Trysor Gwent 2022

Fel rhan o gynllun Pontio Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7 Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, mae’r ysgolion o fewn y clwstwr wedi bod yn cydweithio i greu Sioe Gerdd am ein hardal a’n cynefin.
Yn dilyn gweithdai ymhob un ysgol roedden ni’n hynod ffodus i fedru ariannu cyfansoddwyr, cyfarwyddwyr a sgriptwyr proffesiynol i ddod â syniadau’r plant yn fyw ar gyfer y llwyfan. Bu’r bardd a’r dramodydd Gruffydd Owen yn ‘sgwennu’r sgript a’r geiriau ar gyfer y caneuon ac fe gyfansoddwyd y caneuon gan Dyfan Jones ac yna fe ddaeth y plant a’r cyfan yn fyw ar y llwyfan.
Roedd y plant yn llawn cyffro yn dysgu caneuon newydd, perfformio gyda’i gilydd a dod i ’nabod plant fydd yn eu cwmni ym mlwyddyn 7 yng Ngwent Is Coed. Perfformiwyd y sioe ar yr 8fed o Orffennaf yn Theatr Glan yr Afon a dyma i chi recordiad i fwynhau gyda’ch teuluoedd.
Span Arts present outdoor Shakespeare at Lampeter House: A Midsummer Night’s Dream

Celfyddydau Span yn cyflwyno Shakespeare yn yr awyr agored yn Lampeter House: A Midsummer Night’s Dream Mae Celfyddydau Span yn falch iawn o gyhoeddi fod Cwmni Theatr y Festival Players yn dychwelyd i leoliad hudolus Lampeter House i ddathlu blwyddyn arall o Shakespeare yn yr awyr agored. Hanes pedwar o gariadon ifanc sy’n cael eu lapio ym mreichiau breuddwydiol coedwig dan hud a geir yn A Midsummer Night’s Dream. Yma mae […]
Anthem | Gorffennaf 20 – 30 July
Pedwar rhanbarth. Pedair cân. Un wobr. Ymunwch â ni’n fyw yn y stiwdio ar gyfer rownd derfynol Anthem, cystadleuaeth ganu deledu (ffuglenol!) fwya’r genedl. Bydd peiriannau gwynt. Bydd newidiadau cywair. Bydd dadlau di-ri ar Twitter. Dyma gomedi gerddorol Gymraeg newydd a fydd yn codi gwên ymhell ar ôl canu’r nodyn olaf. Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru Ysgrifennwyd […]
Rydym Ni’n Tanio’r Dychymyg/We Fire Imagination: Hamed and Hessam Amiri
Siaradom â Hamed a Hessam Amiri am eu taith i fyd cynhyrchu theatr, a dod â hanes anhygoel eu teulu, The Boy with Two Hearts, o’r dudalen i’r llwyfan.
Yn dilyn tymor agoriadol yn 2021 pan werthwyd pob tocyn, mae The Boy with Two Hearts yn dychwelyd i Gaerdydd cyn teithio i’r National Theatre yn Llundain.
Mae The Boy with Two Hearts yn gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru.
Anthem Trailer
Anthem
Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru
20 Gorffennaf – 30 Gorffennaf 2022
Ysgrifennwyd gan Llinos Mai a chyfansoddwyd gan Llinos Mai a Dan Lawrence
Pedwar rhanbarth. Pedair cân. Un wobr. Â gwlad y gân yn gwylio o’u soffas, pwy ddaw i’r brig? Ymunwch â ni’n fyw yn y stiwdio ar gyfer rownd derfynol Anthem, cystadleuaeth ganu deledu fwya’r genedl.
Wrth i’r cystadleuwyr o bob cwr o Gymru baratoi i frwydro i gipio’r teitl, mae’r ddrama a’r doniolwch yn datblygu – ar yr awyr a thu ôl i’r llen. Ydyn nhw ishe’r enwogrwydd? I gael eu derbyn? Neu dim ond tlws arall i roi ar ddreser Mam?
Dyma gomedi gerddorol Gymraeg newydd a fydd yn codi gwên ymhell ar ôl canu’r nodyn olaf.
10 Minute Musicals in Rhondda Cynon Taf- part of the QueerWay project

