Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw’r ganolfan fwyaf o’i math yng Nghymru ac fe’i hystyrir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau. Mae ganddi raglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol, ac fe’i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau.