Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw Brydydd Mawr yn ‘dyrchafu’ neu’n ‘arwyrain’ Owain Gwynedd ac edrychwn hefyd ar farddoniaeth sy’n canolbwyntio ar rôl a hunaniaeth y bardd ei hun. Dychmygwn fod un ohonynt, Gwalchmai ap Meilyr Brydydd, yn strytio’n frolgar fel rapiwr ar lwyfan, a thrafod barddoniaeth gan fab Owain Gwynedd, Hywel, a’i ddiwedd alaethus ef.