Mae Sioeau Cerdd Cwta 2022 gan Leeway yn cefnogi cerddorion proffesiynol LDHTC+
Mae Sioeau Cerdd Cwta 2022 gan Leeway, yn gynllun datblygiad proffesiynol i gefnogi cerddorion proffesiynol LDHTC+ gyda cysylltiad i ardal Rhondda Cynon Taf er mwyn cyfansoddi theatr gerdd.
Cefnogwyd gan PRS Foundation, Theatrau RCT a Cyngor Celfyddydau Cymru.
Wales Millennium Centre | Canolfan Mileniwm Cymru

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy greu ein cynyrchiadau theatr, gwyliau a phrofiadau digidol ein hunain – yn ogystal â churadu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns a chabaret. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, […]
⭐ HIJINX UNITY FESTIVAL | GŴYL UNDOD HIJINX ⭐ 2022 Trailer
Gŵyl Undod Hijinx yw un o’r gwyliau celfyddydau anabledd cynhwysol mwyaf yn Ewrop a’r unig un o’i bath yng Nghymru…ac rydyn ni wedi paratoi rhaglen lawn ar gyfer ein 10fed flwyddyn! Bydd 12 diwrnod o berfformiadau, yn dwyn ynghyd rhai o’r enghreifftiau gorau o gelfyddydau a theatr anabledd a chynhwysol o bob rhan o’r byd i’w harddangos yma yng Nghymru.
3 ardal yng Nghymru | 7 lleoliad | 150+ perfformiad | Yn cynnwys dros 40 dangosiad ffilm
Am y tro cyntaf, bydd Gŵyl Undod Hijinx yn cynnwys Gŵyl Ffilmiau, a fydd yn arddangos rhai o’r enghreifftiau diweddar gorau o waith ffilm cynhwysol o Gymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt. Gallwch ymuno â ni ar-lein hefyd trwy ein platfform digidol newydd, Hijinx Mobile, mewn partneriaeth ag Escena Mobile a British Council. Byddwch yn barod ar gyfer llond lle o theatr, dawns, comedi, ffilm, theatr stryd naid a chynhyrchiad hybrid newydd cyffrous.
Caerdydd: 16 – 26 Mehefin
Bangor: 28 – 29 Mehefin
Llanelli: 1 -2 Gorffennaf
Archwiliwch y dudalen Beth sy’ ’Mlaen i weld y rhaglen lawn; porwch yn ôl genre neu yn ôl lleoliad i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi
Maniffest / Hijinx
Yn ddiweddar, dychwelodd aelodau o Academi Hijinx a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) i ddyfeisio theatr fyw wyneb-yn-wyneb, i gyd-greu gwaith cynhwysol newydd mewn partneriaeth. Wrth ddod ynghyd wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf ers cychwyn y cyfyngiadau ymbellhau cymdeithaol, cymerodd yr 8 person ifanc ran mewn prosiect pedwar diwrnod yn llawn creadigedd a chrefft llwyfan. Dan arweiniad Ben Pettit-Wade (Cyfarwyddwr Creadigol, Hijinx), datblygodd aelodau’r cast ddarn gwreiddiol o theatr yn seiliedig ar syniadau a straeon a awgrymwyd gan yr aelodau eu hunain.
VIEWING COPY – Matinee/Perfformiad Prynhawn : How To Be Well In A World That Is Sick? | Sut i Fod Yn Iach Mewn Byd Sydd Yn Sâl? –
Rhybudd:
Gall peth o gynnwys y sioe hon achosi tramgwydd neu ofid. Byddwch yn ymwybodol y ceir cyfeiriadau at drais rhywiol a theuluol, iselder, ôl-fflachiau, hunanladdiad, PTSD, trawma, a phroblemau iechyd meddyliol eraill. Pe hoffech gael gwybodaeth fwy penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni a gofyn.
Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r materion hyn, ceir cymorth a gwybodaeth ddefnyddiol yn y llefydd canlynol:-
www.newpathways.org.uk neu dros y ffôn ar 01685 379 310
www.westwalesdas.org.uk
Llinel Gymorth Argyfwng 24 Awr 01970 625585 or 01239 615385
Llinell Gymorth Live Fear am ddim 0808 8010 800
www.samaritans.org neu dros y ffôn ar 08457 90 90 90
www.mentalhealth.org.uk
www.aber.ac.uk/en/student-support
Matinee/Perfformiad Prynhawn : How To Be Well In A World That Is Sick? | Sut i Fod Yn Iach Mewn Byd Sydd Yn Sâl?
Rhybudd:
Gall peth o gynnwys y sioe hon achosi tramgwydd neu ofid. Byddwch yn ymwybodol y ceir cyfeiriadau at drais rhywiol a theuluol, iselder, ôl-fflachiau, hunanladdiad, PTSD, trawma, a phroblemau iechyd meddyliol eraill. Pe hoffech gael gwybodaeth fwy penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni a gofyn.
Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r materion hyn, ceir cymorth a gwybodaeth ddefnyddiol yn y llefydd canlynol:-
www.newpathways.org.uk neu dros y ffôn ar 01685 379 310
www.westwalesdas.org.uk
Llinel Gymorth Argyfwng 24 Awr 01970 625585 or 01239 615385
Llinell Gymorth Live Fear am ddim 0808 8010 800
www.samaritans.org neu dros y ffôn ar 08457 90 90 90
www.mentalhealth.org.uk
www.aber.ac.uk/en/student-support
Podlediad Ar y Dibyn Podcast

