Tymor yr Afalau – Nia Morais

Gwyliwch Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025, yn adrodd ei cherdd ‘Tymor yr Afalau’.
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.
I Don’t Want to Write a Poem – Alex Wharton

Gwyliwch Children’s Laureate Wales 2023-2025, Alex Wharton, yn darllen ei gerdd ‘I don’t want to write a poem’.
Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth.
Mared Llywelyn a Buddug Roberts
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?
Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.
Heddiw, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Mared Llywelyn a Buddug Roberts.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais ac Anastasia Magloire

Betty: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais ac Anastasia Magloire yw Llyfr y Mis i Blant mis Tachwedd.
GIG KLUST 03

Pleser cyhoeddi y bydden ni’n dychwelyd i Victoria Dalston ar 01 Rhagfyr gyda’r arbennig Gwilym, Sywel Nyw, Talulah + DJ PalmerViolet. Tocynnau ar werth nawr!
Pencerdd

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cyfle i bum bardd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr trwy ein rhaglen newydd sbon, Pencerdd, a gynigir mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Barddas.
Dysgwch fwy am yr alwad a’r broses ymgeisio yma!
Dyddiad cau: 1:00pm, Dydd Mercher 3 Ionawr 2024.
Pennod 28 – ‘Bawddyn!’: Ymrysonau’r Cywyddwyr

Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau.
Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadarnhau enw da, er mwyn trafod agweddau ar eu crefft (a dadlau yn eu cylch!), ac er mwyn hwyl neu adloniant – ond mae’n rhaid i ni ddefnyddio’n dychymyg (ac ychydig o theory anthropolegol!) er mwyn deall y berthynas rhwng y cerddi rhyfeddol hyn a’r cyd-destun(au) a roes fod iddynt. Trafodwn gwestiwn hynod ddiddorol arall hefyd: pam bod bardd yn galw enwau mor hyll ar ei wrthwynebydd, a hynny mewn trafodaeth am bynciau dyrchafedig fel ffynhonnell yr awen a phriod waith y bardd?
Mae teulu’n bwysig!
Pwy sydd ddim yn hoff o’r sialens drawsnewid? Troeon cynta mewn sodlau, wigs a cholur a llwyth o straeon twym-galon. Hefyd, mae yna westai arbennig ar y podlediad yr wythnos yma sy’n coroni’r cyfan. Beth sydd ddim i’w hoffi? Wel, dipyn go lew o bethau yn ôl Mari a Meilir.
Eluned Gramich a Sara Borda Green
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?
Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.
Heddiw, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Grug Muse fydd Eluned Gramich a Sara Borda Green.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+

Blodeugerdd LHDTC+ flaengar a chyffrous yw Curiadau, a’r cyntaf o’i math yn yr iaith Gymraeg. Gareth Evans-Jones yw’r golygydd deheuig sydd wedi casglu’r amrywiaeth trawiadol o dalent LHDTC+ ynghyd. Yn y casgliad arbennig hwn fe ffeindiwch ddarnau gan feirdd, awduron a dramodwyr.
Prynwch eich copi yma
Y Gragen – Casia Wiliam

Ond ni ddes adre’n waglaw, o’r gwyliau ger y lli, roedd cragen yn fy mhoced a rhywbeth ynddi hi. Dyma stori mewn mydr ac odl am blent yn o’r ddinas fawr yn ymweld â thraeth mewn pentref ar lan y môr am y tro cyntaf. Yno mae’r plant yn chwerthin wrth fwyta hufen iâ, y gwymon yn gwichian a byd natur yn canu’n un. Mae cod QR yng nghefn y llyfr sy’n arwain at adnoddau addysg ar-lein.
Prynwch eich copi yma
Gwawrio – Tegwen Bruce Deans

Cyfrol o gerddi gan fardd newydd, Tegwen Bruce-Deans. Mae’n cynnwys cerddi sy’n trafod natur, perthnasoedd, pobl a phob math o bethau eraill. Y mae Tegwen yn rhan o’r sîn farddoniaeth gyda beirdd ifanc beiddgar ac mae ganddi lais aeddfed sy’n amlygu ei hun yn y gyfrol fechan hon. Cynhwysir ei dilyniant o gerddi ‘Rhwng Dau Le’ a enillodd iddi gadair Eisteddfod yr Urdd 2023.
Prynwch eich copi yma!
Anwyddoldeb – Elinor Wyn Reynolds

Cyfrol gyntaf o gerddi gan Elinor Wyn Reynolds. Os mai taith yw bywyd, yna cyfrol yw Anwyddoldeb sy’n cerdded llwybr bywyd gan sylwi ar y profiadau a’r dewisiadau ddaw i’n rhan, ac aros weithiau ar hyd y ffordd.
Gweld Llun o Glywed Llinell – Rhys Dafis

Cyfrol o gerddi gan Rhys Dafis. Dyma gasgliad sy’n hel meddyliau am nifer fawr o themâu yn amrywio o natur, teulu a chymdeithas.
Prynwch eich copi yma!
Pigion Y Talwrn

