Mae CULT Cymru yn rhaglen ar y cyd rhwng yr undebau yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru. Fe’i cynhelir gan Bectu yn gweithio mewn partneriaeth ag Equity, Undeb y Cerddorion, Urdd Awduron Prydain Fawr a TUC Cymru.
Ein Gweithgareddau:
-
Sgiliau Busnes (Gweithio’n Llawrydd, Marchnata a Hyrwyddo, Ysgrifennu cais, Rhwydweithio, CVs…)
- Sgiliau Digidol (Creu gwefannau, Cyfryngau cymdeithasol, Rhannu ffeiliau, Podlediad, Photoshop, CAD….)
- Rôl Benodol (Colur a Gwallt, Camera, Blaen y Tŷ, Hyfforddi Llais, Dosbarthiadau Meistr Cerddoriaeth, Ysgrifennu ar gyfer Gemau….)
- Statudol (Achrededig – Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, Diogelwch Tân…
- Iechyd Meddwl a Lles (Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Cydnerthedd, Meddwlgarwch…)
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Model Cymdeithasol o Anabledd, Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol, Creu Ymarfer Hygyrch….)
- Hyfforddi yr Hyfforddwr ac Annog a Mentora
Sefydlwyd CULT Cymru (Creative Unions Learning Together) yn 2008 ac fe’i cefnogir gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) Llywodraeth Cymru.
Mae CULT Cymru yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid o fewn a thu allan i’r diwydiannau creadigol i gefnogi miloedd o weithwyr creadigol i gyrraedd eu potensial drwy gynnig cyfleoedd dysgu sy’n berthnasol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy