵan.”

Mae’r pedwar artist wedi recordio sesiynau yn stiwdio Sain ac mae’r perfformiadau i’w gweld draw ar YouTube Maes B.

Cynhelir rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher 9 Awst rhwng 15:30 a 17:50. 

Cylchlythyr i Ddysgwyr

Dyma gyfres achlysurol o gylchythyron wedi ei anelu yn benodol at ddysgwyr. Mae’n gyfuniad o uchafbwyntiau cynnwys AM a gwyobdaeth gyffredinol am y platfform.

Mwynhewch

Awen Bro – Gwyl Car Gwyllt 2023

Wel dyma ni cip olwg i chi o gwyl Car Gwyllt 2023 lle does ddim rhaid fod yn car, yn feic, yn tractor dim ond ychydig bach yn wyllt. 

amrwd – Angharad Jenkins, Patrick Rimes

amrwd (sef raw yn Saesneg) yw albwm cyntaf dau artist sydd ar flaen y gad yn y sîn werin Gymraeg.

A hwythau ymhlith aelodau gwreiddiol y band arobryn CALAN, mae Angharad Jenkins a Patrick Rimes (sydd hefyd wedi sefydlu Vrï) wedi treulio pymtheg mlynedd ar flaen byd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, yn gyson yn plygu a churo’r gerddoriaeth honno i siapiau anghyfarwydd gyda’u dehongliadau blaengar o’r hen repertoire.

Yn sgil pum albwm stiwdio a sawl taith hirfaith ar draws tri chyfandir, mae perthynas gerddorol ddofn wedi cael ei meithrin rhyngddynt, ynghyd â rhannu iaith gerddorol reddfol, a dyhead i glywed yr alawon hynafol hyn fel ag y maent: yn amrwd a heb eu hidlo.

“mae amrwd yn crynhoi sain ein llinynnau, ein lleisiau, ynghyd ag allweddellau ac offerynnau taro. Mae’r cyflwyniad yn gignoeth, wedi’i ddinoethi, yn bur ac yn syml.”

Prynwch CD ‘amrwd’ yma

Firefly commissions translation of multi-authored YA novel The Five

In this town…

Mae Penny Thomas, cyhoeddwr y wasg plant a phobl ifanc, Firefly Press, wedi sicrhau’r hawliau Saesneg Byd-eang ar gyfer nofel arobryn i bobl ifanc The Five (Y Pump) gan gyhoeddwyr Y Lolfa.

Cyhoeddwyd The Five yn wreiddiol yn Gymraeg fel cyfres o bum nofel a arweinwyd gan yr awdur a’r cynhyrchydd Elgan Rhys, gan ddefnyddio proses ysgrifennu arloesol a unodd awduron blaengar â chyd-awduron ifanc â phrofiad bywyd o’r pwnc. Mae’r cyfieithiad yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan un o’r awduron gwreiddiol, Mared Roberts, gyda mewnbwn gan yr awduron eraill.

Mae’r nofel yn canolbwyntio ar gyfeillgarwch pump o arddegwyr gwahanol iawn sy’n cael eu taflu at ei gilydd yn eu hysgol yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn brwydro dros ei gilydd ac am eu lle yn y byd, a hynny wrth wynebu cythruddedd ac amgylchiadau personol heriol. Gan gofleidio a gwyrdroi naratifau oedolion-ifanc confensiynol, mae The Five yn ddarlun unigryw a chyseiniol o fywyd pobl ifanc yng Nghymru heddiw.

Cyhoeddwyd pob nofel yn wreiddiol gyda phrolog gan enillydd Medal Yoto Carnegie 2023 Manon Steffan Ros, a oedd yn fentor creadigol ar y gyfres wreiddiol. Darllenwch addasiad llawn o brolog Manon yma


‘Cawsom ein swyno a’n plesio gan y broses radical a’r brwdfrydedd y tu ôl i The Five,’ meddai cyhoeddwr Firefly, Penny Thomas, ‘a rydym yn falch iawn y byddwn yn gallu dod â’r nofel hon i ddarllenwyr Saesneg eu hiaith.’

‘Rwy’n falch iawn o gael cydweithio â Firefly i ehangu byd y pum cymeriad yma a chroesawu mwy o ddarllenwyr i’w bywydau,’ meddai Elgan Rhys. ‘Arbrawf oedd proses gydweithredol y gyfres wreiddiol, ac mae wedi bod yn braf gweld darllenwyr a’r diwydiant yn ei chofleidio. Rwy’n sicr y bydd addasiad Mared yn parhau i ysbrydoli pobl ifanc, yn enwedig y rhai nad ydynt efallai wedi arfer gweld eu profiadau’n cael eu portreadu’n awthentig.’

A dywedodd Darren Chetty o Books for Keeps, ‘Rwyf wrth fy modd y bydd Y Pump yn cael ei gyfieithu i’r Saesneg. Mae The Five yn rhoi darlun o Gymru fodern, amrywiol ac fe’i grëwyd drwy broses arloesol, gydweithredol y gobeithiaf y gellir ei fabwysiadu’n ehangach mewn llenyddiaeth plant a phobl Ifanc. Mae’n stori aml-bersbectif a ysgrifennwyd gan awduron ifanc sydd wedi ymgolli yn genre a gwirionedd dod yn oedolyn yn yr oes sydd ohoni.’

Bydd y nofel yn cael ei chyhoeddi yn 2025.

Dysgwch fwy am ‘Y Pump’ yma