Dyma’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres boblogaidd o’r gorau o gynnyrch ‘Talwrn y Beirdd’ ar BBC Radio Cymru. Mae’r Meuryn, Ceri Wyn Jones yn dewis y cerddi hynny sydd wedi aros yn y cof, y rhai sydd wedi codi gwên a’r rhai sydd wedi gwneud i ni feddwl.
Prynwch eich copi yma!
Podlediadau llyfrau

Oes gyda chi diddordeb mewn llyfrau Cymraeg neu ysgrifennu?
Dyma’r podlediadau cyfredol sy’n trafod llyfrau, awduron ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Sgwrs Fflur Dafydd
Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Fflur Dafydd.
Awdur sydd yn ysgrifennu nofelau ac ar gyfer y sgrin.
Cawn glywed profiadau Fflur fel awdur, hanes The Library Suicides a ‘tips’ ar gyfer sgwennwyr newydd.
Llŷr Titus a Peredur Glyn
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?
Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.
Heddiw, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Llŷr Titus a Peredur Glyn.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Caru Darllen: Guto Dafydd a Malachy Edwards
Guto Dafydd a Malachy Edwards sy’n ymuno â Mari Sion i drafod llyfrau.
Ma’r Snatch Game wedi cyrraedd!
Y bennod mae PAWB yn edrych ymlaen amdani. Y dasg sy’n gwthio’r Cwîns i’r eithaf. Ond pa gymeriad oedd eich hoff un chi? Oedd Mrs Doubtfire yn gweithio efo acen o’r ‘deep south’? Ddylie Lady C fod wedi gadael y jwngwl? Mari a Meilir sydd wedi bod yn trafod unwaith yn rhagor, gyda digon o caclo bob hyn a hyn.
Pennod 27 – Llais Cymraes: Gwerful Mechain

Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif.
Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith gan feirdd benywaidd fel Gwerful Mechain. Nodwn hefyd fod Gwerful wedi’i chofio gan rai fel ‘bardd masweddus’ yn bennaf – ysbrydebu anffodus – gan fod ei barddoniaeth yn mynd i’r afael â rhychwant o themâu, gan gynnwys crefydd. Edrychwn yn weddol fanwl ar ei chywydd gorchestol i’r Iesu yn ei ddioddefaint. Cawn gyfle i ystyried barddoniaeth o fath gwahanol iawn ganddi, gwaith sy’n trafod rhyw o safbwynt y fenyw ac yn dychanu canu serch y beirdd gwrywaidd.
Crow Face, Doll Face by Carly Holmes

An uncanny, brooding tale of domestic disturbances, dysfunctional families, flawed mothers, and unfulfilled dreams. “Beautifully written, tender and terrifying.” Una Mannion “Deliciously unsettling… delicately peels away the layers of ordinary family life to reveal dark truths underneath.” Catrin Kean “Unflinching in its authentic and raw portrayal of the complexities of motherhood.” Philippa Holloway Annie surrendered […]
Alun Parrington
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar
lefel corff, cymuned a byd?
Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru
greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o
waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau
hyn.
Y sgwennwr comedi, Alun Parrington, sy’n darllen ac yn datgymalu darnau
o’i waith heddiw, yng nghwmni Grug Muse.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Yr Etholiad Cyffredinol Prydeinig yng Nghymru

DARLLEN AM DDIM
Fydd dim rhaid galw’r etholiad nesaf tan 17 Rhagfyr 2024, ond pryd bynnag y’i cynhelir caiff ei ymladd dan amgylchiadau newydd sbon yng Nghymru. Bydd y gostyngiad o 20% yn nifer ein hetholaethau yn cael cryn effaith ar y map gwleidyddol. Ond nid dyna’r ystyriaeth bennaf ym mhob etholaeth.
Amcangyfrif Presennol
Ma’ hi tu ôl i ti!
Mae Calan Gaeaf BRON ar ben felly mae hi’n saff i ni ddweud y gair na. Nadolig! A phwy sydd ddim yn hoff o bantomeim dros gyfnod yr Ŵyl? Ond sgwn i beth oedd barn Mari a Meilir o ‘Pant-Oh She Better Don’t’? Oedden nhw’n gwgu neu’n dathlu wrth weld y gwisgoedd ar y runway?
Strange Tales by Daniel Morden

Read the first chapter here: Available now from your local bookshop.
Adlais 1 Live

