Mae PERERINDOD yn brosiect newydd gan Invertigo a Chwmni Tebot sydd am gefnogi artistiaid i greu gwaith newydd, beiddgar, a ffurfio cysylltiadau gydag artistiaid drwy Gymru a Gwlad y Basg. Uchafbwynt y prosiect fydd Gŵyl Rithiol Pererindod lle byddwn yn arddangos a dathlu’r gwaith newydd yn ystod penwythnos yr 17eg – 19eg o Fedi.
Cefnogwyd y prosiect gan ein partneriaid Cyfoeth Naturiol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwn hefyd yn gweithio gydag artistiaid o Wlad y Basg a mi fyddent hwythau yn ymateb i’r syniad o ‘Bererindod’. Mae’r prosiect yma wedi derbyn grant Cysylltu a Ffynnu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol.