Podlediad yn trafod dibyniaeth a’r effaith mae sesiynau creadigol Ar y Dibyn yn eu cael ar unigolion sydd wedi neu sydd yn profi dibyniaeth.
Trwy sgyrsiau, myfyrdodau ac ymarferion creadigol, mae Mari Elen ac Iola Ynyr yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am brosiect Ar y Dibyn, a lledaenu’r neges bod creadigrwydd yn gallu helpu unigolion ddygymod â phoen a thrawma. Nid gwendid ydy dibyniaeth, ond symptom.
Milky Peaks (Trailer)
Sioe gerdd newydd hynod ddoniol.
Ym mynwes Eryri mae tref Milky Peaks yn swatio: yn hyfryd o Gymreig a’r pebble-dash ym mhob man yn sgleinio. Mae’n lle gwych i fyw ynddo. Gan fwyaf.
Mae Dewi, y derbynnydd gwych yn y gwesty, newydd ddod allan ac mae’n dyheu am fod yn arbennig. Mae’r Fam yn caru Cymru a’i theulu, biti na fydden nhw’n gwybod ei bod hi yno. Mae’r frenhines ddrag Pariah Carey yn boddi ei gorffennol mewn absinthe gyda swarfega i ddilyn; tra mae Linda yn rhedeg Canolfan y Celfyddydau gyda dwrn haearn, yn hynod ofnus am gynnal unrhyw beth od yno. Ac Alun John, arwr y clwb rygbi a pherchennog tir pwdr sy’n filiwnydd? Dim ond eisiau i bawb fod yn hapus mae o.
Mae’n dref Gymreig normal.
Ond pan mae’n cael ei henwebu yn “Dref Orau Prydain” gan sefydliad tywyll, amheus, mae popeth mae’n sefyll drosto’n wynebu perygl o gael ei golli. Oes posib achub enaid y dref?
Sioe gerdd newydd ddisglair wedi’i hysgrifennu gan yr awdur / cyfansoddwr arobryn o Gymru, Seiriol Davies, ac mae’n serennu ynddi hefyd wrth iddo ailymuno a’r tîm o How To Win Against History. Gallwch ddisgwyl hiwmor cyflym, baledi pwerus, coreograffi craff a chaneuon bachog a fydd yn aros yn y cof am amser hir.
Noson berffaith ar gyfer pobl sy’n hoff o sioeau cerdd neu gomedi!
Theatr Troed-y-rhiw

Y ddrama Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Nod y cwmni yw porthi meddwl a dychymyg cymdogaethau Cymraeg trwy ymddiried yng nghreadigrwydd chwaraewyr a chynulleidfaoedd yn ddi-wahan.
CULT Cymru

Mae CULT Cymru yn rhaglen ar y cyd rhwng yr undebau yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru. Fe’i cynhelir gan Bectu yn gweithio mewn partneriaeth ag Equity, Undeb y Cerddorion, Urdd Awduron Prydain Fawr a TUC Cymru. Ein Gweithgareddau: Sgiliau Busnes (Gweithio’n Llawrydd, Marchnata a Hyrwyddo, Ysgrifennu cais, Rhwydweithio, CVs…) Sgiliau Digidol (Creu […]
Moyo // Bywyd

