Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau.
Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadarnhau enw da, er mwyn trafod agweddau ar eu crefft (a dadlau yn eu cylch!), ac er mwyn hwyl neu adloniant – ond mae’n rhaid i ni ddefnyddio’n dychymyg (ac ychydig o theory anthropolegol!) er mwyn deall y berthynas rhwng y cerddi rhyfeddol hyn a’r cyd-destun(au) a roes fod iddynt. Trafodwn gwestiwn hynod ddiddorol arall hefyd: pam bod bardd yn galw enwau mor hyll ar ei wrthwynebydd, a hynny mewn trafodaeth am bynciau dyrchafedig fel ffynhonnell yr awen a phriod waith y bardd?