Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin o Grymych i Gwm Gwaun. Mae’r prosiect wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a
theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau. Roedd y
sesiynau cychwynnol yn gyfle i ddod i adnabod y lle o wahanol bersbectifau. Dilynodd y crwydradau yma gan benwythnos dwys o gerddora pan wahoddwyd cyfranogwyr a cherddorion i roi llais i ganeuon y lle. Yna, cafodd llais, sain a chân eu hymgorffori i’r faled radio derfynol, cofnod llafar o le unigryw, un
y bydd y cenedlaethau i ddod yn gallu ei werthfawrogi a’i fwynhau am
flynyddoedd yn y dyfodol.