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre yn Malawi yn Malawi wedi cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf i archwilio ffyrdd gwahanol o gyd-greu ar draws blatfformau digidol. Yn dilyn cyfnod o ymchwilio a datblygu, ysgrifenodd, ffilmiodd a pherffofrmiodd criw o bobl ifanc gerdd ar lafar yn defnyddio ffôn symudol fel teclun digidol.
Wedi’i hwyluso gan gan egin gyfarwyddwyr o Gymru a Malawi, mae’r grwp wedi gweithio gyda animeiddwyr, hyfforddwyr llais, coreograffwyr a gwneuthurwyr ffilm, a mae’r darn gorffenedig Moyo – Bywyd yn ffilm fer yn y ieithoedd Chichewa/Cymraeg/Saesneg sydd yn archwilio ac yn dathlu lleisiau pobl ifanc drwy gyfnewid diwylliannol.
Roedd y prosiect yn rhan o gynllun ‘Mynd yn Ddigidol’ Cyngor Prydeinig Cymru. Bydd y darn gorffenedig a ffilm ddogfen yn dangos y broses yn cael ei ddarlledu’n fyw yng ngwyl Theatr Y Pasg yn Blantyr, Malawi, a bydd ar gael i’w wylio yma dydd Gwener, Ebrill 8fed.
Tocynnau/Tickets: How To Be Well In A World That Is Sick? | Sut i Fod Yn Iach Mewn Byd Sydd Yn Sâl?

Sut I Fod Yn Iach Mewn Byd Sydd Yn Sâl?
Gwaith wedi’i ddyfeisio, ysgrifennu, cyfarwyddo a perfformio gan Bethan Dear
Cerddoriaeth wreiddiol gan Gwilym Morus Baird
Ffilm prosiect gan Heledd Wyn
Dydd Iau 28 Ebrill am 2:30pm
TOCYNNAU AR GAEL NAWR: YMA
Rhybudd:
Gall peth o gynnwys y sioe hon achosi tramgwydd neu ofid. Byddwch yn ymwybodol y ceir cyfeiriadau at drais rhywiol a theuluol, iselder, ôl-fflachiau, hunanladdiad, PTSD, trawma, a phroblemau iechyd meddyliol eraill. Pe hoffech gael gwybodaeth fwy penodol, mae croeso i chi gysylltu â ni a gofyn.
Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r materion hyn, ceir cymorth a gwybodaeth ddefnyddiol yn y llefydd canlynol:-
www.newpathways.org.uk neu dros y ffôn ar 01685 379 310
www.westwalesdas.org.uk
Llinel Gymorth Argyfwng 24 Awr 01970 625585 or 01239 615385
Llinell Gymorth Live Fear am ddim 0808 8010 800
www.samaritans.org neu dros y ffôn ar 08457 90 90 90
www.mentalhealth.org.uk
www.aber.ac.uk/en/student-support
Her Bro : Goleuadau Tanygrisiau
Dyma sioe Nadolig Ysgol Tangrisiau wedi cael ei creu gan Gai Toms yn trafod Tlodi Tannwydd yn yr ardal
Tremolo

Ar gael yma dydd Iau, Mawrth 3ydd
Gadael – Prolog Ynys Alys

Cofrestrwch ar gyfer newyddion, tocynnau a chynigion arbennig: https://eepurl.com/jc0Lf
National Theatre Wales

