Comisiynwyd y gerddoriaeth a’r ffilm hon cyn i’r Ganolfan ailagor, i roi gipolwg ar yr hyn a wneir gennym – ‘rydym yn rhan o gymuned artistig gref, sy’n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau, mwynhau’r celfyddydau a chreu gwaith newydd cyffrous.
Mae’n dathlu beth mae’r celfyddydau yn golygu i ni i gyd yn dilyn pandemig – gan ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd, yn rhannu emosiynau. Mae’n mynegi pa mor bwysig yw’r celfyddydau a chymaint yr ydym wedi eu methu.
Mae wedi bod yn brosiect hynod galonogol a phositif a gobeithiwn y bydd pawb yn ei fwynhau gymaint â ni! Diolch yn fawr iawn i bawb oedd yn cymryd rhan!