Mae Connor Morgans yn cyflwyno:
Hemes
Half Happy
Liam J Edwards
Mynediad am ddim
The Moon, Caerdydd
09/09/2023
7.45pm
18+
Dylan Huw a Talulah Thomas
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?
Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd sbon gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.
Yn y bennod hon, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Grug Muse fydd Dylan Huw a Talulah Thomas.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru
On Value, Pay and Problems of Capitalism: Poets Talk About the Challenges of Economic Stress
On Value, Pay and Problems of Capitalism: Poets Talk About the Challenges of Economic Stress
Hunan ofal wrth sgwennu
Mae Manon wedi dychwelyd a dan ni’n mynd ar daith darllen o Rufain i
Albania. Hunan ofal wrth sgwennu yw’r thema wrth i ni drafod sut yr ydyn
yn edrych ar ôl ein gilydd trwy gyfnodau anodd.
Mae ‘na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
The General of the Dead Army – Ismail Kadare
Y Fawr a’r fach – Siôn Tomos Owen
Pwy yw Moses John – Alun Davies
Menopositif – amrywiol gyfranwyr
Rhifyn cyntaf y cylchgrawn Hanes Byw
Gladiatrix – Bethan Gwanas
A World Without Email – Cal Newport
Y Nendyrau – Seran Dolma
The Island – Ragnar Jónasson
Shade Garden – Beth Chatto
Y Gwyliau – Sioned Wiliam
The Folklore of Wales: Ghosts – Delyth Badder, Mark Norman
Sêr y Nos yn Gwenu – Casia Wiliam
Salem – Haf Llywelyn
Paid a Bod Ofn – Non Parry
Pennod 26 – Dychan, Hiwmor a Grym Celf: Dafydd ap Gwilym (rhan 3)

Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn eang iawn eu hapêl.
Edrychwn ar hunan-ddychan Dafydd yn y cywyddau ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Merched Llanbadarn’. Trafodwn hefyd y gerdd a gafodd ei sensro am flynyddoedd lawer, sef ‘Cywydd y Gal’. Ac ystyriwn ei ymddiddan â’r ‘Brawd Llwyd’, cerdd ryfeddol sy’n cyflwyno fersiwn syfrdanol o fodern o Gristnogaeth ac sy’n amddiffyn yr union fath o ganu serch a gysylltir â Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn gerdd sy’n tystio i’r ffaith bod celf o safon uchel yn gallu dylanwadu ar ymddygiad pobl.

Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf

Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf yw Llyfr y Mis, mis Hydref.
Dros 60 o chwedlau gwerin a gwybodaeth am arferion gwerin Cymru, yn ôl eu hardal, gan gynnwys Cantre’r Gwaelod (Ceredigion), Nant Gwrtheyrn (Gwynedd), Gwenfrewi (Fflint) a marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri. Mae’r gyfrol hefyd yn cyfeirio at hen arferion y Cymry fel canu calennig, y Fari Lwyd, Gwaseila, Hela’r Dryw a’r Gaseg Fedi.
Wedi eu hysgrifennu’n ddisglair gan yr awdur toreithiog Robin Gwyndaf gyda darluniadau lliw gan Margaret Jones.
Dyma flas o’r gyfrol:

Cwymp y Cwîns Buddugol
Yn y bennod fwya dramatig o’r gyfres hyd yma, ar ochr pwy ydych chi? Wrth i’r dair cwîn sydd eisoes wedi ennill ddisgyn i’r gwaelod, mae’r tensiwn yn tasgu rhwng Banksie, Cara Melle a Vicky Vivacious.

Marged Elen a Leo Drayton
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?
Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.
Yn y bennod hon, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Marged Elen a Leo Drayton.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Marged Elen a Leo Drayton
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?
Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.
Yn y bennod hon, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Marged Elen a Leo Drayton.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Swansea Fringe Abertawe – Uchafbwyntiau Founders & Co 2023
Oes gen ti ick?
Yn y bennod yma, mae’r dasg grwp pop yn codi nifer o atgofion i Mari a Meilir. Y platforms, y posters a’r girl power! Ond pa grwp roddod yr “ick” i “yum” y ddau? ‘Sgwn i pa cwîn ddeniadol sydd wedi rhoi dipyn o benbleth i Meilir, a beth sy’n achosi i’r ddau ddweud “weithiau ni’n cytuno a weithiau ni ddim” am y tro cyntaf y gyfres yma?

Gwledd y Nadolig | Festive Reads

Chwilio am anrhegion Nadolig?
Mae Gwledd y Nadolig, blas o’r llyfrau gwych o Gymru fydd ar gael o’ch siop lyfrau leol y gaeaf hwn ar gael nawr.
Galwch draw i’ch siop lyfrau leol i dderbyn eich copi yn rhad ac am ddim!
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol, YMA

Pennod 25 – Caru yn y Coed: Dafydd ap Gwilym (rhan 2)

Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed’, a’r bardd yn cyfarfod â’i gariad ym myd natur yn bell o hualau cymdeithas (ac yn bell o ‘eiddig’ ar adegau, pan fydd ei gariad yn wraig briod!). Er nad ydym yn ateb y cwestiwn astrus hwn, rydym yn ei godi o leiaf: a oedd y cariadon sy’n ganolbwynt i gynifer o gywyddau Dafydd yn ferched go iawn? Cewch glywed am y llatai hefyd, y negesydd serch y mae’r bardd yn ei gomisynu.

In Conversation with Carly Holmes

e live falls far short of the life we planned.
FORTÉ PROJECT 2023-24 APPLICATIONS OPEN NOW!

CEISIADAU AM BROSIECT FORTÉ AR AGOR NAWR! Ydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol yng Nghymru? Ydych chi rhwng 16-28 oed? Ydych chi am ddatblygu fel artist? Yna rydyn ni eisiau clywed chi! Ewch i’n bio-ddolen i wneud cais i fod yn rhan o’r grŵp nesaf o artistiaid Forté