Mae’n gyfnod ansicr i ni i gyd. Fel cwmni, rydym yn ymwybodol iawn o’n rôl wrth gefnogi, galluogi a meithrin y sector perfformio o’n cwmpas yn ogystal â chynnig cyfle i bobl Cymru gysylltu â’r straeon a all ein huno mewn profiadau a rennir tra byddwn yn cael ein cadw ar wahân. Gwyddom fod hon yn adeg anodd i lawer ohonom, ond os gallwch ystyried rhoi rhodd i’n helpu i barhau â’n gwaith, byddem yn gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn.
Cofrestrwch er mwyn cael y diweddaraf gan National Theatre Wales y gellir ei anfon yn syth i’n mewnflwch. Cliciwch YMA i gael eich ychwanegu at ein e- gylchlythyr.
Cenedl Cymru yw ein llwyfan.
Rydym yn cyd-weithio gyda phobl a lleoliadau i greu theatr nodedig sydd yn ysbrydoli newid.
O’r agos atoch i’r pellgyrhaeddol, mae ein gwaith yn bwerus, dewr ac annisgwyl. Wedi ei gwreiddio yng Nghymru, gyda rhagolwg byd-eang, ni yw’r theatr genedlaethol cyfrwng Saesneg yng Nghymru.
Mae National Theatre Wales wedi llwyfannu mwy na 80 o gynyrchiadau ysbrydoledig mewn lleoliadau hyd a lled Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers Mawrth 2010.
Rydym fel arfer yn gweithio o safle bychan yng nghanol Caerdydd, ond rydym yn gweithio ar draws Cymru a thu hwnt, gan ddefnyddio tirwedd gyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi, dinasoedd a phentrefi, a’i straeon arbennig a thalent fel ein hawen.
Shirley Valentine – Rhagflas/Trailer
Gan Willy Russell
Dychweliad comedi aruthrol o waith awdur Blood Brothers ac Educating Rita – ond tro yma, wedi ei pherfformio yn y Gymraeg.
Mae Cool Cymru wedi glanio ym Merthyr, ac i bobl ifanc mae bywyd o’r diwedd yn llawn cyffro, Catatonia, Y Stereophonics – ac alcopops.
Nid felly i Shirley druan. I Shirley, mae bywyd a chyffro yn perthyn i’r gorffennol – ac mae’r blynyddoedd treuliodd yn troedio yn ei rhigol, yn wraig tŷ difflach a di-nod, wedi rhoi tolc yn ei hyder a’i breuddwydion. Ond mae Shirley ar fin camu i fyd fydd yn trawsnewid ei bywyd yn gyfan gwbl. Ymunwch â hi wrth iddi ffarwelio â fformeica’r gegin a’i drwco am bythefnos o wyliau yng Ngroeg : pythefnos fydd yn newid Shirley am byth.
Shelley Rees (BBC Radio Cymru, Pobol Y Cwm) fydd yn serennu fel Shirley Valentine yn y gomedi ddisglair yma sydd yn siŵr o godi calon a chynnal ysbryd ar ôl caledi’r cyfnod clo. Yn addas i bawb o ddysgwyr i siaradwyr rhugl. Dewch gyda ffrind, dewch gyda chriw, i fwynhau anturiaethau Shirley a hedfan gyda hi ar ei thaith annisgwyl i Baradwys – a bywyd newydd.
Arolwg Hygyrchedd | Accessibility Survey

Gwefan ac App i’r celfyddydau yng Nghymru yw AM – www.amam.cymru. Fel rhan o’n hymroddiad i gynyddu cynulleidfa a hygyrchedd i’r Celfyddydau yng Nghymru, rydym yn cynnal arolwg ymysg cwmniau a sefydliadau sydd yn creu gwaith theatrig neu berfformio i ddarganfod mwy am y sefyllfa bresennol a pha rwystrau sy’n parhau i atal gwella hygyrchedd. […]
Hijinx Social Impact Report – We are the Change Makers
We are the change makers! Our work changes the lives of our actors and participants. Over the course of a year our researchers unearthed some key themes that make Hijinx so important as the national inclusive theatre company of Wales.
Light from the Past
Y’n Ni Bron Yna? – Drama Radio
Drama radio gan Mared Llywelyn Williams ac aelodau Clwb Drama AGwedd Arad Goch. Yn nghanol cyfnod y clo yn 2020, mae teulu yn mentro mas yn y car… Oedd rhywbeth “essential” am y siwrnau hyn, tybed?
Y Stiwdio – Drama Radio
Drama radio gomedi gan Carwyn Blayney, Catrin Daniel, Caitlin Meredith a Lleucu Sion gyda mewnbwn a syniadau holl aelodau clwb drama AGwedd. Pwy a wyr beth sydd i’w glywed mewn hen stiwdio recordio rhyfedd?
Monologau’r Maes: John Ogwen

Yr olaf yn y gyfres yw monolog ddirdynnol Llywelyn, sydd hefyd o ddrama bwerus Saunders Lewis, Siwan, gyda pherfformiad arbennig gan John Ogwen. Cafodd hon ei ffilmio yng Nghastell Dolbadarn, Llanberis.
Monologau’r Maes: Lemfreck

Monolog enwog Hamlet o addasiad Cymraeg JT Jones o ddrama Shakespeare sy’n cael ei pherfformio gan Lemfreck fel rhan o gyfres Monologau’r Maes.
Cyfarwyddwr Lluniau: Griff Lynch
Cyfarwyddwr: Steffan Donnelly
Cynhyrchiad ar y cyd gyda Chwmni Theatr Invertigo
Rhagor am brosiect Dramâu Cymru
Diolch i Theatr y Globe, Llundain.
Monologau’r Maes: Lauren Connelly

Monolog Liberty o ddrama Catrin Dafydd, Merched Caerdydd, fydd yn cael ei pherfformio gan Lauren Connelly. Cafodd y ddrama hon ei chreu’n wreiddiol fel rhan o arlwy Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 cyn mynd ar daith o amgylch Cymru gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Rhybudd: Mae’r monolog yma’n cynnwys iaith gref.
Monologau’r Maes: Siân Phillips

Y Fonesig Siân Phillips sy’n serennu yn y cyntaf o bedair monolog o Faes yr Eisteddfod 2021, gan draddodi araith Siwan o Act III y ddrama gan Saunders Lewis.
Cyfarwyddwr lluniau: Griff Lynch
Cyfarwyddwr: Steffan Donnelly
Cynhyrchiad ar y cyd gyda Chwmni Theatr Invertigo.
Rhagor am brosiect Dramâu Cymru
Panto 2021 – ‘Ni Nôl a Ni Mlan’

4 – 11 Rhagfyr 2021
Mae cyffro mawr yn Nyffryn Aeron a Chymru gyfan o ran hynny…
Mae Al y Ci, Mami a’r Ficer wedi bod yn gweitho ar gywaith – hanes Cymru o berspectif hollol newydd. Mae Hanes Ci-mru ar fin cael ei lansio yn Y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ond mae’r Dynion Drwg yn eu holau gyda chynllun aml-haen fydd yn rhoi stop ar Filiwn o Siaradwyr, stop ar Ddiwylliant, stop ar drosglwyddo straeon a hanesion o genhedlaeth i genhedlaeth…. mae’n gynllun ANHYGOEL!
Pwy fydd yn ennill y dydd ac yn sicrhau bod ein hetifeddiaeth yn ddiogel???
TOCYNNAU: 01570 470697
Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road

Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin o Grymych i Gwm Gwaun. Mae’r prosiect wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau. Roedd y sesiynau cychwynnol yn gyfle i ddod i adnabod y lle o wahanol […]
Enfys – Pennod 4 (Gyda/With BSL)
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw yn falch o gyflwyno cyfres o bedair drama ddigidol fer – ENFYS gan Melangell Dolma. Dyma ddrama sy’n dathlu dysgu Cymraeg, gyda’r cymeriad Nick dysgwr Cymraeg ac yn mynychu gwersi ar-lein gyda’i diwtor Enfys. Cawn gyfle i weld ei berthynas gydag Enfys yn datblygu, gyda sawl digwyddiad […]
Enfys – Pennod 1 (Gyda/With BSL)
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw yn falch o gyflwyno cyfres o bedair drama ddigidol fer – ENFYS gan Melangell Dolma. Dyma ddrama sy’n dathlu dysgu Cymraeg, gyda’r cymeriad Nick dysgwr Cymraeg ac yn mynychu gwersi ar-lein gyda’i diwtor Enfys. Cawn gyfle i weld ei berthynas gydag Enfys yn datblygu, gyda sawl digwyddiad […]
Enfys – Pennod 2 (Gyda/With BSL)
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw yn falch o gyflwyno cyfres o bedair drama ddigidol fer – ENFYS gan Melangell Dolma. Dyma ddrama sy’n dathlu dysgu Cymraeg, gyda’r cymeriad Nick dysgwr Cymraeg ac yn mynychu gwersi ar-lein gyda’i diwtor Enfys. Cawn gyfle i weld ei berthynas gydag Enfys yn datblygu, gyda sawl digwyddiad […]
Enfys – Pennod 3 (Gyda/With BSL)
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw yn falch o gyflwyno cyfres o bedair drama ddigidol fer – ENFYS gan Melangell Dolma. Dyma ddrama sy’n dathlu dysgu Cymraeg, gyda’r cymeriad Nick dysgwr Cymraeg ac yn mynychu gwersi ar-lein gyda’i diwtor Enfys. Cawn gyfle i weld ei berthynas gydag Enfys yn datblygu, gyda sawl digwyddiad […]
The Tigerface Show

