Cartref digidol diwylliant Cymru.

“Transhumantzia” – Oihana Iguaran + Amaia Gabantxo

Seinwedd yw Transhumantzia, o waith Oihana Iguaran ac Amaia Gabantxo, sy’n dychmygu taith mewn sain o’r mynyddoedd i’r môr. Fel adlais seiniol a adawyd wrth drawsweddu defaid o fferm Oihana ar lethrau Mynydd Atxurbi, rhwng Mynydd Aizkorri a Mynydd Aralar, i bentref pysgota Amaia yng ngwarchodfa natur Urdaibai ym Mae Biscay, mae pob sain yn Transhumantzia wedi cael ei recordio gan Oihana Iguaran ac Amaia Gabantxo yn eu lleoliadau daearyddol eu hunain.

Bu Oihana yn recordio’i defaid wrth iddi eu gyrru ar draws caeau, drwy afonydd a thros bontydd a ffyrdd; bu’n eu recordio yn nyfnder y goedwig, yn uchel ar y mynydd gwyntog, ac wrth iddyn nhw bori’r glaswellt yn ddioglyd. Bu hefyd yn recordio’r adar a’r cŵn sy’n rhan o’i bywyd hi.

Bu Amaia yn recordio’r tirweddau o gwmpas Bermeo, ei phentref pysgota. Y gwynt ar y creigiau lle saif y goleudy, yn Cape Matxitxako; yr afonydd sy’n llifo o’u tarddiad yn uchel yn y mynyddoedd i gwrdd â’r môr, megis Infernuko Erreka, lle mae llyffantod yn crawcian ar y lleuad; y criciaid yn canu yn y dolydd ger traeth Aritzatxu; y tonnau’n llepian yn erbyn y creigiau a’r cychod; y cychod yn clecian a mwmial gyda’i gilydd wrth iddyn nhw arnofio, ynghlwm â’i gilydd yn y pontŵns; clychau’r eglwys yn canu ar y dŵr yn nistawrwydd y nos; cri’r gwylanod. Bu hefyd yn recordio synau tanddwr, gan arbrofi gyda hydroffôn newydd.

Oihana Iguaran, sy’n bertsolari, fu’n creu’r geiriau ar gyfer y ddwy gân y byddwch yn eu clywed yn y seinwedd hwn. Yn rhan gyntaf y recordiad mae hi’n canu bertsos traddodiadol, a grëwyd yn fyrfyfyr o amgylch alaw, fel mae’r bertsolaris yn ei wneud. Ar gyfer ail ran y darn, gan gadw llinellau gwreiddiol hyfryd y cytgan – sy’n eiconig gan y Basgiaid – aeth Oihana ati i addasu geiriau’r Itsasoan laino dago, sef cân forol draddodiadol o Wlad y Basg, i adlewyrchu ar y symud parhaus hwn, y daith hon o drawsweddu o’r mynyddoedd i’r môr, sy’n ei hailadrodd ei hun ar hyd yr oesoedd.

Gan adleisio’r syniad hwnnw o ailadrodd a dychwelyd, mae Amaia’n canu’r fersiwn hwn o Itsasoan laino dago dros ddarn byr o recordiad o’r un gân a wnaed yn 1985, sain sacsoffôn/corn môr Iosu Urkidi, a’r seiniau y bu’n eu casglu ar yr arfordir; mae’r rhain yn gweithredu fel math o offeryniaeth naturiol, gan greu’r un effaith ag a gafodd synau’r mynydd a’r goedwig ar ganu Oihana.

Yn Transhumantzia, trwy ddefnyddio llais a synau natur gan mwyaf, mae Oihana ac Amaia yn gobeithio amlygu prydferthwch Euskara – ei hirhoedledd, ei berseinedd cynhenid a’i weadau unigryw – a’i ddatgelu yn ei gynefin acwstig naturiol fel bod modd i eraill ei fwynhau. Mae Transhumantzia hefyd yn bodoli mewn cyd-destun celfyddydol ecolegol, gan anelu at agor gofod yn y dychymyg i’r posibilrwydd o greu mwy o berthnasoedd cytûn rhwng pobl a’r amylchedd.

RHANNWCH