Ar ddechrau eleni, cyhoeddodd PYST (cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig) a’r Mentrau Iaith Cenedlaethol fwriad i bartneru er mwyn lansio cylchdaith reolaidd i ddod â cherddoriaeth fyw Gymraeg i ardaloedd mwy gwledig ac ardaloedd nad oedd yn cynnal gigs byw bellach. Ym mis Ebrill, gyda chefnogaeth cynllun Noson Allan gan Gyngor y Celfyddydau eleni, digwyddodd y daith gyntaf gyda HMS Morris a gwesteion yn perfformio mewn deg ardal dros Gymru.
Heddiw rydym yn falch o gyhoeddi manylion ail daith y gylchdaith fydd yn gweld The Gentle Good yn perfformio mewn deg ardal arall yn ystod mis Hydref gyda chefnogaeth wahanol ymhob gig. Bydd y daith hon eto yn cael ei chefnogi gan gynllun Noson Allan.
Bydd The Gentle Good yn perfformio yn:
4.10 – Cartref Dylan Thomas, Abertawe (gyda Angharad Jenkins)
5.10 – Yr Hen Farchnad, Llandeilo (gyda Bwca)
6.10 – Y Cwtsh, Pontyberem (gyda Lowri Evans)
13.10 – Clwb y Bont, Pontypridd (gyda Y Dail)
14.10 – Memo, Y Barri (gyda Parisa Fouladi)
15.10 – Tyn y Twr Tavern, Baglan (gyda Melda Lois)
19.10 – Gwesty Pen y Bryn, Llanfairfechan (gyda Eve Goodman)
20.10 – Ystafell Gymunedol Ysgol Gymraeg y Trallwng, Y Trallwng (gyda Iwan Huws)
21.10 – Clwb Criced, Yr Wyddgrug (gyda Gwilym Bowen Rhys)
22.10 – Tafarn Y Fic, Llithfaen (gyda Gwyneth Glyn a Twm Morys)
Tocynnau ar gael yma.
Wrth gyhoeddi’r daith newydd, dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST: “Mae’n wych gweld yr ail daith yn datblygu ar lwyddiant y cyntaf ac yn mentro i fwy o ardaloedd a chanolfannau newydd fel bod ymgysylltiad â cherddoriaeth Gymraeg yn parhau i dyfu.”
Ychwanegodd Tomos Owen ar ran y Mentrau Iaith: “Roedd yn wych i weld cerddoriaeth fyw iaith Gymraeg yn ymweld ag amrywiaeth o ardaloedd gwahanol ar draws Cymru ar y daith gyntaf. Gyda’r ail daith yn ymweld â Mentrau a lleoliadau newydd, edrychwn ymlaen at greu mwy o gyfleoedd i bobl mwynhau’r celfyddydau iaith Gymraeg ar draws y wlad.”
Ychwanegodd Gareth Bonello (The Gentle Good): “Dwi wrth fy modd gyda’r cyfle arbennig yma i rannu fy ngherddoriaeth ar hyd a lled y wlad. Mae cerddoriaeth byw yn rhan bwysig o’r clytwaith cymdeithasol sy’n cynnal ein cymunedau ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio i gynulleidfaoedd newydd mewn lleoliadau sy’n dra gwahanol i’r arfer.”
Bydd The Gentle Good yn rhyddhau ei albwm newydd ‘Galargan’ drwy Bubblewrap Collective ar Fedi 4ydd, cyn perfformio ar hyd a lled Cymru