Thursday 21 & Friday 22 October 2021 at 7pm
Tickets – £5
Music Theatre Wales

Mae Music Theatre Wales yn newid y ffordd y mae opera a theatr gerddoriaeth yn cael eu gwneud a’u dirnad trwy ymwneud â’r rhai sy’n eu creu ac â’r gynulleidfa: Ymestyn allan at gynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol; Ymateb i’r gymuned a’i hadlewyrchu; Dathlu opera fel ffurf amlddisgyblaethol.
Rhiannon Boyle | 🤰Ysgrifennu ‘Anfamol’ / Writing ‘Anfamol’ 🤰
Dyma Rhiannon Boyle, awdur ‘Anfamol’ yn trafod y ddrama, yr ysbrydoliaeth y tu ol iddi a phlethu hiwmor gyda’r adegau tywyll mewn bywyd.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am #Anfamol, ar daith ledled Cymru 29 Medi – 22 Hydref
Cynhyrchiad mewn cydweithrediad a Sherman Theatre
BSL – Anfamol
Mae 2 berfformiad o Anfamol ar gael sydd wedi’i dehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane. Am gael gwybod mwy am y cynhyrchiad a sut i archebu tocynnau? Gwyliwch y fideo!
Anfamol | gan/by Rhiannon Boyle (Trailer)
“Mae’n rhoi rhyw mental image ohona i yn ista ar wy… fatha iâr desperate!”
#Anfamol: Ar daith ledled Cymru o 29/9/2021
Tocynnau ar gael nawr:
Cyfweliad Bethan Ellis Owen (Ani) Interview | Anfamol
Cyfle i glywed gan Bethan Ellis Owen sy’n chwarae ‘Ani’ yn Anfamol.
”Byddwch yn barod i fynd ar y rollercoster hefo hi swn i’n ddweud!”
Ar daith ledled Cymru 29/9/2021 – 22/9/2021
Mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman
Y Teimlad | That Feeling
Ymunwch â chast Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2021 ar daith epig yn llawn cerddoriaeth, ble mae byd y Duwiau Cariad hynafol yn gwrthdaro gyda realiti cariad yn y Gymru gyfoes. Wedi ei hysgrifennu gan Hanna Jarman a’i hysbrydoli gan y cast, mae’r gymysgfa ddwyieithog, fywiog hon o ffilm a theatr (gyda rhywfaint o Zoom seicedelig) […]
FIO

Mae Fio yn bodoli er mwyn creu newid cadarnhaol yn y sector gelfyddydol a diwylliannol yng Nghymru. Rydym yn gwmni theatr a chelfyddydau wedi’i leoli yng Nghaerdydd, a sefydlwyd yn 2016. Ein gweledigaeth yw bod pobl Mwyafrif Bydeang yn ganolog i ac yn ffynnu ym mhob agwedd o theatr a chelfyddydau yng Nghymru. Rydym yn […]
Canolfan
Comisiynwyd y gerddoriaeth a’r ffilm hon cyn i’r Ganolfan ailagor, i roi gipolwg ar yr hyn a wneir gennym – ‘rydym yn rhan o gymuned artistig gref, sy’n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau, mwynhau’r celfyddydau a chreu gwaith newydd cyffrous.
Mae’n dathlu beth mae’r celfyddydau yn golygu i ni i gyd yn dilyn pandemig – gan ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd, yn rhannu emosiynau. Mae’n mynegi pa mor bwysig yw’r celfyddydau a chymaint yr ydym wedi eu methu.
Mae wedi bod yn brosiect hynod galonogol a phositif a gobeithiwn y bydd pawb yn ei fwynhau gymaint â ni! Diolch yn fawr iawn i bawb oedd yn cymryd rhan!
“Ei Di’n Ôl?” – Elgan Rhys

Ym mis Awst 2021 fe ddychwelodd Elgan i Ben Llŷn gyda chwestiwn yn llosgi. Yn y fideo hwn, cawn flas o’r sgyrsiau gafodd ef gyda thrigolion a chyn-drigolion o’r ardal am y cysyniad o ddychwelyd.
“Transhumantzia” – Oihana Iguaran + Amaia Gabantxo
Cynhyrchwyr:
Cwmni Theatr Invertigo, Etxepare Institute, a Cwmni Tebot
Amaia Gabantxo ac Oihana Iguaran
Transuhmantzia Ó Amaia Gabantxo & Oihana Iguaran