Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 24 – Meddwi’n Niwrbwrch: Dafydd ap Gwilym (rhan 1)

Llenyddiaeth

Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym.
Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mewn sawl ffordd, ac mae’n bosib awgrymu mai fo oedd ‘y dyn iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn’, yn fardd talentog a beiddgar ar adeg pan oedd cymdeithas yn newid a phosibliadau barddol yn ymagor o’r herwydd.
Mae’n cael ei gofio’n bennaf heddiw am ei ganu search a natur (pwnc ein pennod nesaf!). Mae canrifoedd o Gymry wedi dotio at ei ffresni, ei newydd-deb, ei hiwmor a’i feiddgarwch ond nodwn ei fod hefyd yn fardd traddodiadol ar un wedd, yn canu mawl ac yn cyfansoddi cerddi crefyddol dwys yn ogystal â’r gwaith hwyliog a ffraeth a gysylltir â’i enw heddiw. Craffwn ar un o’i gywyddau, sef cân o fawl i dref Niwbwrch. Awgryma’r gerdd hon fod Dafydd yn claddu medd yn y dref – yn wir, ‘mynwent medd Môn’ oedd Niwrbwrch yn ei eiriau’i hun! – ac mae’r cywydd hwyliog hwn hefyd yn sôn am yfed gwin, cwrw a methyglyn (medd wedi’i drwytho â pherleisiau).

RHANNWCH